www.ebcpcw.org.uk

 
 
 
 
  
 
 

 Hafan

 Y Swyddfa

 Y Cyfundeb

 Canolfannau

 Dogfennau

 Cyhoeddiadau

 Ariannol

 Eiddo

 Dolenni

 

Ble ydw i?  Y Cyfundeb 6

Amdanom ni Cyffes Fer o'n Ffydd Yr Adran Hanes Y Llywydd Y Gymanfa Gyffredinol Byrddau'r Cyfundeb Y Rhaglen Genhadol Ystadegau

Hanes yr Eglwys

Yn y ddeunawfed ganrif profodd Cymru ddiwygiad grymus. Cysylltir y deffroad yn arbennig â Howell Harris, Trefeca a Daniel Rowland, Llangeitho yn 1735. Mudiad o fewn yr eglwys sefydliedig ydoedd a'i arweinwyr ar wahan i Harris yn offeiriaid yn yr eglwys honno. Roeddent yn teithio i bregethu gan wynebu cryn erledigaeth. Fe'u cysylltwyd gyda'i gilydd yn un corff o ran profiad yn Fethodistiaid ac mewn athrawiaeth yn Galfinaidd a deuent at ei gilydd mewn seiadau gan drefnu yr holl waith drwy gyfrwng Cyfarfodydd Misol a Chymdeithasfa Tyfodd y Cyfundeb i fod yn un o'r grymoedd mwyaf dylanwadol yn y genedl gan chwarae rhan bwysig ym mhrif ddatblygiadau bywyd crefyddol a chymdeithasol y cyfnod.

Y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg

  • ymwahanu o'r eglwys sefydliedig Anglicanaidd yn 1811
  • lluniwyd y Gyffes Ffydd yn 1823
  • ffurfiwyd y Genhadaeth Dramor yn 1840 a dewis Gogledd Ddwyrain India yn Faes Cenhadol
  • sefydlwyd colegau diwinyddol yn y Bala a Threfeca
  • yn dilyn diwygiad 1859 adeiladwyd capeli mwy o faint a daeth bugeiliaeth eglwysig yn rhan o batrwm y weinidogaeth
  • ers 1864 cyfarfu'r Gymanfa Gyffredinol yn flynyddol
  • yn 1891 cychwynnwyd y Symudiad Ymosodol ar waith cenhadol yn yr ardaloedd poblog yng Nghymru
  • daeth twf pellach yn sgil diwygiad 1904

Yr Ugeinfed Ganrif

  • unwyd holl waith y colegau yn Aberystwyth
  • daeth Coleg y Bala yng Ngwynedd yn ganolfan i Wasanaeth Plant a Ieuenctid y Cyfundeb
  • sefydlwyd Coleg Trefeca, Powys yn ganolfan addysg leyg
  • sefydlwyd canolfan breswyl i blant a ieuenctid yn Nhresaith yng Ngheredigion
  • ffurfiwyd Bwrdd y Genhadaeth yn 1968 drwy uno'r Genhadaeth Dramor a'r Symudiad Ymosodol
  • cytunwyd ar strategaeth newydd i sicrhau'r defnydd gorau o adnoddau'r Cyfundeb
  • cymerwyd rhan weithredol mewn gweithgareddau eciwmenaidd

Y Dyfodol

Heddiw, mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn wynebu her y dyfodol ac er gwaethaf y trai cyffredinol ar grefydd gyfundrefnol yn mae yna lawer o gynlluniau cyffrous a llecynnau gobaith wrth i ni symud ymlaen. 

 

English

 
Ysgrifennydd yr Adran Hanes
Y Parch. Elwyn Richards, Plas Bach, Cae Gwyn, Caernarfon

LL55 1LL

Ffôn
01248 370463

E-bost

cliciwch yma

 
Golygydd y Cylchgrawn Hanes
Yr Athro J Gwynfor Jones, 1 Westminster Drive, Cyncoed, Caerdydd, CF23 6RD

Ffôn

029 20752063

E-bost

cliciwch yma
 
 
 
 
 
 
 

Diweddarwyd y dudalen hon ar 17/04/2008