www.ebcpcw.org.uk

 
 
 
  
 
 

 Hafan

 Y Swyddfa

 Y Cyfundeb

 Newyddion

 Canolfannau

 Dogfennau

 Cyhoeddiadau

 Ariannol

 Eiddo

 Dolenni

 

Ble ydw i?  Y Cyfundeb 6

Amdanom ni Cyffes Fer o'n Ffydd Yr Adran Hanes Y Llywydd Y Gymanfa Gyffredinol Byrddau'r Cyfundeb Y Rhaglen Genhadol Ystadegau

Amdanom Ni

Mae gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru tua 30,000 o aelodau a 700 o eglwysi ar hyd a lled Cymru, yn ogystal â chysylltiadau ag eglwysi dramor.

Amcanion

Ein hamcan yw addoli Duw a lledaenu Efengyl yr Arglwydd Iesu Grist.

Ceisiwn wneud hyn drwy bregethu’r Efengyl, gweinyddu’r sacramentau a gweddïo. Darparwn fugeiliaeth eglwysig, yn ogystal ag addysg Feiblaidd. Rydym yn ymgymryd â gwaith cenhadol gartref a thramor a phwysleisiwn yr angen i fod yn weithgar ac i roi esiampl o fywyd Cristnogol da.

Safwn o blaid cyfiawnder a heddwch yn ein byd a gwnawn ein gorau i warchod ein hamgylchedd.

Hanes

Am wybodaeth ynglŷn â hanes yr Eglwys, gweler yr Adran Hanes.

Strwythur

Mae pob eglwys o fewn Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn atebol i henaduriaeth, corff rhanbarthol sydd yn cyfarfod yn chwarterol. Mae 14 o henaduriaethau ac mae pob un yn gyfrifol am gynllunio’r gwaith gweinidogaethol a chenhadol o fewn ei ffiniau. Yn ogystal, gall alw gweinidogion, ordeinio blaenoriaid ac arolygu gwaith yr Ysgolion Sul a’r ieuenctid.

Mae’r henaduriaethau wedi eu rhannu yn dair cymdeithfa: y Gymdeithasfa yn y De, y Gymdeithasfa yn y Dwyrain a’r Gymdeithasfa yn y Gogledd. Maent yn cyfarfod tua dwywaith y flwyddyn er mwyn arolygu a chadarnhau gwaith yr henaduriaethau. Y cymdeithasfeydd sydd hefyd yn gyfrifol am ordeinio gweinidogion.

Canolbwynt blwyddyn Eglwys Bresbyteraidd Cymru yw’r Gymanfa Gyffredinol, sy’n cael ei chynnal am dridiau ym mis Medi (o 2008 ymlaen). Mae gan y Gymanfa Gyffredinol Lywydd sy’n cael ei ethol yn flynyddol.

Mae tri bwrdd o fewn y Gymanfa Gyffredinol: Bwrdd y Gymanfa Gyffredinol, y Bwrdd Bywyd a Thystiolaeth a’r Bwrdd Adnoddau. Mae nifer o adrannau a phaneli ym mhob bwrdd, a phob un yn gyfrifol am agwedd o fywyd a gwaith yr Eglwys.

Lleolir Swyddfa Ganolog Eglwys Bresbyteraidd Cymru yng Nghaerdydd. Staff y Swyddfa sydd yn gyfrifol am weinyddiaeth yr Eglwys. Fe’i rheolir gan yr Ysgrifennydd Cyffredinol, sydd yn atebol i’r Gymanfa Gyffredinol.

Ein Heglwysi

I gael mwy o wybodaeth ynglŷn â’ch heglwys leol, cysylltwch â’r Swyddfa. Mae gan rai o’n heglwysi eu gwefan eu hunain.

Cyflwyniad "Dyma'r Cyfundeb"

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â'n cred a'n gwaith, gallwch lawrlwytho ein cyflwyniad PowerPoint "Dyma'r Cyfundeb" (.PPT, 30,243KB)

 

 

English

 
 
 

Diweddarwyd y dudalen hon ar 17/08/2010