Mae gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru oddeutu 650 o eglwysi ar hyd a lled Cymru a thu hwnt. Mae ein heglwysi yn amrywio o ran rhif aelodaeth, o nifer fach i gannoedd. Caiff yr eglwysi eu harwain gan flaenoriaid, yn cael eu hethol gan y gynulleidfa. Mae gan tua hanner ein heglwysi weinidog sydd, gyda chymorth y blaenoriaid, yn arwain y gwaith o ddarparu gofal bugeiliol ac addoliad. Mae llawer o’r eglwysi yn rhan o ofalaeth leol ac yn rhannu eu gweinidog gydag eglwysi eraill. Lle nad oes gweinidog, bydd y blaenoriaid yn gyfrifol am fywyd ysbrydol yr Eglwys.
Mae mwyafrif eglwysi EBC yng Nghymru, ond mae nifer ohonynt dros y ffin yn Llundain, yng Nghanolbarth Lloegr ac ardal Cilgwri
Mae cwmpas ac ehangder gwaith ein heglwysi yn amrywio’n fawr. Addoliad y Sul yw’r brif ffocws, ond mae mwyafrif helaeth ein heglwysi hefyd yn cynnal cyfarfodydd yn ystod yr wythnos megis cyfarfodydd gweddi neu astudiaethau Beiblaidd a digwyddiadau cymdeithasol. Mae llawer yn weithredol o fewn eu cymunedau, gan gynnig eu cyfleusterau i eraill, a darparu gwasanaethau sy’n amrywio o grwpiau mam a’i phlentyn i fwydo’r digartref a chodi arian.
Gallwch chwilio am eglwys yn adran Eglwysi y wefan. Mae oedfaon a gweithgareddau ein heglwysi yn agored i bawb.
Os ydych am broffesu eich ffydd yn Nuw ac ymrwymo i’r eglwys leol, efallai yr hoffech ystyried dod yn aelod o’r eglwys.
Mae addoli yn rheolaidd a derbyn y Sacramentau yn ganolog i fywyd aelod eglwysig. Mae bod yn aelod o’r Eglwys yn fraint fawr ac felly mae dyletswydd ar yr aelodau i gymryd rhan yn addoliad a gwaith yr Eglwys gan gyfrannu mewn arian, amser a doniau. Dylai’r aelodau geisio gadw at y safonau a welir yn yr Efengyl gan fyw fel tystion ffyddlon i Grist. Gallwch ddod yn aelod o’ch eglwys leol mewn un o dair ffordd:
You can become a member of your local church in one of three ways: