Magwyd Gwenda Richards yng Nghaernarfon, lle mae nawr yn weinidog ar
Eglwys Seilo. Wedi gadael yr Ysgol Ramadeg leol, cwblhaodd radd
BAdd ym Mhrifysgol Bangor cyn cael ei phenodi i swydd ddysgu yn ei
hen ysgol gynradd.
Ym 1984 fe’i hordeinwyd yn flaenor yng nghapel ei phlentyndod, sef
Capel Engedi. Ond er ei bod yn mwynhau dysgu, daeth yn amlwg yn
araf bod llwybrau eraill yn agor o’i blaen. Teimlodd y drysau’n agor, a galwad gan Dduw i’r weinidogeth.
Gadawodd ei swydd ddysgu a dechrau cwrs BD yn Ngholeg Diwinyddol
Aberystwyth. Yno, cwrddodd Elwyn, a phriododd y ddau ym 1987. Wedi
gadael Aberystwyth, derbyniodd alwad i ofalaeth o dair eglwys ym
Mhorthmadog a’r cyffiniau. Bu yno am 14 mlynedd. Yn 2001
derbyniodd alwad i ddychwelyd gartref, i fod yn weinidog ar Gapel
Seilo. “Mae’n fraint gweinidogaethu i fy mhobl fy hun”, meddai.
Mae bellach yn weinidog eglwys fechan yn Waunfawr hefyd.
Ymysg amcanion y
Barchedig Richards ar gyfer ei Llywyddiaeth mae cryfhau'r ymdeimlad
o berthyn i un Cyfundeb.