Symud Ymlaen
Fel darpar-Lywydd yn ystod y flwyddyn a aeth heibio, cefais gyfle
i ffarwelio r hen drefn, ond bellach rwyf yn Llywydd
ar y drefn newydd. Lle bu pum bwrdd, yn awr y mae tri,
yn lle 30 o henaduriaethau yn awr y mae 14, ond erys y
sasiynau. O ganlyniad nid ywr tocio cyfundrefnol wedi
bod mor egar ag a fwriedid ar y cychwyn. Gyda threfn
newydd, mi fydd poenau esgor yn anochel, er i ni roi
blynyddoedd o feddwl a thrafod gofalus iddi o dan
arweiniad medrus ein Hysgrifennydd Cyffredinol. Ond ein
gobaith yw y bydd y drefn newydd yn gorwedd yn ddigon
esmwyth i ni fedru cyflawni ein priod waith yn y Gymru
sydd ohoni fel eglwysin lleol ac fel Cyfundeb, oherwydd
pwrpas y trefnu ar addasu parhaus yw hwylusor ffordd
in tystiolaeth. Un or rhwystredigaethau pennaf y
dyddiau hyn yw fod y newidiadau oddi fewn in heglwysi
ar gymdeithas on cwmpas yn digwydd mor gyflym. Ac y
maer her i wynebu y rheiny gyda nin gyson.
Cyfryngau Newydd
Yn y Gymanfa eleni, cawsom olwg ar gyfathrebu yn y Gymru ddoe a
heddiw. Rhoddodd Huw Walters ddarlith oleuedig ar
gylchgronaur corff yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Roedd nifer y cylchgronau a maint eu cylchrediad yn
anhygoel. Ymatebwyd i awch y boblogaeth am addysg, a
chrefyddwyr oedd yn bennaf cyfrifol. Addysg grefyddol ac
ysgrythurol yn naturiol oedd yr addysg honno. Cafwyd
darlith nodedig gan ein cyn-Lywydd, Robert Bebb, yn
trafod y w ar ffn llaw. Un sylw arwyddocaol ymhlith
eraill a wnaeth oedd fod ei lyfrgell ar y w yn fwy nai
lyfrgell yn ei stydi. Maer w yn cymryd swyddogaeth
llyfrau a chylchgronau drosodd. Yn wir, fe wnaethom fel
Cymanfa gefnogir bwriad i roi holl lenyddiaeth
gylchgronol y Cyfundeb ar y w gan eithrior flwyddyn
gyfredol. Soniodd Robert Bebb hefyd am y ffn llaw.
Rhwng y ddau gyfrwng, nid cysylltu lle (gwefan) yn
unig a wneir, ond cysylltu pherson neu bersonau
eraill. Mae yna gyfle i bobl i ymateb ir naill ar
llall. Yn yr ystyr honno, nid oes angen i neb fod yn
unig. Ond pa fath berthynas yw hon? Maen amlwg mai dyma
gyfrwng cyfathrebu ein plant bellach. Ymddengys y bydd
darllen cylchgrawn, beth bynnag am bapur newydd, yn
ddiddordeb ir ychydig dethol. Yn wyneb y pwysau hyn,
beth tybed fydd hanes y Goleuad ar pedair tudalen?
Beth a gyfathrebwn?
Cynnyrch gwyrthiau technolegol yw ein cyfryngau, ond beth am y
neges a geisiwn ni ei chyfathrebu? Yr Efengyl. Fe
glywsom adeg rhyfel Vietnam yn y ganrif ddiwethaf, fod
teledu wedi chwarae rhan allweddol mewn dwyn y rhyfel
erchyll hwnnw i ben. Nid clywed am gyrff y milwyr yn dod
adref yn eu heirch a wneid bryd hynny, ond eu gweld ar y
sgrn ymhob cartref. Ar slogan ddaeth i fri bryd hynny
oedd The medium is the message. Maen ymddangos
fod y cyfrwng yn gallu bod yn fwy na chyfrwng, yn wir,
yn rhan or neges. Beth am y ffn llaw ar w? A ydynt
yn effeithio ar natur y neges ei hun? Yn sicr, fel y
teledu, maer cyfryngau hyn yn gyfryngau grymus ir
gwych ar gwachul, i Dduw a drygioni.
Ond ym mha fodd y cyfathrebwn? Ofer yw mynd ir byd i siarad
iaith diwinyddiaeth a jargon crefyddol. Maer llinellau
cyswllt yn cau yn syth, a dawr ddeialog i ben yn sydyn.
Dyna pam mae consarn Aled Jones-Williams yn un dilys.
