"Fy mhlant, gadewch inni garu, nid ar air nac ar dafod, ond mewn gweithred a gwirionedd." (I Ioan 3:18)
"Mae cariad yn amyneddgar. Mae cariad yn garedig. Dydy cariad ddim yn cenfigennu, ddim yn brolio'i hun, nac yn llawn ohono’i hun." (I Corinthiaid 13:4)
"Dylai'ch agwedd chi fod yr un fath ag agwedd y Meseia Iesu." (Philipiaid 2:5)
"Ymddiried yn llwyr yn yr Arglwydd, a phaid â dibynnu ar dy ddeall dy hun." (Diarhebion 3:5)
"Dewch ata i, bawb sy'n cael eich llethu gan feichiau trwm, a rhof i orffwys i chi." (Mathew 11:28)
"Llawenhewch yn yr Arglwydd bob amser; fe’i dywedaf eto, llawenhewch." (Philipiaid 4:4)
"A dywedodd Duw, "Bydded goleuni." A bu goleuni." (Genesis 1:3)
"Dywedodd wrthyn nhw, "Ewch i gyhoeddi'r newyddion da i bawb drwy’r byd i gyd." (Marc 16:15)
"Syr, dyn ni eisiau gweld Iesu." (Ioan 12:21)
"Mae’r golau yn dal i ddisgleirio yn y tywyllwch, a’r tywyllwch wedi methu ei ddiffodd. " (Ioan 1:5)
Yn 1897 cychwynwyd yr achos yn Nghapel Bethlehem, Abergwyngregyn. Ac ar hyn o bryd, mae 26 aelod. Yn 1999 cafwyd y gwasanaeth cyntaf gan yr Eglwys yng Nghymru yn y capel, ac rydym yn cydaddoli yn ngwasanaethau'r Cynheaf a'r Nadolig.
Ar nos Fercher am 5:30yh, cynhelir Clwb Ieuenctid y Capel (CIC), sy'n cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau i'r bobl ifanc. Rydym yn croesawu'r pentrefwyr a'r gymdeithas leol atom yn ystod y flwyddyn drwy gynnal cyngherddau, darlith a diwrnod o hwyl yn yr haf.