Y GYMDEITHASFA YN Y DE Crwys, Caerdydd, 1, Mai 2007
Mae blwyddyn fy Llywyddiaeth wedi diflannu megis niwl y
bore. Blwyddyn gymharol dawel fu hi, fawr o alwadau, neu
roeddwn yn fyddar i ambell alwad y dylwn fod wedi rhoddi
sylw iddi, ond fe fu yn brofiad arbennig i mi, ac yn
gwbl onest nid oeddwn erioed wedi chwennych y swydd, ond
fe ddaeth im rhan a chyfrifaf hi yn fraint o fod wedi
gwisgo g?n y Llywydd dros fysgwyddau.
Y drefn arferol cyn mynd ymlaen r anerchiad yw
cydnabod pob cymorth a gefais. Diolch i Megan, fy
ngwraig, am wneud yn si?r mod in mynd ar fy hynt yn
drwsiadus a phob peth gen i. Diolch yn fawr iawn in
ysgrifennydd gofalus a chydwybodol, y Dr. Huw Owen, ac
iddo gyflawni ei ddyletswyddau heb ffael. Mae fy niolch
yn ogystal ir holl aelodau am fynychu yr eisteddiadau
ac am ddoethineb yn cyfrannu ir trafodaethau.
Gwerthfawrogwn waith diflino, a di-ddiolch weithiau,
ein Hysgrifennydd Cyffredinol a phob un aelod or staff
yn y swyddfa yng Nghaerdydd. Dyma anerchiad ymadawol
olaf Llywydd y Gymdeithasfa yn y De o fewn y drefn sydd
wedi bodoli ers blynyddoedd lawer; bydd fy olynydd, pan
ddawn yn amser, yn traddodi ei anerchiad ef ar
fframwaith newydd yn gweithredu.
Ple bm i te? Ond mewn dwy Henaduriaeth y bu ordeinio
blaenoriaid, ym Mhenuwch, De Aberteifi, pryd yr
ordeinwyd tri i flaenori o eglwys, Shiloh, Llanbed, ac
yn y Gopa, Pontaddulais, pryd ordeinwyd pedwar i
flaenori yn Soar, Pontardawe, Tabor, Maes-y-bar, a
Salem, Capel-y-cwm. Bun bleser bod rhan yn yr
ordeinio. Profiad gwahanol mewn dyddiau o drai
cyffredinol fu bod yn Salem, Treganna ar achlysur agor
estyniad ir festri sydd yn gorlenwi o blant ir ysgol
Sul a gweithgareddau eraill plant a ieuenctid. Methais
mynd ir Gymdeithasfa yn y Gogledd fis Mai y llynedd, yn
Rhuthun, nac ir Gymdeithasfa yn y Dwyrain, fis Medi, yn
Llandrindod. Eithr bun ddiddorol bod ym Mhwllheli yn yr
hydref a gweld drosof fy hun gymaint mwy llousog ywr
Gogledd nar De erbyn hyn. A phleser digymysg fu mynd i
Lyn Ebwy wythnos yn l a mwynhau cwmnaeth cyfeillion y
Dwyrain. Bun foddion gras hefyd bod yn bresennol yn
Sasiwn Genhadol y Chwiorydd yn Heol D?r, Caerfyrddin ym
mis Mai. Uchafbwynt blwyddyn fy Llywyddiaeth fu yn
Sasiwn, Rhydfendigaid, Gogledd Aberteifi, nl yn yr
hydref, ar Cyfarfod Ordeinio Mr. Carwyn Arthur, i waith
cenhadol yng Nghwm Rhondda, ac i fugeilio Bethlehem y
Presbyteriaid, a Nebo yr Annibynnwyr. Gweinyddwyd
arddodiad dwylo yn arwydd or ordeiniad.
Hunodd un on cyn-lywyddion, Y Parchedig D. J.
Williams, Bethani, Rhydaman, gynt, un o fechgyn dawnus
Penuwch, yng Ngheredigion, pregethwr efengylaidd, a
bugail gofalus ei braidd am ymron ddeugain mlynedd yn
Rhydaman, a bun driw iw enwad hyd ddiwedd ei oes.
Roedd nifer o weinidogion yr enwad gyda mi yn bresennol
yn ei arwyl ym Methani. Un achlysur pleserus y bm ynddo
ar wahoddiad oedd fis Mawrth eleni yn Seion, Ealing
Green, Llundain ar ddathliad yr Achos yno yn gant oed.
