Daeth tm o chwech oedd yn aelodau o bump eglwys o CWM
Byd-eang i dreulio tair wythnos amrywiol a diddorol yn
teithio Cymru yn edrych ar waith Eglwys Bresbyteraidd Cymru
ac Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Pwrpas yr ymweliad yma ag
Ewrop oedd i alluogi Teulu CWM i wella eu hadeiladwaith a
dal i feithrin perthynas fyd eang.
Themar ymweliad oedd Galluogi Holl Bobl Dduw gan edrych
sut mae rl Merched a Dynion yn un mewn Cenhadaeth yn
gweithio yng Nghymru a hefyd edrych ar y cyfleoedd sydd i
ferched yn y byd seciwlar. Gydar nod hwn mewn golwg
llwyddasom drwyr ddau enwad i drefnu rhaglen amrywiol ar eu
cyfer led led Cymru.
Treuliwyd yr wythnos gyntaf yng Nghaerdydd yn ymweld r
Cynulliad, Amgueddfa San Ffagan a gwrando ar ddarlithoedd ar
Hanes Crefydd a Gwleidyddiaeth. Clywsom hefyd am y sefyllfa
bresennol yn ein henwadau ac am waith Cytun. Ymwelwyd
Swyddfa Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn yr Eglwys Newydd a
chyfarfod yr Ysgrifennydd Cyffredinol ai gyd weithwyr a
threuliwyd y penwythnos yng nghartrefi aelodau or ddau
Enwad. Bu cyfle i gyfarfod ac aelodau Eglwys Saesneg Parkend
(EBC) ac Eglwys yr Annibynwyr yn Stryd Minny.
Dechreuwyd teithio ar yr ail wythnos, gan ymweld Thy
John Penri, Swyddfeydd yr Annibynwyr yn Abertawe a chyfarfod
Y Parchedig Allan Pickard, sydd yn gweithio gyda rhaglen
Agape yn Aberdr. Treuliwyd dwy noson wedyn yn Nhrefeca a
chael cyfarfod Phwyllgor Chwiorydd Bwrdd y Genhadaeth.
Ymlaen wedyn i gyfarfod Grwp o Chwiorydd yn Rhydaman ac yna
i Goleg y Drindod yng Nhaerfyrddin ller oedd Y Parchedig
Noel Davies ar Barchedig Beti Wynn James yn ein disgwyl. Yn
gynnar fin nos treuliwyd amser gyda Nigel Davies a grwp o
bobl ifainc yng Nhaerfyrddin.
Aethpwyd ymlaen wedyn am dair noson i Aberystwyth ac
ymweld ac Ysgolion, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan
Y Morlan. Cymerodd aelodaur tm ran mewn Gwasanaeth Gwyl
Ddewi Cydenwadol Dwyieithog ac yna treulio gweddill y bore
gyda Gweinidogion lleol a gydar nos hefo myfyrwyr oedd yn
dilyn Cwrs Alpha. O Aberystwyth teithiwyd ir Bala i ymweld
r Coleg a chlywed am y gwaith ieuenctid a phlant, cyn mynd
i aros i gartefi am y penwythnos.
Ar y drydedd wythnos ymlaen ni ar y Bws Mini i Fangor ac
ymweld Chanolfan Iaith Nant Gwrtheyrn, Stiwdio Recordio
Sain, a Chanolfan Gymunedol Noddfa. Roedd yn brofiad
arbennig ymweld Chapel Nantybenglog (y capel lleiaf yng
Nghymru) a chael gwasanaeth byr yno dan arweinad Mrs Gwyneth
Morus Jones, Trefnydd dros yr Annibynwyr, gyda Mererid Mair
Williams yn codi canu. Talwyd ymweliad hefyd Berea Newydd
(un on capeli newydd yng Nghymru) a chael ein tywys o
gwmpas gan Rhun Murphy, Trefnydd Ieuenctid. Ymlaen wedyn i
Eglwys Gymunedol Parkfields yn Yr Wyddgrug a chyfarfod r
aelodau a sefydlodd yr eglwys, gweinidogion lleol ar
Parchedig Marcus Robinson, Caplan mewn Diwydiant. Gwelsom
hefyd Y Barchedig Jane Nyrongo, Cenhades o Zambia ar
Barchedig Nan Wyn Powell Davies, Caplan mewn Carchar. Mae
Caplan mewn Ysbyty yn cael blaenoriaeth gan Awdurod Iechyd
Gogledd Cymru felly fe gawswom gyfarfod r Parchedig Wynne
Roberts, Prif Drefnydd y Tm ar Parchedig Eric Jones syn
Gaplan rhan amser. Ymwelwyd hefyd r Coleg Gwyn ym Mangor a
chyfarfod y Parchedigion Elwyn Richards, Euros Jones ac
Elfyn Jones a chlywed am y cyrsiau Diwinyddol yn ogystal
gwahanol gyrsiau i Leygwyr y maent yn eu trefnu. Treuliwyd y
ddau ddiwrnod olaf yng Ngregynog ger Y Drenewydd yng
Nghyngor Undeb yr Annibynwyr.
Roedd y Tm yn teimlo eu bod wedi cael profiadau eang a
diddorol wrth edrych ar wahanol agweddau o waith y ddau
Enwad. Yn Llundain y treuliwyd y ddau ddiwrnod olaf tra
roeddynt yn gwneud eu hadroddiad ac edrychwn ymlaen am ei
ddarllen ymhen amser. Buaswn yn hoffi manteisio ar y cyfle i
ddiolch i bawb a gyfarfuom yn ystod y daith ac i ddweud fod
y Tm yn hynod ddiolchgar am y croeso ar lletygarwch a
gawsant trwy Gymru ben baladr.
Ar nodyn personol gallaf eich sicrhau ei fod wedi bod yn
brofiad rhyfeddol a dyrchafol i fod yn rhan o grwp mor
arbennig a chael cydweddio a chydaddoli hwynt. Roeddynt yn
Dm brwdfrydig iawn ac yn llawn sl dros genhadu, a diolchaf
i Eglwys Bresbyteraidd Cymru am roir cyfle i mi fod yn rhan
or ymweliad.
Carol Clay (Trefnydd y Gwesteiwyr dros Eglwys Bresbryteraidd
Cymru).
Meinir Lloyd Jones (Cyfieithydd).
Yn l i
dudalen Y Goleuad