|
|
 |
|
Papur Wythnosol Eglwys
Bresbyteraidd Cymru |
|
Y Dathliadau yn y Bala
Dathlu Dau
ganmlynedd sefydlur Beibl Gymdeithas
Does
posib i ni gaur mwdwl ar ddathiadau 2004 heb i rhywun sn am
weithgarwch y Dathliad yn y Bala. Roedd Y Gwasanaeth yng Nghapel
Tegid y Bala ar brynhawn Sadwrn, Tachwedd 6ed yn glo addas a dyrchafol
ir gyfres o ddathliadau a gynhaliwyd yn y Bala. Yn dilyn taith
gerdded Mari
Jones ym mis Mai, cyflwynwyd Arddangosfa (dan nawdd Cymdeithas
Treftadaeth Bala a Phenllyn) yn olrhain hanes Thomas Charles, William
Morgan, Griffith Jones Llanddowror a William Salisbury. Coron yr
Arddangosfa oedd cael gweld Beibl Mari Jones. Yng Ngorffennaf,
traddodwyd darlith gan Dr Densil Morgan, Bangor yn cydio llafur a
chyfraniad enfawr William Morgan ar Diwygiad. Dylem, meddai, weddo
ar ir Beibl ar Ysbryd Gln ddod ynghyd yn ein heddiw ni.
Yna
yng Nghapel Tegid ar Hydref 13 cawsom Basiant gwych gan blant Ysgolion
Cynradd Bala a Phenllyn. Mawr ddiolch i Mrs Nia Williams, Coleg y Bala
am lunior Script, ac hefyd i Arfon Jones, Caerdydd am y gn Yn ein
Iaith. Mawr ddiolch hefyd ir Athrawon ar plant am eu llafur caled.
Pnawn Sadwrn,
Tachwedd 6ed oedd uchafbwynt y dathlu, a hynny mewn Gwasanaeth o
fendith neilltuol. Llywyddwyd y cyfarfod yn effeithiol iawn gan Mrs
Mair Penri Jones, Y Parc. Cafwyd gweddi agoriadol gan y Parch. Dafydd
Rees Roberts, Llanuwchlyn. Cawsom nifer o olygfeydd yn portreadu hanes
Mari Jones yn cerdded ir Bala ac yn cyfarfod Thomas Charles. Roedd
Thomas Charles yn cael ei bortreadu gan Penri Jones, Y Parc, a rhannau
eraill gan Haf Greene ac Enid Jones. Cafwyd perfformiad disglair iawn
o Mari Jones gan Elin Williams, Y Coleg. Diolchwn yn fawr ir plant
ar oedolion a gyfranodd at lwyddiant y Gwasanaeth.
Diolch yn
arbennig ir Swyddogion lleol or Feibl Gymdeithas Mrs Enid Jones y
Trysorydd, ac yn arbennig i Mrs Bethan Davies Jones yr Ysgrifennyddes
am ei holl lafur diflino dros y misoedd, gydar gweithgareddau i
gyd.
Ymhellach yn y
Gwasanaeth cawsom ein hatgoffa o waith y Gymdeithas trwyr byd. Fe
glywsom un adnod yn cael ei darllen yn y ieithoedd gwreiddiol, Groeg,
Hebraeg ynghyd Ffrangeg, Sbaeneg a Saesneg. Y weithred olaf yn y
Gwasanaeth oedd mynd ar golau allan ir holl fyd gydar Parch. Nia
Roberts, Rheithor, Y Bala yn rhoi nifer o lampau i oedolion a phlant.
Yn dilyn ein
dathliadau onid teg yw gofyn Beth yw arwyddocad a chanlyniad
cyfieithu a dyrchafur Gair yng Nghymru ac yn ein byd? Cyflwynaf
grynhodeb o dair tystiolaeth ar y ffordd mae Gair Duw yn effeithiol ym
mywydau pobl heddiw au dilyn gydag anerchiad gan Arfon Jones,
Caerdydd. Mrs Nia Williams, y Coleg roddodd y dystiolaeth gyntaf.
Cafodd Nia ei Beibl cyntaf pan dderbyniwyd hi yn aelod oi chapel
lleol, ac yn gyffredin i lawer oi chyfoedion fe fur Beibl am gyfnod
yn lyfr caeedig ac yn anodd ei ddeall. Yn ei harddegau hwyr fe glywodd
am fawrion weithredoedd Duw, ond nid oedd ei phrofiad o gapel rhywsut
yn cydfynd hyn a glywodd am Dduw yn y darlleniadau Beiblaidd.
