Digwyddiadau

Dewis digwyddiad...

News Headline

Gobaith Mam – Stori Nelida

Date Posted(Cymraeg): 18/03/2012 00:00:00

Gobaith mawr Nelida o Beriw yw y bydd ei merch, Alicia, yn dianc o grafangau’r tlodi sydd wedi bod yn ei gwasgu hi erioed.

Maent yn byw yn uchel ar lethrau’r Andes mewn pentref anghysbell lle mae’r addysg yn sylfaenol iawn a byw oddi ar y tir yn anodd gan fod blynyddoedd o sychder wedi amharu ar y cnydau. Efallai na fydd yn hawdd i Alicia wireddu breuddwydion ei mam drosti. Ond mae ’na newid ar y gweill.

Ym mhentref Yanamango lle mae Nelida’n byw, mae mudiad Warmis, sy’n bartner i Tearfund, yn cynnal dosbarthiadau llythrennedd, dosbarthiadau gwnïo a nifer o raglenni cynhyrchu incwm fel y gall gobeithion mamau fel Nelida gael eu gwireddu.

Mae Nelida’n ddiolchgar iawn i Warmis am ei helpu ac meddai, ‘Dim ond dwy flynedd o ysgol gefais i achos roedd ar mam fy angen i yn y caeau, i ofalu am y defaid. Dim ond fy enw ac ychydig o eiriau eraill roeddwn i’n gallu eu hysgrifennu. Ond gyda help Warmis, rwy’n gallu darllen y papur newydd, rwy’n deall mwy ac rwy’n gallu gwneud symiau adio, tynnu a lluosi.’

Mae hyn yn help i newid bywyd ei merch, Alicia. ‘Rwy’n gallu dysgu Alicia a’i helpu â’i gwaith cartref. Rwy mor falch fy mod i’n gallu helpu fy merch. Does arna i ddim eisiau i Alicia gael yr un math o fywyd â fi. Mae arna i eisiau iddi hi gael pob cyfle. Dyna pam rwy’n gwneud fy ngorau i ennill arian fel y gall Alicia fynd i’r ysgol a dod ymlaen yn dda.’

Gyda’ch cymorth chi, gall cariad a brwdfrydedd Nelida fod yn ddigon i sicrhau bywyd gwell i’w merch.

‘Does arna i ddim eisiau i Alicia gael yr un math o fywyd â fi. Mae arna i eisiau iddi hi gael pob cyfle.’

Gallwch ddysgu mwy am Apêl Sul y Mamau Tearfund trwy fynd i'w gwefan neu drwy gysylltu â Fiona Michael: fiona.michael@tearfund.org | 07808282971.

Related Link(Cymraeg):