Adnoddau

Addoliad a Gweddi » Adnoddau Eraill

¡Viva Guatemala!

Yn ystod 2012, bydd adnoddau ar gyfer ein hapêl ¡Viva Guatemala! ar gyfer Cymorth Cristnogol yn ymddangos ar y dudalen hon.

Gofynnir i eglwysi anfon eu casgliadau i Drysorydd yr Henaduriaeth. Os ydych wedi gorffen casglu, anfonwch eich cyfraniad cyn gynted â phosibl!

Siaradwyr

Ym mis Awst 2011, fe wnaeth Anna Jane Evans o Gymorth Cristnogol a Mari Fflur, Pennaeth Cyfathrebu EBC, ymweld â Guatemala er mwyn dysgu mwy am waith chwe phartner Cymorth Cristnogol yno. Os hoffech drefnu ymweliad gan un ohonynt, cysylltwch â Swyddfa Ganolog EBC (de Cymru) neu swyddfa Bangor Cymorth Cristnogol (gogledd Cymru).

Gallwch weld lluniau o'u taith ar ein tudalen Flickr.

Adnoddau Gorffennaf 2012

Adnoddau Ionawr 2012

Cysylltwch â'r Swyddfa Ganolog os dymunwch gael fersiwn ansawdd uchel o'r cyflwyniad PowerPoint.