Cyfleon
Y Goleuad: Golygydd
Gyda thymor tair blynedd y golygydd yn dod i ben ym mis Hydref, dymuna Eglwys Bresbyteraidd Cymru benodi Golygydd ar gyfer Y Goleuad, sef ei wythnosolyn Cymraeg. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus ddiddordeb mewn materion crefyddol a dawn lenyddol.
Swydd ran-amser yw hon.
Disgrifiad swydd | Ffurflen gais
Os am sgwrs bellach, cysylltwch â Mari Fflur, Pennaeth Cyfathrebu, ar 029 2062 7465 neu mari@ebcpcw.org.uk.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Mercher 19 Mehefin 2013.
Gweithiwr Cristnogol (x2)
Dymuna Henaduriaeth Morgannwg Llundain benodi dau Weithiwr Cristnogol, y naill yng Nghwm Tawe a’r llall ym Mhort Talbot.
Mae’r swyddi rhain yn rai llawn amser (35 awr yr wythnos). Mae'r gallu i siarad ac ysgrifennu Cymraeg yn angenrheidiol ar gyfer y swyddi yma.
Cyflog: £18,688-£22,000 + lwfans
Swydd ddisgrifiad Gweithiwr Cristnogol Port Talbot | Swydd ddisgrifiad Gweithiwr Cristnogol Cwm Tawe | Ffurflen gais
Am ffurflen gais neu sgwrs anffurfiol, cysylltwch â’r Parchedig Dafydd Andrew Jones, Ysgrifennydd Henaduriaeth Morgannwg Llundain, drwy Swyddfa Eglwys Bresbtyeraidd Cymru, ar 029 20627465 neu swyddfa.office@ebcpcw.org.uk.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Mercher 19 Mehefin 2013.
Y Weinidogaeth
Am wybodaeth ynglŷn â bod yn weinidog gyda ni, ewch i'r dudalen Hyfforddiant neu cysylltwch â'r Cyfarwyddwr Hyfforddiant.
Ymweld â'r gweithle arfaethedig
Mae croeso i unrhywun sydd â diddordeb mewn ymgeisio am swydd gydag EBC i ymweld â'r gweithle arfaethedig am sgwrs anffurfiol cyn gwneud cais. Cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion cyswllt ar yr hysbyseb perthnasol.



