Ar Sadwrn, 13 o Fai, cynhaliwyd Cymanfa Ganu eglwysi
Henaduriaeth Manceinion yng Nghapel Noddfa, Oaker
Avenue, West Didsbury, o dan arweiniad Mr. Arwel Jones,
Penisarwaun, syn flaenllaw ym myd addysg, radio, teledu
a cherddoriaeth, yn arweinydd Noson Lawen a Chymanfa
Ganu ac yn adnabyddus fel un o Hogiar Wyddfa.
Yr organyddes oedd Mrs. Lilian Bury, Eglwys
Altrincham. Arweinwyd mewn defosiwn yng nghyfarfod y
prynhawn gan aelodau Ysgol Sul yr eglwys, Carys a Megan
Smithson, ar Llywydd oedd Mrs. Lois Murphy. Ein
gweinidog, y Barchedig Eleri Edwards, oedd Llywydd
cyfarfod yr hwyr.
Maen bur debyg mai hon fydd y Gymanfa Ganu olaf o dan
nawdd Henaduriaeth Manceinion ac mai Dosbarth yn
Henaduriaeth y Gogledd Ddwyrain fyddwn y flwyddyn nesaf.
Mae hanes ar gael am Gymanfa Ganu yn Salford yn y
flwyddyn 1890 ac felly mae Cymanfa Ganu Manceinion yn
sicr o fod wedii chynnal am gan mlynedd. Daeth
cynulleidfa dda ynghyd prynhawn ar hwyr a nifer ohonynt
au meddyliau yn pontio Cymanfaoedd am hanner can
mlynedd pan oedd cyfarfod y prynhawn yn Gyfarfod y
Plant. Roedd plant ysgolion Sul Moss Side, Pendleton,
Heywood Street, Wellington Street Stockport, Altrincham
a Warrington yn llanwr seddau blaen, yn canu or
Detholiad ac yn derbyn Tystysgrifau Arholiad yr Ysgol
Sul ac ymunodd oedolion eglwysi Ashton, Bolton,
Sheffield a Rochdale yng nghyfarfod y nos. Roedd
trefniadaur Arholiad ar Gymanfa yng ngofal yr Undeb
Ysgolion Sul ac ymhlith y rheolau oedd yr eglwys lle
cynhelir y Gymanfa syn gyfrifol am yr organydd ac hefyd
am baratoi te rhwng y cyfarfodydd. Maer paratoi te
yn para!
Paratowyd te gan chwiorydd yr eglwys a bur gymdeithas
o gylch y byrddaun felys.
Beth ddigwyddodd? Bler aeth yr Amen? Mae rhieni plant
yr Ysgolion Sul yn neiniau a theidiau erbyn heddiw,
tyfodd y plant a chollwyd dyfodol yr eglwysi. Yn yr
hanner can mlynedd aeth heibio daeth cannoedd o Gymry i
gael hyfforddiant neu waith yn y ddinas, ond ychydig a
deimlodd awydd ymuno r alltudion oedd yma mewn eglwys
neu gymdeithas. Heneiddiodd yr aelodau, aeth pellter
ffordd rhwng eglwysi yn drech na rhai, collwyd eraill
trwy farwolaeth a phenderfynodd nifer orffen eu dyddiau
nl yng Nghymru a bu gostyngiad cyson yn rhif aelodaur
eglwysi. Yn raddol bu rhaid unor eglwysi a daeth
problemau yn sgil y newidiadau ond ni chlywyd, ein
capel ni syn bwysig, ai i ddim i gapel arall, o enau
neb. Cadw Achos Cymraeg ym Manceinion oedd yn bwysig.
Mr. Arwel Jones oedd yr arweinydd eto yng nghyfarfod
yr hwyr a chantorion y dair eglwys, Noddfa Oaker Avenue,
Altrincham a Warrington yn cadwr fflam i losgi ac er
mwyn sicrhau safon a llwyddiant y Gymanfa Ganu wedi
cynnal rihyrsals drwy misoedd y gaeaf o dan ofal
arweinyddion lleol, Mrs. Elfyn Evans a Mr. Trefor
Davies. Diflannodd Yr Undeb Ysgolion, nid oes ond un
Ysgol Sul ir plant ac un clwb plant yn yr eglwysi a
Phwyllgor y Gymanfa syn trefnur Gymanfa Ganu ond, doed
a ddelo, mae trefniadaur flwyddyn nesa ar y gweill.
Mrs. Lois Murphy, Cheadle Hulme.
Yn l i
dudalen Y Goleuad