Newyddion

Heb ein anghofio

Heb ein anghofio

Dyddiad: 23/12/2011

 Yn wahanol i lawer o arweinyddion gwledydd y byd, nid yw Iesu wedi pellhau oddi wrth y rhai sydd mewn angen, meddai’r Parchedig R.O. Roberts, Llywydd Eglwys Bresbyteraidd Cymru, yn ei neges Nadolig.  Ar adeg pan fo llawer o bobl yn teimlo fod bywyd yn mynd yn anoddach, cawn ein hatgoffa fod Duw wedi anfon Iesu i helpu i ddatrys problemau pobl fel ni.

"Ynghanol y dathlu – o wrando’n ofalus – clywir lleisiau pryderus, gwelwn unigrwydd a thywyllwch a rhyw hiraeth am i’r cyfan fod drosodd am flwyddyn arall,” meddai. “Argyfyngau, trais, ymgecru a rhyfeloedd ydy prif thema'r newyddion onibai am hanes dihangfa ddramatig neu dro trwstan.  Mae’n hawdd iawn anobeithio a meddwl fod y byd yn gwaethygu.  Teimla rhai fod bywyd yn mynd yn galetach a’u bod wedi eu anghofio.

“Ond daeth gobaith i’r byd wrth i‘r Arglwydd Iesu Grist gael ei eni ym Methlehem.  Yn y babi yn y preseb cyflawnir addewid Duw ei fod yn dal i gofio am ei bobl.  'Y bobl oedd yn rhodio mewn tywyllwch a welodd oleuni mawr;' a ddywed pennod 9 o lyfr Eseia yn y Beibl, 'Canys bachgen a aned i ni, mab a roed i ni, a bydd yr awdurdod ar ei ysgwydd.' Byddai pob doethineb a gallu yn hwn, 'Fe'i gelwir, ‘Cynghorwr rhyfeddol, Duw cadarn, Tad bythol, Tywysog heddychlon’'. Dyma un a fyddai’n medru canfod atebion i broblemau dynion a merched. Dyma un sydd wedi wedi dod i’n byd i agor y ffordd at Dduw y Tad. Trwy yr Arglwydd Iesu cawn berthynas newydd ag ef, perthynas o ofal a chariad a gobaith gyda’r hwn sydd yn Frenin daear a nef.'

Tydi hwn, fel llawer i arweinydd yn ein byd, ddim wedi ymbellhau a chuddio oddi wrth y rhai sydd mewn angen.  Daeth yn un ohonom; yn un y gallai'r cyfoethog a’r tlawd, yr enwog a’r mwyaf dinod ac anghenus gael ei sylw. Daeth nid i lys brenhinol ond i breseb ym Methlehem, i fan y gallai pawb ymweld ag ef a’i adnabod.  Fel ei ddilynwyr, cyhoeddwn y Nadolig hwn fod Duw'r crewr a’r cynhaliwr, y Duw sy’n gwaredu, ar gael i bawb yn Iesu Grist.

“Dyma ei neges yn ein cyfnod ni, cyfnod arwynebol a di-ffydd ond cyfnod hefyd o boeni ac ofni.  Ynghanol yr holl ansicrwydd, mae’n dal i ddweud ‘Peidiwch ag ofni...yr wyf yn cyhoeddi i chwi y newydd da am lawenydd mawr a ddaw i’r holl bobl. Ganwyd i chwi waredwr...Meseia, yr Arglwydd.’  Y Nadolig yma, mae’r Iesu yn dal ar gael i bob un sy’n chwilio amdano.

"Anogwn ein gilydd i ymuno gyda’r bugeiliaid gynt, “Awn i Fethlehem i weld y peth yr hysbysodd yr Arglwydd ni amdano”.  Y Nadolig yma, mae’r Iesu yn dal ar gael i bob un sy’n chwilio amdano."

Yn enedigol o Lyn, bu'r Parchg R.O. Roberts yn astudio yn Coventry, Bangor ac Aberystwyth ac yn weinidog yn Nyffryn Conwy cyn dychwelyd i Lyn yn weinidog ar ardal Morfa Nefyn yn 1986.  Yn ogystal â bod yn weinidog ar bum eglwys, mae'n weithgar iawn gyda gwahanol fudiadau yn yr ardal.  Mae'n gadeirydd Trobwynt - cenhadaeth leol i'r ifanc - ac mae ganddo golofn ym mhapur bro Llanw Llyn.

Sylwadau Ychwanegol

Ychwanegwch eich sylwadau ar yr erthygl hon ...

Defnyddiwch y ffurflen isod.

:

:

: