Digwyddiadau

Dewis digwyddiad...

News Headline

Cyfarfod trefnu pabell Eisteddfod yr Urdd

Date Posted(Cymraeg): 13/03/2012 00:00:00

Bydd aelod-enwadau Cytûn yn ymuno mewn pabell gyda Cyngor Ysgolion Sul yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Eryri, 4-9 Mehefin 2012, yng Nglynllifon ger Caernarfon i ddarparu tystiolaeth Gristnogol gydenwadol. Er mwyn sicrhau fod y dystiolaeth hon yn un addas a chyffrous rhaid wrth gryn dipyn o baratoi a rhaid wrth gefnogaeth dda yn y babell yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

Cynhelir y cyfarfod trefnu cyntaf yng Nghapel Uchaf, Chwilog, am 7.30pm nos Fawrth, 13 Mawrth 2012. Os na allwch fod yn bresennol ond eich bod â diddordeb mewn helpu, cysylltwch â Rhian Linecar, Cytûn, ar 07545 425221 | rhian@cytun.org.uk.

Bydd angen gwirfoddolwyr yn ystod wythnos yr Eisteddfod: tîm o bobl i helpu gosod cynnwys y babell y penwythnos cyn yr Eisteddfod, pobl yn y babell bob dydd a phobl i glirio’r babell ar y prynhawn Sadwrn olaf (9 Mehefin). Yn ogystal â stondin llyfrau ac adnoddau Cristnogol Cyngor Ysgolion Sul, byddai’n dda medru cynnig gweithgareddau i’r plant bob dydd fel gwaith crefft, peintio wynebau, canu, gwneud bathodynnau…

Un o uchafbwyntiau’r babell yn y gorffennol fu arddangosfa o waith plant Ysgolion Sul yr ardal a hefyd lluniau o’r plant yn mwynhau gwaith neu ddigwyddiadau eu Hysgolion Sul.  Hoffem weld hyn eto, felly bydd angen cydlynu arddangosfa fel hyn.

Felly...dewch i’r cyfarfod trefnu ac ystyriwch dreulio amser yn y babell yn ystod yr wythnos; efallai y gwyddoch am rywun arall fyddai’n fodlon bod yn gysylltiedig rhywsut - rhywun â dawn arbennig efallai? Wrth gwrs, rhaid cofio mai gŵyl Gymreig yw hon ac y bydd y rhan fwyaf o’r plant yn Gymry, felly bydd yn rhaid cael siaradwyr Cymraeg yn flaenllaw yn y babell bob dydd ond bydd croeso mawr i’r di-gymraeg hefyd.

Rhannwch y wybodaeth hon ag unrhywun y gwyddoch amdani/o a fyddai â diddordeb mewn bod yn gysylltiedig â’r babell yng Nglynllifon fel bod cynrychiolaeth o gymaint o eglwysi ac enwadau’r dalgylch â phosib yn y cyfarfod!

Related Link(Cymraeg):