Mae SBRI yn benwythnos anhygoel yng nghwmni Duw!
Pryd? 6-8 Gorffennaf 2012
Lle? Parc Arfordirol y Mileniwm, Llanelli
I bwy? Ieuenctid 8-15 mlwydd oed.
Gan bwy? Digwyddiad ar y cyd gyda chymeradwyaeth mudiadau ac eglwysi lu...Eglwys Bresbyteraidd Cymru, Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, Undeb y Bedyddwyr, Cymorth Cristnogol, Tearfund, MIC, Ignite...
Am y tro cyntaf, eleni mae SBRI Cymraeg yn cael ei drefnu fel rhan o'r SBRI ehangach yn Llanelli. Cael trafferth meddwl lle i fynd â'ch ieuenctid eleni? Beth am ddod i SBRI?
Cliciwch yma i weld y poster a chliciwch yma i fynd i wefan SBRI Cymru am fwy o wybodaeth ac i lawrlwytho ffurflenni cadw lle.
Mae croeso i ieuenctid 16+ fod yn aelodau o'r Criw Gwasanaeth - manylion ar wefan SBRI Cymru.
Cliciwch ar y fideo isod i weld beth ddigwyddodd yn SBRI 2011!
Spree Wales 2012 from spreewales on Vimeo.
Related Link(Cymraeg):