Ar hyn o amser y mae Ysgol Sul plant niferus yn Seion ac
felly y mae yn llecyn gwyrdd a bendithiol er cynnydd
ysbrydol yr ieuenctid yn y ddinas fawr. Parhaed felly.
Ar y Sul, 29 Medi 1991, ar achlysur cynnal yr 119ed.
Cymanfa yng Nghapel, Tynrhos, yn nhalaith Ohio, U.D.A.
mi gefais y fraint o gyflwyno plac yn nodi dathlu 150
mlynedd ers sefydlu y capel cyntaf, capel pren, (log
church) John Jones, y penteulu, gydai wraig a phump o
blant yn gadael fferm anghysbell, Tynrhos, ym mhlwy
Nantcwnlle, yn Sir Aberteif, (roedd yntau yn mynd gydar
llif o deuluoedd o ganol Sir Aberteifi y blynyddoedd
rheini ir Byd Newydd i fwy gweddill eu hoes). Wedi
prynu tir a chodi caban cyn y gaea yn y flwyddyn 1838
fe wnaeth John, fel eraill oi gyd-Gymry enwi ei eiddo
newydd yr union enw ar fferm yr ymadawodd hi yng
Nghymru sef, Tynrhos. Ymhen dwy flynedd cododd John ar
ei dir gaban arall, capel pren, er hwylusdod addoli ir
36 o deuluoedd Cymraeg o Sir Aberteifi a oeddynt wedi
sefydlu o gylch yn yr ardal wledig. Annibynnwr oedd John
Jones. Am i mi gael fy ngeni am magu, fel fy mrawd, yn
Tynrhos, gan mlynedd wedi ir teulu ymfudo oddi yno
dymar gwahoddiad yn dod i mi ddod drosodd ir Gymanfa a
bun brofiad nas anghofiaf.
Y Plac.
Un bach ydi e, cyfeira at y cant a hanner mlynedd ers
sefydlur Achos gan John Jones, ar 36 o deuluoedd a
ddeuai ynghyd ar y dechrau, ac y mae arno arysgrif sydd
ddyfyniad ysgruthurol, or Salmau, a dyma fy nhestun, a
sylwadau byr yn dilyn.
Salm 145;13, Dy frenhiniaeth di sydd frenhiniaeth
dragwyddol: ath lywodraeth a bery yn oes oesoedd.
BCN Teyrnas dragwyddol yw dy deymas, a saif dy
lywodraeth byth bythoedd.
Un or delweddau amlwg o Dduw yn yr ysgruthyrau ywr un
ohono yn Frenin. Ac y mae mawredd y Brenin ai deyrnas
wedi eu clodfori gan ddiwynyddion, llenorion a
phregethwyr, ac emynwr fel; O Arglwydd Dduw y Brenin
mawr, / dy fendith dyro inni nawr (16) C.Ff. John
Thomas.
Ynot, Arglwydd, gorfoleddwn,
yn dy gariad llawenhawn,
Cariad erys fyth heb ballu
ai ffynonnau fyth yn llawn;
Frenin nef a daear lawr,
molwn byth dy enw mawr.
(217) C.Ff. J.J.Williams.
Maer Brenin yn y blaen,
rym ninnau oll yn hy,
ni saif na d?r na thn
o flaen ein harfog lu;
ni awn, ni awn dan ganu ir lan,
cawn weld ein concwest yn y man.
Salm yn clodfori y Brenin, emyn G?yl y Flwyddyn Newydd
pan y gorseddid Duw fel brenin. Emyn ir gynulleidfa
ydyw i gynabod y daioni ac i ryfeddu run pryd at
ysblander gogoneddus ei fawredd dyna mae dyn yn
ddisgwyl, fodd bynnag, pan yn sefyll yng ngwydd y Brenin
a safle aruchel ei orsedd yn beth iw ryfeddu ato. Wrth
edrych ar Dduw ai fwriadau yn y creu ar cadw, yn
sylfaenol nid oes newid arno. Cyflawn yn nhragwyddoldeb
pell yn l cyn llunior byd cyn lledur nefoedd wen
ac yn ddi-gyfnewid ar ddiwedd amser, pryd bynnag y
bydd hwnnw. Ie, yn gyflawn or dechrau cyntaf dyna
rinwedd y frenhiaeth ddwyfol, yn ddigyfnewid ac eto yn
hyblyg, a dyna agwedd y mae i ni yn awr gymeryd o
ddifrif. A ydym yn ddigon hyblyg yn ein ymwneud
gwerthoedd y deyrnas i fedru cyfrannu at anghenion yr
oes bresennol hon? Maen wir ein bod fel enwad yn newid
ac addasu ein trefniadaeth i gyfarfod gofynion canrif
newydd, ac oes wahanol ei daliadau ai syniadau ir hyn
oedd cynt, ond a ydym yn ddigon hyblyg i or-oesi?
