Wythnos Hinsawdd yw ymgyrch newid hinsawdd fwyaf Prydain, ymgyrch sy'n anelu i gychwyn ton newydd o weithredu er mwyn creu dyfodol cynaliadwy.
Mewn wythnos o weithgareddau yn ystod 12-18 Mawrth, bydd Wythnos Hinsawdd 2012 yn arddangos pob math o syniadau ymarferol o bob sector o'r gymdeithas.
Yn ystod yr Wythnos Hinsawdd gyntaf ym mis Mawrth 2011, fe wnaeth hanner miliwn o bobl fynychu 3,000 o ddigwydddiadau fel rhan o'r ddigwydiad amgylcheddol mwyaf a welodd Prydain erioed. Eleni eto, cynhelir digwyddiadau gan ysgolion, busnesau, elusennau, cynghorau ac eraill. Gall eglwysi fod yn rhan o'r peth hefyd, drwy gynnal digwyddiad neu fod yn rhan o ddigwyddiadau eraill sy'n digwydd yn lleol.
Beth am gael golwg am syniadau ar wefan Wythnos Hinsawdd? Mae sawl un o'r adnoddau ar gael yn y Gymraeg hefyd.
Related Link(Cymraeg):