Newyddion

Cymorth Cristnogol yn diolch i eglwysi

Cymorth Cristnogol yn diolch i eglwysi

Dyddiad: 18/10/2011

Yn dilyn cefnogaeth gan amryw o eglwysi Presbyteraidd i apêl Dwyrain Affrica Cymorth Cristnogol, bu Branwen Niclas, Cydlynydd Cyfathrebu Cymorth Cristnogol, yn ymweld â gogledd Kenya er mwyn adrodd yn ôl ar y sefyllfa dri mis wedi lansio'r apêl sychder.

Yn y ddwy ffilm isod, mae Branwen yn dangos rhywfaint o'r gwaith sy'n cael ei wneud gan bartneriaid Cymorth Cristnogol er mwyn lleddfu effeithiau'r argyfwng dyngarol yn y rhanbarth.

Mae ffilm gyntaf Branwen yn dangos y gwaith hirdymor a wneir gan bartner Cymorth Cristnogol, Christian Community Services (CCS). Mae ei hail ffilm yn sôn am effeithiau'r sychder ar ferched drwy lygaid Mercy, sy'n gweithio i CCS.

Sylwadau Ychwanegol

Ychwanegwch eich sylwadau ar yr erthygl hon ...

Defnyddiwch y ffurflen isod.

:

:

: