Roedd oedfa bore Sul, Gorffennaf 1af yn un arbennig iawn i
aelodau Salem, Dolgellau gan inni gael yr hyfrydwch o
fod yn dystion i dderbyn tri o ieuenctid yr eglwys,
Darius Elphick, Elora Elphick a Sioned Lewis yn gyflawn
aelodau. Wrth sgwrsio r bobl ifanc yn ystod yr oedfa
soniodd Dwyryd Williams, un on blaenoriaid, mai oes y
Logos yw hon a chawsant gystadleuaeth hwyliog i brofi
faint o logos gwahanol fudiadau a nwyddau y gallent eu
hadnabod. (a llwyddo i gael sgr uchel iawn!) Awgrymodd
Dwyryd Williams mair adnod Duw Cariad yw ddylai fod
yn logo ir Cristion ac main braint ninnau fel dilynwyr
Iesu Grist yw byw ein bywyd yn y fath fodd
Fel bo i eraill, trwom ni
Adnabod cariad Duw.
Cyflwynodd y gweinidog Feibl a Llyfrau Emynau i Elora, Darius a
Sioned i nodir amgylchiad.