www.ebcpcw.org.uk

 
 
 
 
  
 
 

 Hafan

 Y Swyddfa

 Y Cyfundeb

 Newyddion

 Canolfannau

 Dogfennau

 Cyhoeddiadau

 Ariannol

 Eiddo

 Dolenni

 

 

 

 

 

Ble ydw i?  Cyhoeddiadau

Y Goleuad Y Traethodydd Y Cylchgrawn Hanes The Treasury

 
Papur Wythnosol Eglwys Bresbyteraidd Cymru


Eglwys Shiloh, Llambed

 

Oedfa o Fawl 

 

Noson iw chofio; Canu bendigedig; Ysbrydoledig. Sylwadau rhai o aelodaur gynulleidfa wrth iddynt ymadael chapel Shiloh ar ddiwedd yr Oedfa o Fawl arbennig a gynhaliwyd ar nos Sul, 1af o Orffennaf. Hyfryd iawn oedd clywed y ganmoliaeth a llawn mor hyfryd oedd cael y capel bron yn orlawn.

  Oedfa i ddathlu ail agor y capel ar l ei adnewyddu oedd hon, ond fel yr esboniodd y Gweinidog, Y Parch. Elwyn Jenkins, yn ei eiriau o groeso ar y cychwyn cyplyswyd apl Eglwys Bresbyteraidd Cymru am eleni gydar achlysur i godi arian tuag at waith Cymorth Cristnogol yn Sierra Leone, un o wledydd tlotaf y byd.

  Trefnydd y noson ac arweinydd y canu cynulleidfaol oedd Twynog Davies gyda chymorth Eurwen Davies yr organyddes. Yn ddiau yr oedd y detholiad or emynau yn y Rhaglen a baratowyd ganddynt, geiriau o gefndir i bob emyn gan Twynog, ar modd y llwyddodd i gael y gorau or toreth o leisiau yn y gynulleidfa, yn gweddun wych ir achlysur. Yn briodol iawn hefyd oedd yr eitemau a gyflwynwyd gan blant yr ysgol Sul.

  Cyfraniad ardderchog a chofiadwy yn yr un modd i naws ac ysbryd yr achlysur oedd dewisiadau ar wahn, Cr Meibion Cwmann ar Cylch o dan arweiniad Elonwy Davies gydag Elonwy Pugh yn cyfeilio, Cr Merched Crisma o dan arweiniad Caryl Lewis a thriawd Merched Malog. Braint oedd cael eu cyfranogiad au cefnogaeth.

  Diolchwyd yn gynnes iawn i bawb a gymerodd ran gan Y Parch. Elwyn Jenkins gan gynnwys Cwmni Andante a oedd yn recordior oedfa iw darlledu yn nes ymlaen yn y flwyddyn ar Radio Cymru.

 

Owen Jones.

 

 Yn l i dudalen Y Goleuad

 

English

 
Y GOLEUAD

Golygydd

Mr. John Gruffydd Jones
Swyddfa'r Goleuad
Gwasg Pantycelyn
Ln Ddewi
Caernarfon
LL55 1ER

Ffn

01286 672018

E-bost

cliciwch yma
 
 

Diweddarwyd y dudalen hon ar 22/10/2007