Tydi hi ddim yn mynd i fwrw glaw. Geiriau gobeithiol
yn wir, yn enwedig yr haf sydd ohoni eleni.
Gwireddu breuddwyd a dyhead Mair Williams a wnaed wrth
i ddosbarth Oedolion Ysgol Sul y Drindod, Pwllheli
ynghyd u gweinidog, y Parch. W. Bryn Williams, fynd
ati i drefnu oedfa awyr agored yn ddiweddar. Syniad
mentrus. Efallai. Ond syniad llwyddiannus dros ben.
Profiad pen y mynydd yn wir.
Ni fun anodd dewis lle. Wrth ail wampior prom
ychydig flynyddoedd yn l, bu rhywun yn ddigon doeth i
greu corlan helaeth o seti pren gyda wal gerrig oi
hamgylch a hynny ar fin y traeth. Man delfrydol ar
dywydd braf. A dyna gafwyd. Ciliodd y glaw nes ir oedfa
ddod i ben.
Amcan yr ymgais oedd Pwy yw dy ffrind? ac yn ei
ffordd unigryw o gynnes ac agos-ato-chi, llwyddodd Bryn
i ddal gafael yn y gynulleidfa anhygoel o niferus (o tua
150). Bu gair o groeso a gweddi gan June Parry Lloyd
(athrawes y dosbarth) a darllenwyd y Bregeth ar y Mynydd
gan Richard Robyns (arolygwr). Aed ymlaen i drafod hanes
y Samariaid Trugarog gan Bryn a daeth r hanes yn fyw
trwy gymorth symudiadau dychmygol rhai or ieuenctid ar
plant. Gwisgwyd pob un or actorion gyda phenwisgoedd
pwrpasol ac er na fu ymarfer ymlaen llaw, aeth pob un i
mewn i ysbryd y stori. Er mawr hwyl, aeth ambell un dros
ben llestrin ln wrth ymosod ar y truan ar lawr!
Cafwyd canu bywiog ac ysbrydoledig dan arweiniad
Richard Williams. Cyfeiliwyd i ddwy emyn gan Fand
Chwyth Ysgol Glan-y-Mr, Pwllheli dan arweiniad Einir
Wyn a John Glyn ac i ddwy emyn arall gan bedwarawd
offerynnol yr ofalaeth, yn cynnwys allweddellau (Einir),
corn ffrengig (Nia), corn (John Glyn) a ffidil (Glenys).
Cyfareddwyd pawb gan lais swynol Elen o Lithfaen wrth
iddi ganu Gweddir Arglwydd. Bu cryn hwyl wrth i Nian
harwain i ganu Cariad Crist sydd yn llifo atom yn
ddi-gyfeiliant. Toedd dim modd dal i fyny gydar
symudiadau!
Mae 10 aelod ir dosbarth Ysgol Sul ac anrhydeddwyd
dwy ohonynt, sef Joyce Owen a Janet Roberts, gyda medal
Gee eleni. Cyfranwyd gweddi fer gan bob un ohonom yn
unigol, gan roddi mawl i Dduw am fawredd ei gread a gan
hefyd gyflwynor unig, y di-gysur ar gwrthodedig iw
ofal Ef.
Uchafbwynt y prynhawn oedd y gwahoddiad i bawb or
gynulleidfa i ysgrifennu gweddi fer ar label carbord
ac ynai chyflwyno i Dduw trwy ei gosod ar groes fawr a
wnaed yn bwrpasol gan Bryn a Richard Williams. Bur
weithred yman fodd i gyffwrdd calon llawer un.
Wedir oedfa ddod i ben, aethom r plant i lawr ir
tywod i gasglu cerrig ac ynau gosod i ffurfior geiriau
Iesu yw dy ffrind. Gweithred y cofir amdani ymhen
blynyddoedd reit siwr.
Diolch i Ifan Penrallt, Richard, Elfed a Gwyndaf am
fod yn oruchwyliwyr y llwyfan ac ir gynulleidfa fawr a
ddaeth i addoli. Gwnaed casgliad anrhydeddus tuag at
Sierra Leone. Mae llawer o sn yn ddiweddar fod
dyddiaur pregethu traddodiadol ar ben. Ai mynd allan at
y bobl ywr ateb? Do, fe ddaeth llawer o ffyddloniaid o
bob enwad, ond fe ddaeth ambell i ddafad golledig ir
gorlan, ac ambell un or ymwelwyr hefyd. Cawsom i gyd
wefr o fod yn rhan or addoliad ac o gofio geiriaur
Arglwydd Iesu iw ddisgyblion, Ewch ir holl fyd a
phregethwch yr efengyl i bob creadur (Marc 16, 15).
Cofiwn fod Crist yn dal i alw rhain l iw gorlan.
Cofiwn hefyd mai Ef yw ein ffrind beth bynnag ddaw in
rhan.
Glenys Jones.
 |
|
Bryn Williams gydar band |
 |
|
Ysgrifennu Iesu yw fy ffrind ar y traeth ym Mhwllheli |
 |
|
June Parry Lloyd (athrawes) a Bryn Williams (gweinidog) |
Yn l i
dudalen Y Goleuad