www.ebcpcw.org.uk

 
 
 
 
  
 
 

 Hafan

 Y Swyddfa

 Y Cyfundeb

 Newyddion

 Canolfannau

 Dogfennau

 Cyhoeddiadau

 Ariannol

 Eiddo

 Dolenni

 

 

 

 

 

Ble ydw i?  Cyhoeddiadau

Y Goleuad Y Traethodydd Y Cylchgrawn Hanes The Treasury

 
Papur Wythnosol Eglwys Bresbyteraidd Cymru


Hiraeth am hwyl Gareth Maelor

 

Ar y nos Fawrth, 5ed Mehefin 2007, daeth tyrfa o dros 350 ynghyd i Horeb, Brynsiencyn i barchur cof am Y Parch. Gareth Maelor ac i roi diolch i Dduw am ei wasanaeth brwd a dyfeisgar yn eglwys yr Arglwydd Iesu Grist. Gweinidog gofalaeth Porthaethwy ar Cylch Y Parch. Geraint Roberts, brawd yng nghyfraith Gareth Maelor oedd yn gyfrifol am y rhaglen, gydag aelodaur ofalaeth gan mwyaf yn cymryd at yr eitemau. Roedd dau unawdydd Marian Roberts a Richard Griffiths; a dwy gyfeilyddes Ceinwen Price a Marian Roberts.

  Roedd y rhan fwyaf or rhaglen yn cynnwys ysgrifau, myfyrdodau ac ymson / gweddi a luniwyd gan Gareth ei hun ar y thema Be Ydyr Pasg? Dyma gyflwynwyr yr eitemau hyn: Eleri Lewis Jones, Hywel Wyn Owen, Gruffydd Owen, Trystan Roberts, Merfyn Jones, Alan W. Roberts a Bethan Owen. Yn ychwanegol caed darlleniad o Salm y Pasg (Rhys Nicholas) gan Ella Owens a Gwyn Thomas yn adrodd y gerdd Gareth Maelor oi waith ei hun.

  Geraint Wyn Jones oedd wedi crynhoi rhai oi atgofion am flynyddoedd cynnar Gareth ym Mlaenau Ffestiniog. Gyda thristwch y cyhoeddwyd y newydd am waeledd Geraint ac anfonwyd cyfarchion a chofion iddo. J. O. Roberts ddarllenodd yr hyn yr oedd Geraint wedi ei baratoi. J.O. hefyd oedd wrth y llyw yn cydlynnur holl eitemau hefo adrannau pwrpasol or Beibl ac fel bob amser gwnaeth hynny yn ei ddull cwbwl arbennig ei hun, yn broffesiynol afaelgar.

  Geraint Lloyd Owen oedd ar gorchwyl o ymdrin r ochr ysgafn, llawn hiwmor oedd yn perthyn i bersonoliaeth a chymeriad Gareth. Gwaith anodd iawn oedd hyn oherwydd cyfeillgarwch dwfn Geraint a Gareth. Bu raid iddo ffrwyno ei deimladau yn dynn or herwydd. Cyfyngodd ei hun i bedwar digwyddiad i ddangos mor agos yr oedd y doniol ar difrif at ei gilydd ym mywyd Gareth. Cafodd y gynulleidfa bleser mawr a difyrrwch yn gwrando ar hyn a daeth Gareth yn agos iawn atom trwy atgofion Geraint.

  Tystiolaeth y gynulleidfa oedd ir achlysur fod yn fendith fawr. Gwerthfawrogwyd y graen a welwyd ym mhob cyflwyniad. Llawenydd oedd croesawu atom Brenda, priod Gareth, ynghyd ag Esyllt, Gwawr a Swyn y tair merch. Braf oedd cael croesawu llu o aelodau eraill y teulu hefyd.

  Diolchodd y Gweinidog yn ei ddull mwyaf gwresog am bresenoldeb pawb, yn arbennig y rhai a drefnodd fwsiau o Dalysarn, Penygroes ar Groeslon.

  Wedir cyfarfod mwynhawyd paned a bisged yn ysgoldy Horeb a diolchwyd ir merched am baratoi mor serchog. Haedda swyddogion Horeb ein cydnabyddiaeth am hyrwyddo pob hwylustod gydar trefniadau.

  Talwyd diolch hefyd i Alwyn Owens am gymorth parod i ddarparu taflenni y rhaglen.

  Y mae un yn aros ar ei ben ei hun syn haeddur diolch cywiraf o bawb, y Parch. Geraint Roberts. Oni bai amdano ef ni fyddai hadyn y noson wedi ei blannu. Wnaeth neb wrthod cymryd rhan iddo; amhosibl gwrthod i wr sydd mor selog ei ymroddiad ym Mn. Diolch, Geraint.

  Casglwyd 400 ar y noson, yr arian yn cael ei gyflwyno i Apl y Cyfundeb i Sierra Leone.

 

A.W.R.

 

Y rhai a gymerodd ran yn rhaglen y noson

Yn l i dudalen Y Goleuad

 

English

 
Y GOLEUAD

Golygydd

Mr. John Gruffydd Jones
Swyddfa'r Goleuad
Gwasg Pantycelyn
Ln Ddewi
Caernarfon
LL55 1ER

Ffn

01286 672018

E-bost

cliciwch yma
 
 

Diweddarwyd y dudalen hon ar 22/10/2007