Pan ddechreuodd
ar ei chwrs yn y Brifysgol profodd y rhyddid o ymweld gwahanol
fannau o addoli. Roedd bellach yn ceisior Arglwydd o ddifri. Yn
ystod ei gwyliau cyntaf yn y Coleg derbyniodd lythyr gan ffrind
Cristnogol ac ynddo nodyn yn cynnwys adnodau o Matthew 7: 7-8
Gofynnwch ac fe roddir i chwi; chwiliwch ac fe gewch; curwch ac fe
agorir i chwi. Roedd yn gwybod y neges ers tro ond yn awr daeth i
sylweddolir gwirionedd syml bod Duw wedi anfon ei Fab i farw drosti.
Gwelodd, mai sarhad or mwyaf fyddai gwrthod rhodd ryfeddol Duw o
faddeuant trwy farwolaeth Iesu Grist. Wrth ddyfod i ddeall neges y
Beibl fe ddaeth, or diwedd, rhyw gyfanrwydd iw bywyd.
Er mai proses
hir iddi oedd ymgolli yn y Beibl, yn araf ond yn sicr fe enillodd dir
yn ei phrofiad. Fe ddaeth, trwy gyfeillach a chyfarwyddyd cyfeillion,
i wybod mwy am Gariad Duw a theimlo ar brydiau bod y geiriau wedi eu
hysgrifennu ar ei chyfer hi. Tystiodd ir gwahaniaeth a wnaeth Beibl
1988 iw dealltwriaeth or Gair.
Galluogwyd hi i
fod yn fwy hyderus yn ei gwaith fel Gweithiwr Cristnogol gyda phlant a
bobl ifanc. Daeth hyn trwy Addewid Crist o gymorth yr Ysbryd Gln.
Agorwyd fy meddwl i ddeall yr hyn a ddarllenais, gallaf weddo a
gwybod Ei fod gyda mi, yn gwrando ac yn barod i siarad mi. Pan
geisiaf fy ngorau iw wasanaethu Ef maen rhoddi nerth i mi i fod yn
wrol ac i anghofio fy swildod. Dymar hyn a dysgodd y Beibl i mi dros
yr ugain mlynedd diwethaf.
Run modd
tystiodd Y Parchedig Eric Greene ir cynhaliaeth ar arweiniad a
gafodd efor Beibl trwy wahanol gyfnodau oi fywyd. Bur Beibl yn
gymorth iddo pan oedd yn athro ac yn arweinydd clwb ieuenctid. Yn sicr
bur Gair yn gysur ac yn nerth iddo pan gollodd ei wraig gyntaf. Yr un
oedd ei brofiad o dderbyn arweiniad y Gair pan y penodwyd ef yn
Weithiwr Cenhadol i Glynceiriog ac yn dilyn hynny pan dderbyniodd yr
Alwad ir Weinidogaeth llawn amser. Tystiodd eto, gydag argyhoeddiad
dwfn, i gyfarwyddyd parhaus Gair Duw. Teimlai law Duw arno mewn
hawddfyd ac adfyd, a braint oedd cael cyhoeddi y Gair or pulpud, ond
hefyd mewn llawer o lefydd ac amgylchiadau eraill.
Y drydedd
dystiolaeth oedd eiddo Mererid Jones o Ryd-uchaf ger y Bala. Mae
Mererid yn dioddef or ME, a hynny dros gyfnod o ddeuddeg mlynedd.
Maen medru diolch yn fwy nac erioed am y Beibl. Roedd ganddi bump
Beibl, er na chafodd y ddau cyntaf fawr o ddefnyddio arnynt. Bu
dylanwad y trydydd Beibl yn enfawr, a hynny trwy gyfnodau drwg oi
salwch ei hun ac hefyd pan ddioddefodd ei mham o gancr y fron.
Mae ganddi
deyrnged o ddiolchgarwch iw chyn-weinidog, y Parchedig Angharad
Roberts. Bu ei charedigrwydd ai gweinidogaeth yn foddion ir ddwy
ohonynt fedru pwyso ar nerth Duw. Cynhaliwyd cwrs Alpha yng nghartref
Mererid a hynny ynghanol ei salwch; a bu hynny yn fodd iddi weld Duw
yn Dduw personol nid Duw pell Dydd Sul yn unig. Daeth y Beibl yn lyfr
mor berthnasol nes iddi fynd ai Beibl hefo hi hyd yn oed ir bath.
Gadawaf i
Mererid adrodd yn ei geiriau ei hun ei phrofiad arbennig.
Ychydig o
fisoedd yn ddiweddarach daeth y pedwerydd Beibl im meddiant. Ym mis
Gorffennaf 1997, yn dilyn deunaw mis caled o ymladd y cancr, cafodd
mam gyfle i gynrychiolir Henaduriaeth yn Ysgol Haf y Weinidogaeth
Iachu yn Llanbed. Doedd gan mam fwy na finnau fawr o syniad beth
fyddai oi blaen. Daeth yn l yn llawn brwdfrydedd, yn dawel ei meddwl
ac yn sicr wedi derbyn adnewyddiad a nerth. Derbyniodd fendith ei hun
ond gweddodd drostof. Roeddwn braidd yn siomedig ar y pryd ar l
cyfnod o deimlo yn well, ac yna dirywiad yn nghyflwr fy iechyd.
