Gorffennaf 16-19, 2007, Llanbedr Pont Steffan
Thema: Iesu ywr Arglwydd ~ Llywydd: Parchedig John Tudno
Williams
Maen bleser unwaith eto estyn gwahoddiad a chroeso ir sawl fydd
yn dod ir Gymanfa Gyffredinol eleni i addoli, gweddo,
trafod a phenderfynu, cymdeithasu ac annog ein gilydd yng
ngwaith y Deyrnas. Oes, mae llawer o siarad (gormod medd
rhai!), a hynny o anghenraid, ond cawn hefyd y pleser o
gyfarfod n cyd-Gristnogion o Gymru a thu hwnt a hynny yn
enw yr Arglwydd Iesu Grist.
Beth ywr arlwy fydd ger ein bron eleni?
Addoliad boreol o dan arweiniad y Caplan am eleni Y Parchg Eifion
Roberts, Llanelli. Down fel teulu at Fwrdd y Cymun ar y nos
Lun gydar Parchg Jenny Garrard yn annerch. Cynhelir
cyfarfodydd gweddi ar hyd yr wythnos, ond ar y nos Fercher
byddwn yn uno yng nghapel y Coleg i gyflwynor Eglwys ac
anghenion y byd ir Arglwydd.
Y Ddarlith Davies: Parchg Robert Bebb yn traddodi ar Pob dull
posib mynd ir afael r Oes Dechnolegol
Y Ddarlith Hanes: Dr Huw Walter Y Cylchgrawn ei gynnwys ai
gyfranwyr
Nos Fawrth: Araith Ymadawol y Llywydd presennol ac Arwisgor
Llywydd newydd, Y Parchg John Owen, Rhuthun.
Ac eleni, gan ein bod yng nghanol ein hapl arbennig i gefnogi
prosiectau Cymorth Cristnogol yn Sierra Leone, daw
Cyfarwyddwr Cymorth Cristnogol, Dr Daleep Mukharji i
bregethu yn ein hoedfa ar y nos Fercher.
Pa bynciau sydd iw trafod a phenderfynu yn eu cylch?
Dyma bigion yn unig.
Byddwn or diwedd yn cadarnhau y strwythur Symud Ymlaen. Bydd y
Byrddau newydd yn dechrau ar eu gwaith ym mis Hydref eleni,
ar Henaduriaethau newydd yn dod yn weithredol yn Ionawr
2008.
Rhaid cadarnhau y drefn newydd o ran y Cyfraniad Cyfundebol
gydar Gymdeithasfa yn y tair talaith yn trefnur
weinidogaeth o fewn eu terfynau ac yn gyfrifol hefyd am ei
chynnal yn ariannol.
Y mae angen penderfynu ar drefn gyflogaeth newydd, ac y mae
argymhelliad ger bron i godi cyflogau gweinidogion yn
sylweddol.
Cawn glywed am y datblygiadau diweddaraf o ran y Bwrdd Addysg
Gristnogol, Bwrdd y Genhadaeth ar Bwrdd Cyfathrebu.
Yng ngoleuni deddfau newydd rhaid trafod oedran ymddeol
gweinidogion.
Trefniadau newydd parthed y weinidogaeth ran-amser.
Sut mae ariannur Cynllun Pensiwn ir dyfodol?
Ac y mae argymhellion gerbron y Gymanfa fydd yn symleiddio ac yn
cyflymur broses o werthu eiddo.
Bydd trafodaeth ynglyn ag ynni niwclear a chawn wybod am y
paratoadau sydd ar gyfer cyhoeddi llyfr gwasanaethau newydd.
Byddwn yn penderfynu hefyd a ydym am adeiladu Canolfan
Dreftadaeth newydd yn Nhrefeca ac uwchraddior cyfleusterau
presennol.
A mwy....
Nid siop siarad mor Gymanfa ond cyfle i osod blaenoriaethau ac
agenda y Cyfundeb gan ofyn am arweiniad a bendith Duw ar y
cyfan. Wrth estyn gwahoddiad ir Gymanfa eleni, yr wyf
hefyd yn estyn gwahoddiad i bawb syn darllen yr erthygl hon
i weddo yn fwy taer nag erioed dros waith yr Eglwys a
lledaeniad yr Efengyl.
Parchedig Ifan Roberts.
 |
|
Y Llywydd etholedig, Y Parchg John Owen, Rhuthun |
Yn l i
dudalen Y Goleuad