N
am Ni; mae Capel Noddfa yn lle i bawb. Ni a nhw, fo a hi a
hyd yn oed chi!
O
am oed; mae yna le i bawb o bob oed yn Capel Noddfa. Ifanc,
hen hyn!
DD
am ddoe; mae yna lawer o bethau wedi digwydd yng Nghapel
Noddfa ddoe!
F
am fory; da ni ddim yn gwybod be ddigwyddith yng Nghapel
Noddfa fory ond gobeithio bydd pobl yn dal i sn am Dduw ac
yn dal i ddangos cariad Iesu Grist i eraill.
A
am Arbennig; mae Capel Noddfa yn lle Arbennig!
Dyma oedd geiriau y plant yn eu drama yn ystod gwasanaeth
comisiynnu Llinos Mai Morris a Mererid Mair Williams i
wasanaethu yn Eglwys Noddfa sydd ar Stad Ysgubor Goch,
Caernarfon.
Erbyn hyn, yr ydym nin dwy wedi cychwyn ar ein gwaith
newydd, Llinos fel Gweithwraig Plant a Ieuenctid a Mererid
yn Weithwraig Cymunedol Eglwysig.
Maer ddwy ohonom yn awyddus iawn i barhau a datblygur
gwaith cenhadol cymunedol sydd wedi bod yn digwydd yn yr
Eglwys ers y 1950au, gan obeithio dechrau gweithgareddau
newydd gan ymestyn allan ir gymuned gyfan. Ac yn wir, maer
misoedd diwethaf wedi bod yn llawn o weithgareddau newydd a
chyffrous.
Dwin siwr y bu i chwi fel darllenwyr y Goleuad
ddarllen am ein clwb Pasg Mwy na Wy mewn rhifyn diweddar.
Braf oedd gweld llond y lle o blant yn dysgu fod y Pasg yn
wir yn fwy na wy!
Cyfle arall i weld llond lle o blant a phobl oedd yn ystod
ein Parti Partir Pentecost. Fe drefnwyd prynhawn agored
yn yr Eglwys ar Sul y Pentecost gyda gweithgareddau megis
gemau, gwaith crefft, paentio wynebau a storir Pentecost.
Cawsom wasanaeth bywiog yn sn am y rhodd arbennig or
Ysbryd Gln i gloi y dydd.
Yn ogystal gweithgareddau newydd a syniadau di-ddiwedd,
maer Eglwys yn cyfarfod yn rheolaidd ar brynhawn Sul yn
stafell gefn y ganolfan. Yn ogystal chynnal gwasanaethau,
y mae ysgol Sul yn cael ei gynnal, a chriw selog, ffyddlon a
brwdfrydig iawn yn dod ynghyd i foli Duw.
Cynhelir clwb plant yma pob prynhawn Gwener lle maer
plant yn cael y cyfle i chwarae gemau, ymlacio a dysgu a
chael llawer iawn o hwyl!
Bob haf, cynllun pwysig iawn maer Eglwys yn ei drefnu ai
redeg ywr Cynllun Chwarae Haf. Maer cynllun yn rhedeg am
bum wythnos yn ystod gwyliaur Pasg ac maen rhoi cyfle i
100 o blant gael bod yn rhan or gweithgareddau amrywiol.
Mae ganddom fel eglwys hefyd gysylltiad r ysgolion lleol
ac rydym wedi bod yn cynnal gwasanaethau ynddynt yn
ogystal c yng Nghartref Henoed Maesincla.
Ond, nid gwaith plant ac ieuenctid yn unig sydd yn digwydd
yma. Mae drws agored yn Noddfa bob amser a gall unrhyw un
daro mewn am gymorth neu sgwrs. Mae llawer o waith wedi ei
wneud yn y gorffennol gyda hawliau a budd-daliadau.
Gobeithiwn allu parhau r gwaith pwysig hwn.
Fel gweithwyr newydd rydym yn awyddus i ddechrau
prosiectau newydd yn y dyfodol a fydd yn fodd i ni ddangos
mae yma i wasanaethu maer Eglwys.
Mae rhai or farn mae prif nod gwaith cenhadol yw sicrhau
cynulleidfaoedd ar gyfer y dyfodol. Credwn ni fod gwaith
cenhadol yn llawer mwy na hynny. Mae rhannur Efengyl yn
bwysig i ni yma yn Noddfa, ond credwn yn gryf hefyd fod yn
rhaid byw yr Efengyl a bod dangos cariad Crist yr un mor
bwysig siarad amdano. Rydym yn ymestyn allan yn ddi-amod
fel mae cariad Crist yn ddi-amod.
Llinos Mai Morris a
Mererid Mair Williams.
 |
 |
|
Partir Pentecost |
Yn l i
dudalen Y Goleuad