www.ebcpcw.org.uk

 
 
 
 
  
 
 

 Hafan

 Y Swyddfa

 Y Cyfundeb

 Newyddion

 Canolfannau

 Dogfennau

 Cyhoeddiadau

 Ariannol

 Eiddo

 Dolenni

 

 

 

 

 

Ble ydw i?  Cyhoeddiadau

Y Goleuad Y Traethodydd Y Cylchgrawn Hanes The Treasury

 
Papur Wythnosol Eglwys Bresbyteraidd Cymru

 

Dathlu yn yr Ardd

 

Pe baech wedi pasio trwy bentref Gellifor fore Sul, y 7fed o Fehefin, efallai y byddech wedi clywed swn canu emynau o gyfeiriad gwahanol ir arfer. Nid rhwng muriaur capel yr oedd y lleisiaun seinio ond yng ngardd Bod Heulog, cartref Idris a Marian Humphreys. A pham, meddech chi? Wel, roedd teulu Capel Gellifor yn dathlu! Dathlur ffaith fod dau on haelodau ffyddlonaf ac annwylaf wedi eu hanrhydeddu r Fedal Gee. Cyflwynwyd y medalau i Mr. Raymond Rushton a Mrs. Rachel Parry Jones mewn gwasanaeth arbennig ym Mhorthmadog rhyw bythefnos ynghynt ac aeth nifer on haelodau draw yno iw cefnogi. Ond wrth gwrs, roedd rhaid dathlu yn eu cynefin, dathlu a dangos ein gwerthfawrogiad i ddau sydd wedi cynnal yr achos yma yng Ngellifor a thrwy eu ffyddlondeb di-flino ir Ysgol Sul, wedi sicrhau fod nifer sylweddol o blant yr ardal yn parhau iw mynychu.

 

  Un o nodweddion hyfrytaf y capel hwn yw fel y maer cenedlaethaun gwau trwyi gilydd; pawb o bob oed yn ffrindiau. Ac o ganlyniad, roedd y plant yr un mor awyddus au rhieni i gael y cyfle i roi diwrnod wrth eu bodd i Anti Rachel a Mr. Rushton. Cafwyd cyfle yn yr Ysgol Sul i drafod ystyr y Fedal r plant, ynghyd pharatoi cn bersonol iw chanu ir ddau ar y diwrnod. Roedd y mamaun brysur yn paratoir fwydlen, y byrddau ar blodau a phawb yn llawn brwdfrydedd.

 

  Ar forer 7fed, roedd gardd Bod Heulog yn fwrlwm o weithgaredd, ar olygfa or byrddau wedi eu gosod mor ddestlus ar y lawnt yn awgrymu fod gwledd on blaenau. Ond roedd yr olygfa ddwy awr yn ddiweddarach yn hyfrytach fyth. Mr. Rushton ac Anti Rachel yn eistedd on blaenau, y dyffryn gwyrdd yn gefndir iddynt, a phob aelod or gynulleidfa ar eu traed yn eu cymeradwyo. Yng ngeiriaur Sais, standing ovation!

 

  Llwyddodd Nic Parry, un on blaenoriaid, yn ei ddull dihafal ei hun, i gyfleu ein gwerthfawrogiad an hedmygedd ohonynt. Cafwyd gwasanaeth yng ngofal ein gweinidog, y Parch. Wayne Roberts a chanodd y plant ou calonnau iddynt. Roedd yr emosiwn yn gryf, a phan siaradodd y ddau yn eu tro, roedd dagrau mewn sawl llygad. Roedd gwir deimlad o ddathlu yn ein plith dathlu blynyddoedd o deyrngarwch y ddau ir capel sydd mor agos at eu calon, dathlu eu cyfraniad iw cymdeithas au perthynas phob aelod or capel, or ieuengaf ir hynaf. A dathlu ein bod yn deulu, pob un ai rl iw chwarae, ai gyfraniad arbennig.

 

  Dysgwyd sawl gwers y diwrnod hwnnw; ei bod hin werth mentro ar adegau pan fo dyn y tywydd yn bygwth glaw(!), bod dyfodol ein capeli an hysgolion Sul yn ein dwylo ni, ar deyrnged orau a allem ei rhoi i unrhyw un syn derbyn Medal Gee yw parhau u gwaith hwy. Ac yn olaf, bod dod at ein gilydd i ddathlu achlysur arbennig yn donic, yn creu atgofion bythgofiadwy ac yn falm ir galon.


Alaw Bennett Humphreys.

 

 Yn l i dudalen Y Goleuad

 

English

 
Y GOLEUAD

Golygydd

Mr. John Gruffydd Jones
Swyddfa'r Goleuad
Gwasg Pantycelyn
Ln Ddewi
Caernarfon
LL55 1ER

Ffn

01286 672018

E-bost

cliciwch yma
 
 

Diweddarwyd y dudalen hon ar 22/10/2007