John Tudno Williams
Er i Ina a mi ddychwelyd or India wedir Pasg buom yn hynod
brysur gan gynnwys mynychu dwy Gymanfa Gyffredinol ein
chwaer eglwysi Presbyteraidd yn yr Alban ac yn Iwerddon.
Wrth gwrs, yn yr Alban yr Eglwys hon ywr eglwys sefydledig
a rhannodd yr holl wlad yn blwyfi iw gwasanaethu. Arwydd
clir or cysylltiad agos rhwng yr eglwys ar wladwriaeth yw
presenoldeb y Lord High Commissioner a gymer ei le yn y
galeri yn union y tu l ac uwchben cadair Llywydd y Gymanfa.
Felly nid ywn cymryd rhan yn nhrafodaethaur Gymanfa, ond
fe ymbresenolodd am awr a mwy ar ddechrau pob dydd a
thraddododd anerchiad yn yr eisteddiad cyntaf. Y Comisiynydd
eleni oedd y Tywysog Andrew, a soniodd i ddechrau am y
ffaith y cofir eleni am dri chanmlwyddiant uno Lloegr ar
Alban cysylltiad, meddai, syn gwegian peth wrth ir
Cenedlaetholwyr gipior awennau yn y wlad. Chwarddodd pawb,
gan gynnwys Alex Salmond a oedd yn eistedd wrth ei ochr.
Gorfu iddo hefyd wrando ar y cyn-lywydd, y Parch. Alan
McDonald, yn adrodd fel y gorymdeithiodd filltiroedd lawer
mewn protest yn erbyn polisi llywodraeth Prydain o ddatblygu
Trident newydd.
Roedd dros naw cant o gynrychiolwyr yn y Gymanfa, gan
gynnwys hanner cant o eglwysi tramor. Derbyniodd pob
cynrychiolydd gerdyn aelodaeth a oedd yn swipe card y
gellid ei ddefnyddio oi osod mewn teclyn wrth un or nifer
o feicroffonau a geid o gwmpas y neuadd gynnull er mwyn
cyfrannu ir dadleuon, ac roedd gwahoddiad cynnes ir
cynrychiolwyr o eglwysi eraill wneud hynny, ac yn wir,
cafwyd nifer o gyfraniadau gwerthfawr gan rai ohonynt yn
ystod yr wythnos. Fen cyffyrddwyd, er enghraifft, gan
gyfraniad llawfeddyg o Basra a ddisgrifiodd yr anrhefn yn
Irac, gan feior awdurdodau am beidio sicrhau ffiniaur
wlad yn union wedi ymosodiad UDA a ninnau arni. Soniodd
hefyd am y bygythiad i ddyfodol Cristnogaeth yn y wlad a bod
dwy allan or pum eglwys Bresbyteraidd eisoes wedi gorfod
cau. Trist oedd clywed cynrychiolwyr o wledydd Affrican sn
am y modd mae Aids yn effeithion arw ar gymunedau cyfain,
er bod un o Genian adrodd bod y sefyllfa wedi gwella peth
yn ei wlad yntau. Yn un or cyfarfodydd ymylol, a gynhelid
bob amser cinio, wedi gwrando ar frawd or Indian annerch
am ddulliau addysgu yn ei wlad ar y pwnc hwn, cefais innau
gyfle i sn am yr hyn yr oeddem fel eglwys yn ceisioi wneud
ynglyn r broblem fawr hon yn Misoram.
Llywydd y Gymanfa eleni ywr Parchedig Sheilagh Kesting,
yr ail wraig yn unig ar gweinidog cyntaf o blith y gwragedd
i fod yn Llywydd Eglwys yr Alban. Hi yw ysgrifennydd yr
adran or eglwys syn ymwneud materion eciwmenaidd.
Diddorol oedd sylwi ar restr fer o ryw wyth o blwyfi, a
hanner ohonynt ar ynys Lewis, lle mae angen ir gweinidog
gynnal gwasanaethau rheolaidd mewn Gaeleg, a ryw ddeg ar
hugain wedyn lle y byddain ddymunol ir gweinidog allur
iaith. Soniodd y Parch. Ddr. Angus Morrison o Stornoway,
Cynullydd ei Bwrdd Cenhadol, y carai ddod draw i Gymru i
weld sut yr ydym yn ymdrin gweinidogaethu mewn dwy iaith.
Mewn poblogaeth o ryw bum miliwn ychydig dros hanner milwn
syn aelodau or Kirk. Mae hyn yn cymharu bron i 700 mil
yn 1995.
Cafwyd croeso yr un mor gynnes yn Belfast ag a dderbyniwyd
yn yr Alban bythefnos yn gynharach. 260 o filoedd syn
aelodau or Eglwys Bresbyteraidd yn Iwerddon bellach, ller
oedd 380 mil ddeng mlynedd ar hugain yn l. Maer sefyllfa
wleidyddol wedi sefydlogin ddirfawr yn ddiweddar a gwelir
arwyddion amlwg o waith adeiladu masnachol enfawr yng
nghanol y ddinas. Eto dal i sefyll y maer muriau syn
gwahanu ardal Brotestanaidd y Shankill Road oddi wrth ardal
Babyddol y Falls Road, a chaeir y git rhyngddynt bob nos o
hyd. Efallai bod tuedd ir trafodaethau yma fod yn fwy
mewnblyg nag yn yr Alban ac ar wahn ir gwahoddiad a
estynnwyd i rai ohonom o eglwysi eraill gyfarch y Gymanfa
wrth inni gael ein croesawu ar y dechrau doedd dim disgwyl
cyfraniad gan neb or tu allan ir eglwys ir trafodaethau.
