www.ebcpcw.org.uk

 
 
 
 
  
 
 

 Hafan

 Y Swyddfa

 Y Cyfundeb

 Newyddion

 Canolfannau

 Dogfennau

 Cyhoeddiadau

 Ariannol

 Eiddo

 Dolenni

 

 

 

 

 

Ble ydw i?  Cyhoeddiadau

Y Goleuad Y Traethodydd Y Cylchgrawn Hanes The Treasury

 
Papur Wythnosol Eglwys Bresbyteraidd Cymru


Dweud Llawer Mewn Ychydig
 

Yn yr oes brysur hon lle nad oes Ysgol Sul mewn sawl capel bellach calonogol oedd derbyn gwaith Cwrs gan chwarter o Gapeli Henaduriaeth Dyffryn Clwyd ar Ebrill 16eg, Rhain oedd Bethania a Tabernacl Rhuthun, Cefn Meiriadog, Fron, Gellifor, Llannefydd, Mynydd Seion Abergele, Trefnant, Ysgol Sul Unedig Llansannan. Fy mraint i oedd bwrw golwg drostynt a pharatoi adroddiad. Rhaid pwysleisio bod y gwaith ar Thema Wythnos y Pasg yn adleision credo mai diben pennaf dyn yw gogoneddu Duw ai fwynhau byth ag yn dragywydd!

  Roedd y Groes yn cael lle canolog yn yr amrywiaieth eang o gyweithiaur Plant a Phobl Ieuanc Posteri Deniadol a Murluniau cynhwysfawr, Llyfr Consartia o luniau 3-D a Gardd Basg, Stribedi-Cartwn, Ffeiliau oedd yn frith o luniau lliwgar a gwybodaeth, chwilair, myfyrdodau a sgrifennu creadigol, Llyfr Lloffion ar stori wedi ei chyfleu mewn gair, gweddi, llun ag emyn. Cyflwyniadau Powerpoint a C.D. Sain oedd yn cyd-fynd, Sgript aeddfed o raglenni nosweithiol diddorol iw actio ar Fideo. Defnyddiwyd aml-gyfryngau papur, cerdyn, pensel, creon, pen ffelt, pastel a ffotograffaeth ir gwaith celf a dyluniwyd mewn Croespwyth, gwiail, mwsog, a defnydd ac roedd meistrolaeth bendant ar y defnydd o dechnoleg gwybodaeth i greu penawdau, sgrifennu ac ymchwilio.

  Yr hyn a roes wefr i mi oedd gweld gwaith creadigol gwreiddiol yn hytrach na chopi destlus wedi ei hadgynhyrchu dangosai bod y plant ar bobl ieuanc wedi mewnolir storiau or Efengylau ar Llawlyfrau au dehongli yn eu ffyrdd eu hunain. Canfyddwn lawer o elfennau ir stori oesol drwy lygaid Plant. Caed cyffyrddiadau trawdiadol megis Sticer o Galon fawr Binc ar un clawr yn dangos Cariad Duw yn disgleiriuo drwy Storir Pasg, Sul y Blodau o safbwynt y Mul, y Bedd ar ?y Pasg yn cael ei ad-lewyrchu yn sip ceg y gwragedd syn ar Fore Sul y Pasg. Roedd symlrwydd rhai or cyflwyniadau yn effeithiol dros ben au defnydd o liw a symbol yn awgrymog iawn. Cofier y gellir dweud llawer mewn ychydig.

  Roedd cyfraniadaur Oedolion yn rhai Unigol, yn hytrach na chyfanwaith. Cafwyd dau Fersiwn or Wythnos Sanctaidd drwy lygaid Pedr wedi ei sgrifennun raenus, yn dangos ymwybyddiaeth ddofn or Ysgrythur. Yn goron ar yr Arddangosfa roedd y cyflwyniad Celf un mewn papur wedi heneiddio ar bren a gwnio pheiriant ar y thema Dyma Gariad nad n angof. Roedd y symboliaeth yn crisialur neges ir dim. Creodd un arall Frithwaith mn ddarnau o ddefnyddiau wedi eu pwython gywrain i ddarlunior Ffordd at y Groes. Cyflewyd y thema gyda threfniant blodau oedd yn aroglin fendigedig yn ogystal ag edrych yn ddeniadol, gydau sip triongl o flaen y Groes wg ar goron ddrain. Roedd l meddwl a dychmyg yn y llwyfannu ar dehongli, oedd yn dangos bod Selogion mawr a mn ein Hysgolion Sul, yn dilyn l troed Cewrir byd Celf y Canoloesoedd.

  Mawr ywr diolch i Swyddogion Eglwys Mynydd Seion, Abergele am ganiatau ir gwaith gael ei arddangos roedd yn gyfle ir gynulleidfa eangach werthfawrogir gwaith ac i Swyddogion yr Henaduriaeth weld am beth y derbyniwyd y Gwobrau ar Fai y 4ydd. Beth am gyflwynor gwaith ir Gwasanaeth Llyfrgell wneud Arddangosfa Basg 2008?

Nesta Davies.

 

Brithwaith mewn defnydd gan Mary Mars Jones, Dyffryn Llandyrnog.
Gwaith Papur, Pren a Gwnio a Pheiriant gan Llinos Roberts, Cefn Meiriadog.
Poster siap Croes gan blant Ysgol Sul Rhuthun.
Blodau gan Ysgol Sul Capel Henllan. 

Lluniau gan Sion Jones
 

Yn l i dudalen Y Goleuad

 

English

 
Y GOLEUAD

Golygydd

Mr. John Gruffydd Jones
Swyddfa'r Goleuad
Gwasg Pantycelyn
Ln Ddewi
Caernarfon
LL55 1ER

Ffn

01286 672018

E-bost

cliciwch yma
 
 

Diweddarwyd y dudalen hon ar 22/10/2007