Y Parch. Meirion Lloyd Davies, Pwllheli
Roedd ysgrif y Parch. Aled Jones Williams yn eich
rhifyn 20 Gorffennaf yn un ysgytiol a dewr. Fe
ddywed calon y gwir bod ein cyfundrefnau crefyddol
ar eu gwely angau. Gan fy mod wedi ymddeol rwyn
crwydron arw i bregethu ar y Sul ac maer hyn a
welaf yn dorcalonnus. Yn y rhan fwyaf o
gynulleidfaoedd, cyfoedion i mi sydd yno. Ac rwyn
cael trwydded teledu am ddim erbyn!! Eithriad hyfryd
yw mynd i ambell gapel a gweld nifer or canol oed
yno. Weithiau, weithiau gwelaf bobl dan 35 yn
bresennol. Mae sawr angau ar ein hadeiladau ond eto
fe barhawn i gynnal hen adeiladau syn mynd yn fwy
costus iw cynnal ac yn fwy amherthnasol ar gyfer
gofynion heddiw.
Fel un a dreuliodd flynyddoedd lawer yn gweithio
dros ecwmeniaeth maen loes calon imi orfod cytunon
llwyr gosodiad Aled ei fod yn farw fel hoel.
Cawsom fwy nag un cyfle i ddyfod at ein gilydd ond
bu ceidwadaeth cibddall yn drech na gweledigaeth ac
synnwyr cyffredin. Y canlyniad heddiw yw gweld
trefniadaeth pob enwad yn lleol ac yn genedlaethol
yn ymddatod.
Y peth tristaf un am ein cyflwr presennol ywr
gred mai trwy fynd yn fwy ceidwadol y mae achub y
sefyllfa. Er fy mod filltiroedd oddi wrth safbwynt y
ffwndamentaliaid efengylaidd, ac yn pellhau oddi
wrthynt fwyfwy, mae gennyf lawer mwy o barch tuag
atynt na thuag at yr hyn a alwaf yn geidwadaeth
troir cloc yn l. Mae gan yr efengylwyr
weledigaeth a thn yn eu boliau. Ateb yr ail
ddosbarth yw dal gafael ar yr hyn sydd gennym, boed
yn bregethu neun gyfundrefn, gan ymdrechun
galetach yn y gobaith y byddwn yn llwyddo yn y
diwedd. Mae bron fel yr hyn y dywedir am ambell Sais
dros y dwr, Os nad ywr brodorion yn eich deall
gweiddwch yn uwch Ond nid ddim yn deall mae pobl,
tydir hyn a ddywedwn ddim yn ystyrlon nac yn
berthnasol iddynt. Dim ond wrth i ni feddwl yn
greadigol a dyfeisio ffyrdd mwy cyfoes o gyflwynor
efengyl y mae unrhyw obaith llwyddo.
Ateb yr efengylwyr yw cyflwyno Beibl anffaeledig
ai ddehongli yn yr un modd ac yn yr un ieithwedd ag
a wnaethpwyd tair a phum canrif yn l. Ond mae ein
hoes ni yn un wahanol iawn, oes gyda diwylliant a
dealltwriaeth on byd ac o fywyd sydd am y pegwn ag
un ein tadau. O ganlyniad yr angen yw nid i
ailadrodd hen gredoau a hynny mewn ieithwedd
ddieithr i bobl heddiw ond mynd at fr y credoau au
mynegi mewn ffyrdd syn ystyrlon a dealladwy in
hoes ni. Thl hi ddim i ni wawdio rhai fel Dawkins.
Ein cyfrifoldeb yw wynebu eu her a dangos fod y
Ffydd yn un syn gwbl gydnaws ag oes wyddonol
l-fodernaidd. Dyfynnais eiriau Hans Kung droeon,
Rwyn ymwybodol bod angen cyfieithu bob un gair o
Gredor Apostolion in hoes l-Gopernicaidd,
l-Kantaidd, l-Darwinaidd ac l-Einsteinaidd. Yn y
byd hwnnw mae ein pobl yn byw an cyfrifoldeb an
braint yw cyflwynor Efengyl yn eu hiaith.
Mae hyn yn golygu glynu wrth hanfodion y ffydd ar
un llaw a bod yn fentrus au mynegi yn iaith heddiw
ar y llaw arall. Ni chredaf fod Cupitt ar
gwrth-realwyr yn gwneud hyn. Os wyf wedi deall
traethiadau Aled yn iawn mae yntau yn agos iawn at y
safbwynt hwn. Credaf eu bod yn briwsionir Efengyl
allan o fodolaeth. Y dasg angenrheidiol, ac maen un
anodd iawn, yw priodi gwirioneddaur Efengyl efo
teithi meddwl ein hoes. Hyn ywr her fawr. Eilradd
yw popeth arall. Mae lle yn sicr i strategaeth ein
henwad ac i nifer o gynlluniau eraill. Yn wahanol i
Aled credaf fod gwerth mawr mewn cael canolfannau;
dim ond i ni sylweddoli mai materion eilradd ywr
rhain a bod ein gwir argyfwng yn ddyfnach.
Wrth gloi hoffwn ddiolch i Aled am ei erthygl
heriol a dewr; un ddewr iawn, yn enwedig gan un sydd
yn y weinidogaeth (a gobeithio y bydd yn parhau i
fod). Teimlais gywilydd wedi darllen fy mod i am
cyfoedion wedi bod mor ddof a llwfr yn y gorffennol.
Roedd llawer o ddadansoddiad Aled yn amlwg
flynyddoedd lawer yn l ac fe roeddwn i a nifer om
cyfoedion yn ymwybodol ohonynt. Yn anffodus ddaru ni
ddim wynebur sefyllfa gan obeithio y byddai
pethaun gwella ymhen amser. Un or gofidiau sydd
gennyf yw na fu fy nghenedlaeth i yn fwy eofn. Ar y
cyfan tawedog fuom, ynteu rhag dychryn y saint neu
rhag tarfun ormodol ar bethau, neu, o bosibl, am
ein bod yn rhy lwfr. Byddem mewn gwell cyflwr erbyn
hyn pe baem wedi mynnu mynd ir afael r sefyllfa.
I raddau pell fi am cenhedlaeth sydd ar fai am
sefyllfa grefyddol Cymru heddiw ac maer genhedlaeth
iau erbyn hyn yn medir corwynt.
Mawr ddiolch i Aled am ei ysgrif. Gobeithio y
byddwn yn gwrando ar ei neges ac yn gweithredu tra
bod mymryn o bosibilrwydd achub peth ar y sefyllfa.