Siaradodd Ina hefyd ar ran y gwesteion yn y cinio i wragedd
y gweinidogion a gynhaliwyd yn ystod yr wythnos. I mi
pinacl y cyfarfodydd oedd y rali fawr a gynhaliwyd ar y nos
fercher pryd yr oedd Neuadd y Gymanfa yn llawn ir ymylon
maen dal ryw bymtheg cant o bobl, a llawer ohonynt yn bobl
ifanc. Anerchwyd yn effeithiol iawn ar Iesur Gwas gan Dr.
Paul Tripp o Goleg Diwinyddol Westminster, Philadelphia. Un
o bynciau trafod mwyaf llosg y Gymanfa oedd dyfodol Tyr
Gymanfa, lle cynhelid yr holl weithgareddau a lle mae
pencadlys yr Eglwys yng nghanol Belfast. Penderfynwyd ei
gadw a gwario ymhellach arno.
Yn union wedir Pasg sefydlwyd gwraig yn Llywydd yr
Eglwysi Rhyddion yn Lloegr, er y cofir bod Cymru yn dal
cyswllt o hyd r Cyngor hwn. Elizabeth Matear yw ei henw ac
maen Gomisiynydd ym Myddin yr Iachawdwriaeth, h.y. maen
bennaeth ar adran y chwiorydd yn y Fyddin hon drwy Brydain
ac Iwerddon ac y mae ei gwr John yn Bennaeth ar ei holl
weithgarwch. Yng Ngholeg y Fyddin, Coleg William Booth yn
Denmark Hill, De Llundain, y cynhaliwyd y cyfarfod sefydlu a
hynny yn y math o awyrgylch gwresog y gellid ei ddisgwyl
ymysg y Fyddin gyda band o ieuenctid gan fwyaf ac
International Staff Songsters Byddin yr Iachawdwriaeth yn
cyfrannun effeithiol ir gwasanaeth, a chafwyd pregeth
eneiniedig gan y Llywydd newydd. Maen olynu y Parch. David
Coffey, Ysgrifennydd Cyngor Bedyddwyr y Byd a ddug sylw at
gyfraniad yr eglwysi rhyddion yn arbennig wrth iddo ymuno
r ddau Archesgob yn eu hymweliad Bethlehem y Nadolig
diwethaf.
Ymwelais hefyd r Chymdeithasfar Gwanwyn yn y dair
talaith a chymryd rhan yn y gwasanaeth o sefydlu Bedyddiwr,
y Parch. Peter Harries Davies yn Weithiwr Eglwysig mewn
pedair eglwys annibynnol ac un eglwys on henwad ni ym
Mrynaman. Diwrnod nodedig oedd hwnnw yng Nghaerfyrddin
ddiwedd mis Mawrth pan drafodwyd un or cwestiynau mwyaf, os
nad yn wir y mwyaf, a wynebar ddynoliaeth heddiw, sef
Ecoleg. Fei trefnwyd ar y cyd gan Goleg y Drindod a
Chymorth Cristnogol, a chafwyd cyfraniadau meistrolgar gan
Dr. John Morgan, gwyddonydd o Eglwys Salem, Canton, Dr.
Hefin Jones, a fydd yn annerch sesiwn arbennig ar yr un
testun ar fore Iaur Gymanfa Gyffredinol eleni, a Dr. Robert
Pope a Dr. Catrin Williams or Brifysgol ym Mangor a
ymdriniodd goblygiadau beiblaidd a diwinyddol y broblem.
Ysgrifennodd y Parch. Dafydd Henri Edwards yn ardderchog
eisoes yn Y Bedair Tudalen am ddau beth arall y carwn eu
crybwyll cyn gorffen hyn o lith, sef yn gyntaf Y Goleulong
ym Mae Caerdydd syn denu 141 o filoedd o ymwelwyr y
flwyddyn. Dyman wir y pumed atyniad mwyaf poblogaidd yng
Nghymru. Maen dystiolaeth fyw ir Efengyl Gristnogol yng
nghanol bywyd ein prifddinas ac yn ganolfan i genhadaeth
effeithiol y Caplan, y Parch. Monica Mills, y mae ei
dylanwad yn cyrraedd i bob cwr or Bae gan gynnwys y Senedd.
Mewn cyfarfod arbennig a gynhaliwyd yno ym mis Chwefror
clywais bod bygythiad y bydd yn rhaid ir Goleulong gau
oherwydd diffyg adnoddau ariannol os na newidir y sefyllfa
yn ddirfawr, Yr ail ddigwyddiad y cyfeiriwyd aton ddiweddar
ar y tudalennau hyn oedd ymweliad dirprwyaeth o eglwysi
Syria Chymru. Yn y cinio ffarwel iddynt a gynhaliwyd yng
Nghaerdydd ym mis Mai roedd llysgennad y wlad hefyd yn
bresennol a siarododd yn werthfawrogol iawn am gyfraniad
Cristnogion, sydd ond yn ddeg y cant or holl boblogaeth
bellach, i ffyniant y wlad mewn sawl cylch o fywyd.
Wrth gloir ysgrif olaf hon or pump a luniais yn ystod
blwyddyn fy llywyddiaeth, carwn ddiolch am bob mynegiant o
werthfawrogiad a dderbyniais amdanynt. Bun wir fraint imi
gael cyflawnir gwahanol swyddogaethau a chael eich
cynrychioli mewn cynifer o fannau ac ar achlysuron mor
amrywiol.
 |
|
Y Parch John Tudno Williams |
Yn l i
dudalen Y Goleuad