Pan ddychwelodd
mam o Lanbed pendefynais wrando ar dp or Gwasanaeth agoriadol, tua
hanner ffordd drwyddo fe ganwyd fy hoff emyn I Dduw bor Gogoniant.
Yn sydyn daeth rhyw don drydanol drostaf; ac oni bai fy mod yn gorwedd
ar y gwely buaswn wedi fy mwrw ir llawr. Yn sgil hyn daeth rhyw
ymdeimlad dwfn dwfn o dangnefedd ac o gyffro eithriadol yn mynd ymlaen
ac ymlaen yn ddi-ddiwedd. Yna ar y diwedd daeth dagrau o lawenydd, a
beichio crio fel erioed or blaen. Derbyniais sicrwydd fy mod yn mynd
i gael iachd.
Ar fy mhenblwydd
yn 27 oed, cefais gopi or Beibl newydd yn rhodd gan dad a mam. Daeth
y Beibl yn ffrind i mi a chefais nodiadaur Scripture Union yn
gymorth, ond dirywio wnaeth fy iechyd yn ddifawr erbyn Haf 98, a suro
braidd wnaeth fy mherthynas r Arglwydd. Serch hynny, daliais ymlaen
gydar nodiadaur Scripture Union Closer to God, ond dan yr
wyneb, roeddwn yn berwi ac yn teimlon chwerw. Onid oeddwn, flwyddyn
yn l, wedi cael sicrwydd o iachd gan Dduw, ond dyma fin awr
cynddrwg ag erioed? Rhyw fore ym mis Awst daeth y cyfan ir wyneb wrth
darllen sylwadau Gweinidog o Lundain ar Iachu Fem cythruddwyd
gymaint nes rhwygor nodiadau au taflu ir bin a thaflur Beibl ar
draws yr ystafell a chodi om gwely a stompio ar y Beibl.
Y dydd canlynol,
a minnaun teimlo yn euog or hyn a wneuthum, fe feddyliais tybed beth
oedd Duw yn ei feddwl ohonof. Gan fod y nodiadau bellach yn y bin
penderfynais agor y Beibl yn rhywle ac fe syrthiodd fy llygaid yn
annisgwyl ar yr adnodau ar ddiwedd Salm 27, ac wedyn y diwrnod
canlynol fe es i gefn y copi Saesneg or Salmau ac fel yr oeddwn yn
cyrraedd diwedd y salm cefais gadarnhad bod Duw yn llefaru wrthyf
trwyr run adnod, sef: Disgwyl wrth yr Arglwydd. Bydd gryf dy galon
a disgwyl wrth yr Arglwydd. Chwe mlynedd yn ddiweddarach dal i
ddisgwyl rydwyf ond maer gwylltineb a rhwystredigaeth haf 98 wedi
llwyr ddiflannu. Rwyn gwybod bod Duw wrth y llyw, ac y gallaf
ymddiried ynddo ac y daw iachd yn ei amser. Er cymaint y salwch
rwyn falch or cyfle i adnabod yr Arglwydd Iesu Grist. Erbyn hyn
rwyn berchen ar fy mhumed Beibl (cyfieithiad diweddaraf o Feibl
William Morgan.) Diolch i Dduw am y Beibl.
Thema anerchiad
Arfon Jones oedd Adnabod Iesu Grist. Dyma, meddai, yw angen Cymru yn
anad dim heddiw.
Er cymaint ein
dathliadau eleni ar i lawr mae popeth yn mynd gyda llawer on
hieuenctid yn gadael ein heglwysi. Sut y gwelwn hyn yn newid? Mae
angen tri pheth (1) Darllen a myfyrio deallus or Beibl; (2) Adfer
Gweddi iw lle canolog yn ein heglwysi. Ystyriwn ystyr 2 Chron 7: 14;
(3) Mae Angen yr Ysbryd Gln arnom i ddod a Duw yn real. Mae Duw yn
galw arnom iw ddilyn yn yr unfed ganrif ar hugain ac nid y bedwerydd
ganrif ar bymtheg. A ydym yn barod i ddod iw adnabod? Mae Duw eisiau
dechreu gwaith newydd ynom. Maer Gair, Gweddi ar Ysbryd yn dod a ni
ir pwynt ble rydym ni yn nabod Iesu Ydan nin gallu tystio ein bod
nin ei nabod? Cofiwch ni allwch adnabod rhywun yn ail law.
Terfynwyd y Gwasanaeth yn briodol gydar Emyn Diolch i Ti yr
Hollalluog Dduw am yr Efengyl Sanctaidd. Hwyrach y gofynnir i ni fel
eglwysi archwilio ein deall an defnydd or Gair yn y darllen ar
cyhoeddi.
Yn l i
dudalen Y Goleuad |