Mizoram 2006
Braf yw cael adrodd bod yr ail gam a nodwyd yn Apl y
Gwanwyn 2006 wedi ei gyflawnin llwyddiannus ym mis
Tachwedd. Y cam oedd anfon tm o Gymru i Mizoram i rannu
profiad ac arbenigedd ym maes cyffuriau HIV/AIDS gyda
sectorau allweddol yno. Rhan o ymgais at atal HIV/AIDS oedd
hyn, trwy annog ymateb amserol.
Daeth argyfwng HIV/AIDS yn India i sylwr byd yn ystod
ymgyrch Dydd AIDS Bydeang eleni y pryder ydi mai India
fydd yr Affrica newydd, gyda lefelau HIV/AIDS yn cynyddun
gyflym. Ym Mizoram gwelsom brawf bod y clefyd wedi treiddio
ir boblogaeth cyffredinol gyda arolygon sentinel yn
dangos lefelau o 0.75% ymhlith gwragedd beichiog. Ffigwr yw
hwn syn ymddangos yn isel ochr-yn-ochr ffigyraur Affrig,
ond ffigwr syn cadarnhaur alwad i weithredu ar frys.
Aeth wyth ohonom draw ar ran EBC Dr. Carl Clowes a
Dorothy Clowes (meddygaeth / iechyd cyhoeddus / therapi
lleferydd), Dr. Richard Pates (seicoleg glinigol ac
arbenigedd cyffuriau), Parch. John Roberts (cysylltiadau
eglwysig a thorfol), Gron a Jeanette Bennet-Williams
(fferyllyddiaeth, rheolaeth meddyginiaethau a throsglwyddo
nodwyddau), Ann, a finnau (anghenion addysgol arbennig a
chyffuriau ac alcohol). Cawsom groeso twymgalon ar aelwyd
Dr. Rema, Cyfarwyddwr Meddygol Ysbyty Durtlang ar fraint o
gael aros ar gampws yr ysbyty a chael mwynhau cwmni staff yr
ysbyty gan gynnwys Dr. Sanga a dreuliodd gyfnod yng
Nghymru yn 2005.
Maer Adroddiad llawn a luniwyd gennym ar gael or swyddfa
yng Nghaerdydd. Cyflwynwyd yr Adroddiad ir Synod ac ir
Gweinidog Iechyd ar ddiwedd ein hymweliad, ond dyma grynodeb
or prif argymhellion:
‑Y Synod ar Mizoram State Aids Control Society
(asiantaeth y weinyddiaeth iechyd) i gynull Cynhadledd
Sefydlog i gyd-lynu holl ymdrechion yr holl fudiadau
gwirfoddol (o leiaf 28 ohonynt) ar asiantaethau iechyd ac
eglwysig, ac i gynllunio cynllun strategol i Mizoram gyfan.
‑ir Gynhadledd Sefydlog sefydlu Fforwm Cyfathrebu er mwyn
datblygu unoliaeth barn ynglyn r neges ac i ddiogelu
cyfathrebiad effeithiol ac aml-gyfryngol or neges ir
boblogaeth ac i grwpiau arbennig risg-uchel.
‑ir Gynhadledd Sefydlog sefydlu Fforwm Hyfforddiant hefyd
i ddatblygu a chyd-lunu Cynllun Hyfforddiant pwrpasol i
staff a gwirfoddolwyr. Gellid cyd-weithio Cholegau a
Phrifysgolion Cymru a Lerpwl i ddatblygu cyrsiau safonol
achrededig. Sefydlwyd Prifysgol Mizoram yn Hydref 2006 a
fydd o gymorth mawr i hwylusor cysylltiadau hyn.
‑y Synod i wneud arolwg mewnol or gwaith a gyflawnir gan
yr Eglwys ym meysydd darpariaeth uniongyrchol i gleifion,
gwaith cymdeithasol a chymunedol, a gwaith datblygu ymhlith
arweinyddion eglwysig, grwpiau gwragedd ar KTP (gwaith
ieuenctid).
‑datblygu y gwasanaethau arbenigol, yn arbennig felly yr
Hosbis, y gwasanaethau cyffuriau (Grace Ward ar Unedau
ail-sefydlu). Mae gwir angen hefyd i gynyddu argaeledd
Therapi Gwrth Haint (ARTs) a bydd angen peiriant cyfrif
CD4 hefyd.
Mae digon eto iw gyflawni, ar Adroddiad yma gobeithio a
fydd yn llywior Trydydd cam sef gweithredu. Fe fydd angen
adnoddau ychwanegol ar gyfer y gwaith. Medrwn gynorthwyon
partneriaid ym Mizoram i lunio cais cynhwysfawr ir
National Aids Control Organization (India) i gefnogi
strategaeth lleol i Mizoram. Bydd cyfle hefyd i eglwysi ac
unigolion o Gymru i barhau yn eu rhoddi, a chafwyd ymateb
ychwanegol eisioes.
Cawsom daith ddiddorol a phrofiadau ysgytwol. Diolch o
galon i EBC am y cyfle, ac i bawb am eu cefnogaeth. Carwn
hefyd ddiolch ir Tm am eu parodrwydd i ymroi ir daith ac
ir dasg a oedd gennym. Diolch hefyd am natur hyfryd y
cydweithio a gafwyd. Diolch in cyfeillion yn Mizoram am eu
croeso ac am ein gwneud yn rhan or teulu, am eu brwdfrydedd
di-ball, ac am y fraint o weld yr Arglwydd ar waith
trwyddynt ac yn eu plith.
Aneurin Owen.
 |
|
Yr Hosbis fel y mae ar hyn o bryd. |
 |
|
Ieuenctid lleol Durtlang yn rhoi croeso traddodiadol o ddawns,
cn a gwledd! |
 |
|
Cyflwynor Adroddiad i arweinyddion y Synod. |
Yn l i
dudalen Y Goleuad