Coleg y Bala, Mai 18-20 2007
Beth sydd gennych i dathlu yma yng Ngholeg y Bala? oedd
cwestiwn Gohebydd or B.B.C. i ni yma yn y Coleg penwythnos
diwethaf. Ble rydym yn dechrau? Roedd y penwythnos yn
ddathliad o ddaioni Duw i ni fel Gwasanaeth Plant ac
Ieuenctid. Roedd yr achlysur i gyd wedi ei ganolbwyntio ar
ddiolch i Dduw am ei holl waith mae wedi ei wneud ym mywydau
pobl yma yn y Coleg.
Noson o atgofion a gawsom Nos Wener yng nghwmni y pedwar
cyn-gyfarwyddwr, sef Parchedigion D. H. Owen, Jim Clarke,
Brian H. Jones a Bryn Williams yn ogystal r Parch.
Williams Davies, sef myfyriwr olaf Coleg y Bala fel Coleg
Diwinyddol. Roedd llawenydd a thristwch ond hefyd clywsom
fel roedd daioni Duw wedi arwain pob un yn ystod eu cyfnod
yma.
Roedd yn hyfrydwch clywed sut y daeth Coleg y Bala yn
Ganolfan Plant ac Ieuenctid ac fel roedd y gwaith wedi
parhau i dyfu ac addasu ar gyfer cenhedlaeth newydd o blant.
Roedd dydd Sadwrn yn ddiwrnod arbennig ar gyfer y plant.
Braf oedd gweld gymaint o blant, pobl ifanc ac oedolion yn
mwynhau y gweithgareddau! Dechreuwyd a gorffenwyd y diwrnod
gyda gwasanaethau yng ngofal Owain a Gwyn ac roedd yn wych
gweld teuluoedd yn llenwir Capel. Roedd yr awyrgylch yn
wefreiddiol, y math o awyrgylch y dylai fod mewn Canolfan
Plant ac Ieuenctid Gristnogol.
Daeth y penwythnos i ben gyda gwasanaeth yng Nghapel Tegid
pnawn Sul. Roedd hwn yn ddiweddglo priodol i benwythnos
gwych gan rhoi cyfle i ni ddiolch i Dduw am ei ffyddlondeb
ai ddaioni i ni dros y 40 mlynedd diwethaf.
Hoffem fanteisio ar y cyfle yma i ddiolch i bawb sydd wedi
cefnogi y gwaith yma yn y Coleg. Rydym yn ddiolchgar am eich
gweddau, cefnogaeth ariannol ach holl anogaeth i ni yma.
Gweddwn y bydd hyn yn parhau ac yng ngeiriaur Epistol
Paul:
Byddaf yn diolch im Duw bob tro y byddaf yn cofio amdanoch
a phob amser ym mhob un om gweddau dros bob un ohonoch, yr
wyf yn gweddo gyda llawenydd. Diolch y byddaf am eich
cydweithrediad o blaid yr Efengyl.
(Philipiaid 1:3-5)
Yn l i
dudalen Y Goleuad