Digwyddiadau

Dewis digwyddiad...

News Headline

Golwg ar y Byd 2012

Date Posted(Cymraeg): 30/07/2012 00:00:00

Cynhelir cynhadledd deuluol flynyddol CWM Ewop, Golwg ar y Byd, rhwng dydd Llun 30 Gorffennaf a dydd Iau 2 Awst yng Nghanolfan Gynadledda Belsey Bridge, Ditchingham, Suffolk.

Mae'n amhosibl dianc rhag y ffaith mai 2012 yw blwyddyn Gemau Olympaidd Llundain! I ddathlu, bydd Golwg ar y Byd yn "Mynd am yr Aur" ac yn archwilio beth mae hyn yn ei olygu i ddisgyblaeth Gristnogol.

Bydd addoliad pob bore ar ffurf "Eglwys Anniben," gydag addoliad bywiog, gweithgareddau a dysgu gyda'n gilydd. Mae "Eglwys Anniben" yn ffurf newydd o eglwys sy'n anelu at gyrraedd teuluoedd. Ar hyn o bryd, mae dros 900 o Eglwysi Anniben wedi eu cofrestru yn y DU.

Y Parchg Ddr Susan Durber, sydd ar hyn o bryd yn bennaeth Coleg San Steffan, Caergrawnt, fydd yn arwain yr Astudiaeth Feiblaidd ddyddiol. Bydd yr Astudiaeth Feiblaidd yn ystyried llythyr Paul at y Philipiaid. Byddwn yn cyflwyno i'r llythyr, ei awdur, ei gyd-destun a byd y rhai a allai fod wedi ei ddarllen gyntaf. Byddwn yn archwilio ei ffordd o ddeall pwy oedd ac yw Iesu. Byddwn yn archwilio'r trosiad o ffydd fel 'pwyso tuag at y llinell derfyn' yng nghyd-destun gemau Rhufeinig a chyfoes

Dewch i ymuno â'r prynhawn o chwaraeon "It's a Knockout", gyda gemau tîm, castell gwynt a hwyl i'r teulu i gyd.

Mae'r gynhadledd yn cynnwys taith hanner diwrnod i Norwich, Wroxham neu Great Yarmouth, yn dibynnu ar eich chwaeth personol.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan CWM Ewrop.

Cliciwch yma i lawrlwytho ffurflen archebu.

Related Link(Cymraeg):