Profwch hanes dramatig Wythnos y Pasg mewn amser real: marwolaeth ac atgyfodiad Iesu, gyda chyfres o negesuon testun rhad ac am ddim, drwy e-bost, Facebook neu Twitter.
Rydym i gyd yn byw bywydau prysur iawn. Bywyd teuluol, gwaith, cymdeithasol – mae ‘na gymaint o bethau sy’n cymryd ein hamser ni y dyddiau hyn.
Mae Cyngor Ysgolion Sul newydd lansio prosiect newydd o’r enw Y Profiad. Pwrpas y prosiect yw ein hatgoffa o ddigwyddiadau’r Wythnos Fawr (yr wythnos sy’n arwain at groeshoeliad ac atgyfodiad Iesu Grist) mewn amser real.
Y gobaith yw y byddwn yn cofio ac yn rhannu ym mhrofiadau’r groes, a hynny wrth i ni fyw ein bywydau prysur heddiw.
Ewch i www.yprofiad.com am wybodaeth bellach.
Ychwanegwch eich sylwadau ar yr erthygl hon ...