Mewn dosbarth Derbyn ychydig fisoedd yn l fe gefais i
ar gweinidog y Parch. Eric Jones, gais gwahanol ir
arfer gan un o aelodaur dosbarth. Gofyn yr oedd hi os y
byddain iawn iddi hi ac un oi chyd ddisgyblion yn yr
ysgol, i ddod at y ddau ohonom am wythnos o brofiad
gwaith ym mis Mehefin. Roedd y ddau ohonom yn gytn fod
hyn yn syniad gwych, er hynny doedd gennym ddim syniad
sut y byddai hyn yn gweithio felly roedd yn rhaid mynd
ati i gysylltu gydar ysgol. Wedi cryn drafod, ac
amheuaeth fawr ar ran yr ysgol yn y dechrau maen rhaid
cyfaddef, fe drefnwyd bod y ddwy, sef Gwenno Llewelyn a
Lisa Williams, yn ymuno ni am wythnos yn nechrau
Mehefin.
Fe benderfynom mai da fyddai ir merched gael profiad
mor eang phosibl o waith yr ofalaeth yn ystod yr
wythnos, ac fe aethom ati i lunio amserlen a fyddain
gadael iddynt arsylwi amryw o wahanol agweddau or
gwaith, a chymryd rhan mewn nifer o weithgareddau hefyd.
Fe gawsom gyfarfod byr gydar ddwy cyn yr wythnos i ni
esbonio ychydig ar natur y gwaith, a threfn yr wythnos.
Ac iddynt hwythau esbonio ychydig ar eu rhesymau dros
fod eisiau dod atom fel rhan ou profiad gwaith. Ymateb
y ddwy oedd eu bod yn gwybod am waith yr eglwys ar y Sul
y gwasanaethau ar ysgolion Sul, ond hoffent wybod
ychydig mwy am beth sydd yn mynd ymlaen y tu l ir llen
fel petai beth ywr gwaith nad ydynt yn ei weld.
Dyma raglen waith fras am yr wythnos gan Gwenno;
Dydd Llun
2 pm - 5 pm
Ymweld ag aelodaur capel sydd mewn cartrefi henoed o
amgylch Ynys Mn, a Threborth gydar gweinidog, cawsom
groeso cynnes gan bawb yr aethom iw gweld.
Dydd Mawrth
9 am - 5 pm
Creu agenda ar gyfer cyfarfod Gwyl Gorffennaf yn
Noddfa Caernarfon, ac yna mynychur cyfarfod gyda Rhun,
Mererid a Llinos. Drafft cyntaf y Gornel Weddi ar gyfer
Ichthus (cylchgrawn chwarterol Berea Newydd. Yn ystod
yr wythnos fe wnaeth Gwenno baratoi cornel weddi ir
cylchgrawn a pharatdd Lisa gornel y plant). Yna
ymweld chapel yr ysbyty gydar gweinidog, a mynd o
amgylch y wardiau, gan glywed am y gwaith syn cael ei
wneud gan gaplaniaid yno.
Dydd Mercher
10.30 am - 6.15 pm
Paratoi Cicbang (Clwb Ieuenctid Cristnogol Bangor),
a gosod i fynu. Cael gwers fer ar sut mae llunio
cofnodion, a mynd dros gofnodion pwyllgor Noddfa gyda Ms
Elen Ogwen, ysgrifenyddes y Capel, au teipio ar y
cyfrifiadur.
Paratoi Clwb Plant Bethania yna, mynd i Fethania, y
Felinheli, gosod i fynu ar gyfer y Clwb a helpu ei
arwain gyda Rhun.
Dydd Iau
11 am - 7 pm
Basau data, dyddiadau geni (gwaith swyddfa cadw
trefn ar ffurfleni caniatd ayb). Ysgrifennu
tystysgrifau a chreu labeli rhodd Derbyn ar gyfer
Beiblau dosbarth derbyn Bethania. Mynd dros y Gornel
Weddi gyda Rhun ar Gweinidog, ei gywiro, ai deipio ar
y cyfrifiadur. Paratoi cicbach Clwb Plant Berea),
gosod i fynu, a helpu ei arwain gyda Rhun.
Dydd Gwener
9 am - 12 pm
Paratoi gwers ysgol Sul i blant blwydyn 4 a 5, a
pharatoi rhan agoriadol y gwasanaeth dydd Sul Power
Point. Creu llythyrau a phosteri ar gyfer cyrsiau Coleg
y Bala yn yr Haf ar gyfer plant ac ieuenctid yr
ofalaeth.
Dydd Sul
9 am - 11 am
Gosod i fyny dosbarth Ysgol Sul ar Powerpoint ayb, a
dysgu dosbarth Ysgol Sul blynyddoedd 4 a 5.
Roedd yr wythnos yn brofiad gwych, nid yn unig ir
merched, fe gefais i ar gweinidog agoriad llygad wrth
weld dwy ifanc yn cymryd gymaint o ddiddordeb yng
ngwaith yr ofalaeth. Rwyn credun gryf hefyd fod yr
ysgol a oedd yn amheus iawn ar y dechrau, wedi dysgu
ychydig am amrywiaeth a phwysigrwydd y gwaith syn cael
ei wneud gan yr Eglwys. Gobeithio mai dim one off fydd
hyn ond dechrau rhywbeth newydd, ac y bydd mwy o bobl
ifanc yn gweld gwerth mynd i gapel ar eu hwythnos
brofiad gwaith. Pwy wyr efallai y gwelwn Gwenno a Lisan
arweinwyr yn yr Eglwys yn y dyfodol.
Rhun Murphy (swyddog Plant ac Ieuenctid gofalaeth
Bangor)
 |
|
Gwenno a Lisa |
Yn l i
dudalen Y Goleuad