|
Cyffes Fer o'n Ffydd
Credwn yn Nuw Dad
Hollalluog, Creawdwr a Llywodraethwr pob peth.
Credwn yn Iesu Grist, ei Uniganedig
Fab, ein Harglwydd a'n Gwaredwr. Trwy ei fywyd, ei farwolaeth ar y groes a'i atgyfodiad,
gorchfygodd bechod ac angau gan faddau i ni ein pechodau a'n cymodi â
Duw.
Credwn yn yr Ysbryd Glân. Trwyddo
Ef y mae Crist yn preswylio yn y credinwyr, gan eu sancteiddio yn y
gwirionedd.
Credwn yn yr Eglwys, Corff Crist
a chymdeithas y saint; yn yr Ysgrythyrau Sanctaidd, yng Ngweinidogaeth y
Gair a'r Sacramentau.
Credwn yn nyfodiad Teyrnas Dduw
ac yng ngobaith gwynfydedig y bywyd tragwyddol trwy ein Harglwydd Iesu
Grist.
Credwn mai diben pennaf dyn ydyw
gogoneddu Duw a'i fwynhau byth ac yn dragywydd.
|