Nid yn y ddeunawfed ganrif yr ydym byw bellach, ac nid
profiadaur ganrif honno yw ein profiadau ni. Yr ydym
hefyd yn rhy aml yn siarad fel pe bai gan y Cristion
ateb parod i bopeth mewn byd syn ddirgelwch heb sn am
y dirgelion syn perthyn ir Ffydd ei hun. Yn wir, yr
her i ni yw sefyll wrth ochr ein cymydog pwy bynnag
ydyw, a chydnabod mai pererinion ydym ni bob un. Os ydym
nin mynd oi flaen, neu yn llusgo tu l iddo, rydym
nin debygol oi golli, ond wrth fod ochr yn ochr ag ef,
fe wnawn ffrind ohono. Creu perthynas ywr her. A mae
hynny yn golygu croesi ffiniau fel yr oedd Iesu yn
croesi ffiniau rhagfarnau crefyddol ei ddydd. Gan gofio
her ganolog llywyddiaeth y cyn-Lywydd: Iesur Arglwydd
na ddaeth i gael ei wasanaethu ond i wasanaethu.
Sierra Leone
Daw hyn fi at eiriau Iesu Wrth eu ffrwythau yr adnabyddir
hwy. Cawsom ein hatgoffa o ddwy her ymarferol iawn
yn y Gymanfa. Yn gyntaf cwblhau ein casgliad at Sierra
Leone cyn diwedd y flwyddyn y wlad dlotaf yn y byd i
gyd sydd wedi dioddef blynyddoedd o ryfel cartref.
Gobeithio y byddwn yn l ein harfer yn casglu mwy nar
targed o 10 y pen ar gyfartaledd. Gyda llaw fe ddaeth
awgrym, gan fod ymdrechion Cymorth Cristnogol yn
gyd-eglwysig yn y rhan fwyaf on hardaloedd, ein bod yn
ystyried fel enwadau wneud ymdrech arbennig ar y cyd yn
ystod yr un flwyddyn yn hytrach nag ar wahn ar
flynyddoedd gwahanol. Pam lai?
Torrir Carbon
Cawsom wledd o gyflwyniad ir newid yn yr hinsawdd gan y Dr.
Hefin Jones ar angen am dorrir carbon, er bod cynnwys
y cyflwyniad yn llawn braw a oedd yn ein gadael gyda her
fawr a nifer o bethau i gnoi cil arnyn nhw. Delio a
wnaeth gydar llwybr carbon, ar angen am ymgyrchu ar
ein rhan fel aelodau ac fel eglwysi yn ogystal phwyso
ar fusnesau a chwmniau i reoli maint y carbon. Rhai
pethau y gall pob un ohonom eu gwneud; cerdded neu
feicio ir capel, bod yn ofalus gyda golau a gwres, an
defnydd o dechnoleg fodern. Heb sn am bapur!! Y byd
datblygiedig sydd eisoes yn dioddef fwyaf or newid
hinsawdd hwn. Roeddwn yn Kenya fis Chwefror, a roedd y
glaw wedi dod yn llawer rhy fuan ir tymor hau. Nid
casglu arian yn unig yw ein cyfrifoldeb yn y byd
cyfoethog bellach, ond ymosod ar ein hafradlonedd an
gwastraff ni ein hunain. Mae angen bod yn ddarbodus.
Drwyr Gymanfa atgoffwyd ni bod John Rowlands, un o
flaenoriaid Eglwys y Crwys, Caerdydd, ar y daith
Torrir Carbon a drefnwyd gan Cymorth Cristnogol; mil
o filltiroedd mewn 80 niwrnod: cychwyn yn Belfast (14
Gorffennaf) > Caeredin > Birmingham > Caerdydd , a
diweddu yn Llundain (Hydref 2). Bydd y cerddwyr yng
Nghaerdydd ar yr 8fed o Fedi. Os ydych yn y cyffiniau y
diwrnod hwnnw, ymunwch gyda nhw ar ran or daith ac yn y
rali syn dilyn.
I gloi, da fyddai inni gofio geiriau John Gwilym Jones yn ei
gerdd: Mesur Dyn. (Y Faner Newydd) sydd yn crynhoi neges
Dafydd Andrew Jones ar ran Bwrdd y Genhadaeth:
Pan gaiff dyn ei fesur, gofynnir gan Dduw
Nid sut y gwnaeth farw, ond sut y gwnaeth
fyw.
Nid beth oedd ei gred, ond beth fyddain
wneud.
Y Parchedig John Owen, Rhuthun
Yn l i
dudalen Y Goleuad