Newyddion

¡Viva Guatemala!

¡Viva Guatemala!

Dyddiad: 19/10/2011

Mae holl eglwysi Eglwys Bresbyteraidd Cymru wedi derbyn pecyn apêl ar gyfer apêl ¡Viva Guatemala!.

"Bydd 2012 yn flwyddyn pryd y byddwn fel eglwysi ac aelodau Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn gwneud ymdrech arbennig i godi arian tuag at waith Cymorth Cristnogol yn Guatemala," meddai'r Parchg Catrin Roberts, Cydlynydd yr Apêl.

"Mae'r pecyn gwybodaeth sydd wedi ei anfon i bob eglwys yn cynnwys posteri lliwgar, taflenni gwybodaeth am y wlad a’i hanghenion a’r prosiectau fydd yn cael ein cefnogaeth trwy waith Cymorth Cristnogol. Yn y pecyn hefyd ceir taflenni unigol y gallwch eu dosbarthu i bob cartref yn eich plith. Os na fyddwch wedi derbyn pecyn erbyn dechrau 2012 cysylltwch ag Ysgrifennydd eich Henaduriaeth.

"Apeliaf arnoch i gymryd yr apêl hwn o ddifri ac i fynd ati yn y flwyddyn newydd i annog eich aelodau i gyfrannu ac i gynnal gweithgareddau codi arian.  Rhan hanfodol arall o’r apêl yw’r cyfle a gawn i weddïo dros ein brodyr a’n chwiorydd yn Guatemala a thros waith Cymorth Cristnogol."

 

£1 y mis!

Gobaith yr apêl yw codi £200,000. Gellir gwneud hynny petai pob aelod yn rhoi dim ond £1 y mis am flwyddyn.

Mae ochr ysbrydol i'r apêl hefyd wrth gwrs, felly bwriedir llunio gwasanaethau a gweddïau etc i gynorthwyo'n cynulleidfaoedd. Erbyn Ionawr 2012 bydd cyflwyniadau powerpoint a sgriptiau ar gael i’ch cynorthwyo i gyflwyno’r apêl yn lleol. Bydd gwybodaeth am yr adnoddau hyn i’w gweld ar y wefan hon, neu cysylltwch â Catrin Roberts.

Yn ogystal, bydd Anna Jane Evans, Mari Fflur Williams a Catrin Roberts ar gael i gyflwyno’r apêl mewn cyfarfodydd. Cysylltwch â Swyddfa Eglwys Bresbyteraidd Cymru yng Nghaerdydd 02920 627465 i wneud ymholiadau.

 

Casgliadau a sieciau...cofiwch!

  • Dylai aelodau wneud unrhyw sieciau yn daladwy i’r eglwys leol gan nodi Guatemala ar gefn y siec
  • Dylai’r eglwys leol fancio unrhyw arian a sieciau a gesglir.
  • Dylai’r eglwys leol anfon siec sy’n cynnwys cyfraniadau’r eglwys leol + ffurflenni rhodd cymorth i Drysorydd yr Henaduriaeth. 
  • Bydd Trysorydd yr Henaduriaeth yn anfon siec i gynnwys casgliadau eglwysi’r Henaduriaeth i Swyddfa EBC yng Nghaerdydd.
  • Ni ddylai’r eglwysi lleol anfon arian yn uniongyrchol i'r swyddfa yng Nghaerdydd.

 

Rhodd Gymorth

Nid oes amlenni arbennig ar gyfer eich rhoddion, ond ym mhecyn yr eglwys mae taflen y gellir ei dyblygu a’i rhoi i bobl sydd yn talu treth er mwyn i ni hawlio Rhodd Gymorth yn ôl. Bydd hyn yn ychwanegu llawer at y casgliad terfynol.

 

Am fwy o wybodaeth am unrhyw ran o'r Apêl, cysylltwch â'r Cydlynydd (Mans Soar, Pontyberem, SA15 5ED | 01269 871871 | catrinrob@btinternet.com) neu â Swyddfa EBC yng Nghaerdydd.

Sylwadau Ychwanegol

Ychwanegwch eich sylwadau ar yr erthygl hon ...

Defnyddiwch y ffurflen isod.

:

:

: