Newyddion

Tymor prysur yn Eglwys Tŷ'r Gymuned

Tymor prysur yn Eglwys Tŷ'r Gymuned

Dyddiad: 22/11/2011

Mae Eglwys Tŷ'r Gymuned yng Nghasnewydd wedi cael tymor prysur, gan gynnal sawl dathliad a threulio amser yng nghwmni gwahanol grwpiau ffydd, grwpiau cymunedol a phlant o'r ysgol leol.

Ym mis Medi, daeth plant o Ysgol Maindee i gynorthwyo'r eglwys mewn dathliad o Ddiwrnod Heddwch Rhyngwladol. Daw llawer o'r plant o gefndiroedd amrywiol iawn, felly mae'r eglwys yn gweithio i ddod â phobl o wahanol ddiwylliannau at ei gilydd o dan un to.

Fe wnaeth Tŷ'r Gymuned ddathlu Diolchgarwch ym mis Medi hefyd. "Daeth aelodau o Eglwys y Duw Proffwydol a Sargesse, bugail Cynulliad y Concerwyr, atom," meddai Marilyn Priday, Gweithwraig Ryng-ffydd Tŷ'r Gymuned. "Daeth rhai o'n cyfeillion Mwslemaidd atom, hefyd."

“Soniodd Afia am y cynhaeaf ym Mhacistan a dywedodd Adam ychydig eiriau am ei daith ddiweddar adref i'w bentref Cristnogol yn Bangladesh. Yna, dangosodd Ben sut y mae technoleg gwybodaeth yn ein galluogi i weld rhannau arall o'r byd drwy'n cyfrifiaduron drwy ddefnyddio Google Earth."

Yn hwyrach yn y tymor, cynhaliodd Grŵp Rhyng-ffydd Casnewydd ddigwyddiad i ddathlu Wythnos Ryng-ffydd 2011 ac Wythnos Un Byd o dan y thema 'Byw ar gyfer Un Byd'. Fe wnaeth aelodau o sawl ffydd gwahanol gyfrannu gyda darlleniadau, cerddi, siarad a cherddoriaeth.

Ymwelodd dau ddosbarth Blwyddyn 4 o Ysgol Maindee â'r capel hefyd fel rhan o'u maes llafur Addysg Grefyddol, er mwyn dysgu am addoliad Cristnogol.

Sylwadau Ychwanegol

Ychwanegwch eich sylwadau ar yr erthygl hon ...

Defnyddiwch y ffurflen isod.

:

:

: