Newyddion

Y Llafur yn Parhau yn Llanfairpwll

Y Llafur yn Parhau yn Llanfairpwll

Dyddiad: 22/01/2012

Dathlu lansiad cyfrol, gwasanaeth oes a chyfraniadau hael i ddwy elusen yn Eglwys Unedig Rhos y Gad, Llanfairpwll.

Roedd lansiad cyfrol ‘Y Llafur yn Parhau’ yn achlysur hanesyddol i Eglwys Unedig Rhos y Gad, Llanfairpwll.

Mae’r llyfr, gan Wyn Evans, yn rhoi braslun o hanes yr eglwys o achlysur dathlu canmlwyddiant agor y capel presennol yn 1973 hyd 2008. 

Mewn cyfarfod yn y Festri ddydd Sul 15 Ionawr, rhoddwyd copi o’r llyfr i bob aelwyd sy’n aelodau yn yr eglwys.

Cafodd Wyn Evans y syniad o baratoi’r gyfrol 75 tudalen yn sgil mynychu cwrs ar hanes lleol, pan ofynnwyd i’r dosbarth baratoi ysgrif ar adeilad, sefydliad neu berson arbennig a chysylltiad â’r pentref.

Mae ‘Y Llafur yn Parhau’ yn ddilyniant i ‘Llafur Eraill’, llyfryn a ysgrifennwyd gan y Parchg John Bennett Jones a C.O. Lewis ar gyfer dathliadau 1973. Mae ‘Llafur Eraill’ yn olrhain hanes yr achos ers sefydlu’r capel gwreiddiol yn 1785 a’r adeilad presennol ei adeiladu yn 1873.

Mae’r llyfr wedi ei seilio ar sawl ffynhonnell, gan gynnwys cofnodion yr eglwys ac adroddiadau yn y wasg, ac mae’n cynnwys nifer o luniau hefyd. Mae’n sôn am ddathliadau 1973 yn ogystal â thrafod pynciau mor amrywiol â ‘Bywyd Ysbrydol yr Eglwys’, ‘Bywyd Cymdeithasol yr Eglwys’ a ‘Materion Ariannol’.

Llywyddwyd y cyfarfod lansio gan y Parchg Jim Clarke a rhoddwyd rhagarweiniad gan Rheinallt Thomas yn dilyn gwasanaeth byr. Dywedodd Mr Thomas: “Mae’r gyfrol yn adlewyrchiad o’r modd manwl, trylwyr a gofalus y mae Wyn wedi mynd ati i grynhoi  hanes yr Eglwys hon dros y cyfnod o bron 40 mlynedd. Diolch iddo Wyn am un gymwynas arall y mae wedi ei chyflawni i’r Eglwys.”

Cyfeiriodd hefyd at bennod olaf y llyfr, sef adran ‘Edrych i’r Dyfodol’ gan y Parchg Jim Clarke. “Rwy’n cytuno gyda fo gant y cant,” meddai, “ac er bod bwlch sylweddol rhyngom o ran oedran rydym ar yr un donfedd  yn ddi eithriad a hyderaf yn fawr y bydd ymateb positif i’w ddyheadau.”

Cafwyd dau gyflwyniad cerddorol gan Gôr y Capel dan arweiniad Mair Carrington Roberts cyn i’r Parchg Jim Clarke gyflwyno copi o’r gyfrol i Wyn Evans gyda chanmoliaeth am ei gynnwys a’i drylwyredd arferol yn cyflawni’r gwaith. Cafwyd detholiad byr o ddarnau o’r gyfrol gan Myfanwy Bennett Jones a Wenna Williams.

Mae copïau o’r gyfrol ar werth am £4 yr un.

 

Heini ar Gamfa’r Henoed

Deugain! Rhif Beiblaidd diogel - a’i hanes
Am flaenor i’w arddel;
Y gŵr sy’n tremio’r gorwel
A’i ddawn i gofio’r rhai ddêl.

Ar garlam, ei frasgamau – a welir
Yn hulio grasusau:
Un taer, nad yw’n caniatáu
Noswyl i’w gymwynasau.

Rhos y Gad a roes y gŵr – i arwain
A herio i’w Brynwr
Llon a sionc, bydd eto’n siwr
Ar redeg i’w Waredwr.

Ar fore Sul 15 Ionawr, cyflwynwyd copi o’r tri englyn uchod gan Alan Wyn Roberts wedi eu gosod yn erbyn llun trawiadol gan Ronnie Williams o’r tu mewn i gapel Rhos y Gad. Y gŵr oedd yn derbyn y llun oedd Rheinallt Thomas, Ysgrifennydd Eglwys Unedig Rhos y Gad.

Roedd yr achlysur yn gyfle i nodi gwerthfawrogiad gweinidog ac aelodau o gyfraniad arbennig Rheinallt i’r eglwys am dros deugain mlynedd fel blaenor ac ysgrifennydd. Yn cyflwyno’r llun yr oedd aelod ieuengaf yr eglwys, sef Gethin Davies. Ym mis Ionawr derbyniwyd Gethin yn gyflawn aelod, ac o gofio ymroddiad Rheinallt i waith yr Ysgol Sul ac i ieuenctid yr enwad, dyma ddewis da iawn.

Roedd Rheinallt yn amlwg wedi ei blesio’n fawr ac am unwaith fe gyfaddefodd nad oedd yn  gwybod beth i’w ddweud. Ar ran yr aelodau diolchodd y Parchg Jim Clarke i Rheinallt am ei waith diflino ar ran yr eglwys, ac yna cyflwynwyd siec iddo gan John Edwards. Bydd mantell yr Ysgrifennydd yn syrthio ar ysgwyddau’r dyn ifanc gweithgar ac abl hwn. Dywedodd Rheinallt ei fod yn cofi’r dyddiau cyntaf hynny pan oedd o ac Ambrose Pretty yn ysgwyddo baich holl drefniadau’r eglwys eu hunain. Ond bellach gallai ymhyfrydu ei fod yn aelod o dîm a’i fryd ar gyd-weithio gyda’r gweinidog a’r holl aelodau er lles yr eglwys.

 

Nawdd i ddwy elusen

Y Parchg Jim Clarke yn cyflwyno siec o £1,500 i Helen Wyn, Swyddog Codi Arian Lleol Tŷ Gobaith. Anfonwyd siec arall o £800 i Digartref Môn. Roedd y ddwy siec yn ganlyniad casgliadau Nadolig y gwahanol wasanaethau a gynhaliwyd yn yr eglwys dros yr Ŵyl.

 

 

 

 

 

 

Sylwadau Ychwanegol

Ychwanegwch eich sylwadau ar yr erthygl hon ...

Defnyddiwch y ffurflen isod.

:

:

: