|
|
|
Yr Adran Hanes
Sefydlwyd yr Gymdeithas Hanes yn
1914 (yn dilyn penodi Pwyllgor Llawysgrifau Trefeca yn 1910).
Hon felly yw’r hynaf o’r cymdeithasau hanes enwadol yng Nghymru.
Nod y Gymdeithas yw i hyrwyddo ymchwil i hanes y Cyfundeb.
Prif Weithgareddau’r Gymdeithas:
- Diogelu Dogfennau’r eglwysi, yr henaduriaethau, a llysoedd y
Cyfundeb.
- Trefnu arddangosfa o’n harchifau yn y Llyfrgell Genedlaethol.
- Noddi Darlith Hanes i’w thraddodi yn y Gymanfa.
- Golygu a chyhoeddi Llawysgrifau Trefeca, Hanes Methodistiaeth
Galfinaidd Cymru, a’r Cylchgrawn Hanes.
Bwriedir cynnal Ysgol Undydd
flynyddol ddwyieithog o hyn ymlaen i drafod themâu canolog yn hanes
yr enwad. Cyhoeddir mwy o fanylion yny man.
Y mae’r
Parchg Ddr Elwyn Richards, Ysgrifennydd y Gymdeithas Hanes, yn
barod iawn i dderbyn tanysgrifiadau sy’n ddyladwy i’r Gymdeithas ac
i groesawu aelodau newydd iddi.
Curadur newydd y Gymdeithas Hanes yw’r
Dr Eryn M. White. Dylid anfon archifau i’r Greirfa ati hi drwy
e-bost neu i Adran Hanes Cymru, Adeilad Huw Owen, Prifysgol Cymru,
Aberystwyth SY23 3DY (01970 622662).
|
|
|
|
|
E">English |
|
|
Ysgrifennydd yr Adran Hanes
Y Parch. Elwyn Richards, Plas Bach, Cae Gwyn,
Caernarfon LL55 1LL
Ffôn
01248 370463
E-bost
cliciwch yma |
|
|
|
Golygydd y Cylchgrawn Hanes
Yr Athro J Gwynfor Jones, 1 Westminster Drive, Cyncoed, Caerdydd,
CF23 6RD
Ffôn
029 20752063
E-bost
cliciwch yma |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|