www.ebcpcw.org.uk

 
 
 
 
  
 
 

 Hafan

 Y Swyddfa

 Y Cyfundeb

 Newyddion

 Canolfannau

 Dogfennau

 Cyhoeddiadau

 Ariannol

 Eiddo

 Dolenni

 

 

 

 

 

Ble ydw i?  Cyhoeddiadau

Y Goleuad Y Traethodydd Y Cylchgrawn Hanes The Treasury

 
Papur Wythnosol Eglwys Bresbyteraidd Cymru


Sefydlu a Derbyn

 

Derbyn chwech ym Merea Newydd, Bangor

 

Mewn gwasanaeth hyfryd ym mis Mai, fe gawsom fel eglwys y pleser o dderbyn chwech on pobl ifanc yn gyflawn aelodau. Fe gafwyd nifer o sesiynau paratoi cyn y derbyn gan y Gweinidog y Parch Eric Jones a Rhun Murphy y swyddog plant ac ieuenctid, a tystiodd y ddau i ymroddiad ac ymateb y rhai ifanc yn y sesiynau. fe gyflwynwyd Beibl yr un yn rhodd ir rhai ifanc, sef Catrin Parry, Gwenno Llewelyn, Patrick Rimes, Casi Wyn Gwenan Llewelyn a Miriam Owen. Ein gweddi yw y bydd ir chwech yma dyfu yn eu perthynas gydar Arglwydd ac y byddant yn aelodau gweithgar yn ei Eglwys Ef.

 

 

Gwasanaeth arbennig ym Methaniar Felinheli

 

Cafwyd gwasanaeth arbennig yng nghapel Bethaniar Felinhelin ddiweddar. Roedd y capel yn orlawn a braint oedd cael bod yn rhan o fedydd Efa Llywelyn merch  fach Mari a Gerald Roberts, yn ogystal hyn cawsom ymweliad gan griw o Ysgol Pendalar a wnaeth chwarae ambell gn i ni, ac fel petai hynny ddim yn ddigon cawsom y pleser o dderbyn 5 on pobl ifanc yn aelodau cyflawn or eglwys.

  Fe gyflwynwyd Beibl yr un yn rhodd ir 5, ac fe fynegodd y gweinidog, y Parch Eric Jones, y fendith a gafodd ef a Rhun Murphy y swyddog plant ac ieuenctid, o fod yn rhan o ddosbarthiadau paratoi y pum person ifanc sef Gwen John, Elliw Williams, Elin Gwyn, Gareth Eaglestone ac Aled Emyr. Ein gweddi yw y byddant yn tyfu yn eu ffydd ac y bydd y bwrlwm ar llawenydd a brofom yn y gwasanaeth hwn yn rhan ou profiad yn gyson.

 

 

Sefydlur Parchedig Wyn Rhys Morris

 

Cynhaliwyd Cyfarfod Sefydlur Parchedig Wyn Rhys Morris, B.A., B.D., yn Weinidog ar Ofalaeth y Garn yng Nghapel y Garn, nos Wener, Mair 25ain, gydar Parchedig Pryderi Llwyd Jones, Llywydd Henaduriaeth Gogledd Aberteifi, yn llywyddu. Daeth aelodau o Ofalaeth Dosbarth Llanfynydd ynghyd ag aelodau Gofalaeth y Garn a ffrindiau o ofalaethau ac eglwysi eraill at ei gilydd i dystio i ddefod y Sefydlu ac i gyfrannu yn eu gwahanol ffyrdd at y gwasanaeth.

  Ar l ir Llywydd offrymur weddi agoriadol darllenwyd emyn gan Mrs Edna Thomas, Rehoboth. Braf oedd clywed y canu ysbrydol yn llenwir capel gyda chyfeiliant cadarn Llio Penri wrth yr organ. Cafwyd dau ddarlleniad or Ysgrythur gan Dr Maredudd ap Huw, Seion, y naill yn tynnu ein sylw at hanes y Dyrchafael ar llall yn ein hatgoffa or Pentecost cyntaf. Offrymwyd gweddi gan y Parchedig W. J. Edwards, ac fe gafwyd eitem gan Gwen Sims-Williams, Madog; Buddug Williams, Seion, a Rhun Penri, y Garn, ar ran plant ac ieuenctid yr Ofalaeth. Miss Nia Evans, Nasareth, ddarllenodd yr ail emyn. Tro pobl Caerfyrddin oedd hi wedyn i gyflwynor Gweinidog i ni. Gwnaed hyn gan Mr Lloyd Thomas ar ran Eglwysi Gofalaeth Dosbarth Llanfynydd a Mr Mel Morgans ar ran Henaduriaeth Gogledd Myrddin. Cyflawnwyd defod y Sefydlu yn rasol dan ofal y Llywydd, ac offrymwyd gweddi ar ran y Gweinidog gan y Parchedig Trefor Lewis.

  Darllenwyd emyn gan Mrs Llinos Evans, Babell, ac yna croesawyd y Gweinidog newydd in plith gan yr Arglwydd Elystan-Morgan ar ran Eglwysir Ofalaeth, Mr Glyn T. Jones ar ran yr Henaduriaeth ar Parchedig Richard Lewis ar ran eglwysir ardal. Y Parchedig Eric Greene, Capel Tegid y Bala, draddododd y siars ir eglwysi. A hithau mor agos at y Sulgwyn roedd hin addas iawn mair Penetcost a gymerodd yn sail iw anerchiad. Offrymwyd gweddi ar ran eglwysir Ofalaeth gan y Parchedig R. W. Jones, cyn-weinidog yr Ofalaeth. Darllenodd Ms Mared Hughes, Madog, yr emyn olaf ac offrymwyd y fendith gan y Parchedig John Livingstone.

  Yn dilyn y gwasanaeth cafodd yr ymwelwyr swper danteithiol yn Neuadd Rhydypennau, wedi ei drefnu ai weini gan chwiorydd yr Ofalaeth.

 

Yn l i dudalen Y Goleuad

 

English

 
Y GOLEUAD

Golygydd

Mr. John Gruffydd Jones
Swyddfa'r Goleuad
Gwasg Pantycelyn
Ln Ddewi
Caernarfon
LL55 1ER

Ffn

01286 672018

E-bost

cliciwch yma
 
 

Diweddarwyd y dudalen hon ar 22/10/2007