Daeth Iesu i gyflwyno teyrnas nefoedd ac i estyn
bendithion y deyrnas i gynifer nad oedd obaith ganddynt
dderbyn trugaredd ond roedd ei ymarferiad ef yn hyblyg,
ystwyth. Oni thorodd ar draws rhai o arferion ei oes er
mwyn iachu cleifion. Os oedd deddf a chymal cyfraith
yn rhwystr i weithredu trugaredd i berson tlawd,
amddifad, yna i gythrel ar rhwystr.
O! Fenaid gwel addasrwydd y person rhyfedd hwn / Dy
fywyd mentra arno ac arno rho dy bwn.
Felly, cwestiwn iw wynebu yr amser yma, a ydym yn
ddigon hyblyg, ystwyth, i ddwyn gwaith Crist y Brenin
Mawr ymlaen?
A ydi adolygu trefniadaeth a gweithredu trefn
ddiwygiedig in henwad yn ddigon i warantu parhad ein
tystiolaeth? Ddim ohono i hunan, er cydnabod bod amser
wedi dod i newid y drefn. Llawer yn gofyn i mi, fel i
chithau rwyn si?r, beth syn mynd i ddigwydd flwyddyn
nesa te, odir henaduriaethau mawr man mynd i weithio?
Faint bynnag ein amheuon, mae rhaid i ni bawb syn
aelodau o fewn yr enwad feddwl yn gadarnhaol ac i
weithredu yn gadarnhaol, oherwydd yn ein dwylo ni y mae
cyfrifoldeb dwyn y maen ir wal. Ni ywr adeiladwyr, na
feier neb arall.
Nad im adeiladun ysgafn
ar un sylfaen is y ne;
Nad im gymryd Craig i orffwys
tu yma i angau yn dy le;
Ti fy Nuw, tra fwyf byw,
gaiff fod fy ngorffwysfa wiw.
Dywedodd rhywun un tro, there is an unchanging gospel,
but that gospel has to be interpreted to meet the need
of every age
Rhaid dod yn wylaidd at yr orsedd, rhaid anrhydeddur
Brenin sydd ar yr orsedd, a rhaid cydnabod a derbyn
doniau yr orsedd sef, cariad a gras. A ywr Brenin yn
ein adnabod ni, ac ydym ni yn adnabod y Brenin?
Hen werinwr a oedd yn byw yn ei fwthyn tlawd nepell
or afon Teifi yng Ngheredigion flynyddoedd yn l. Roedd
ganddo g?yn yn erbyn llywodraeth y dydd am nad oedd, yn
ei farn ef, yn derbyn pensiwn teilwng ac yntau wedi bod
yn y Rhyfel Mawr. Roedd wedi mynd ai g?yn at hwn ar
llall a dim yn tycio, yna penderfynodd ysgrifennu
llythyr at y brenin, Sior V, ac fe ddechreuodd y llythyr
fel hyn:
Dear King. I know you, you dont know me, ddaeth o
ddim iw feddwl i gyfarch y brenin fel Ei Fawrhydi (His
Majesty) o na, ond yn unig, Dear King, ac yna aeth
ymlaen i roddi ei g?yn gore medre gerbron y brenin.!
Mae gennym bawb le i ddiolch am ir genhedlaeth on
blaen ni ddangos i ni fawredd y Brenin Mawr ac iddynt
ein tywys yn agos at ei orsedd ac i syllu a rhyfeddu at
ei frenhiniaeth. Sut bu hi wedyn? Ydir Brenin yn ein
hadnabod ni erbyn hyn? Rhag ir drefniadaeth ein llethu
yn llwyr, rhown amser fel cynulleidfa y synagog ar deml
gynt i ddarganfod golud anchwiliadwy Duw y Brenin Mawr.
Ein mantais ni yw bod gennym gyfryngwr, yr Arglwydd Iesu
Grist. Arhoswn yn ei gysgod beth bynnag ddaw. Maen
amser newid y drefn o fewn ein henwad, dewch i ni aros
gydan gilydd, ac i gyd-weithio gydan gilydd, a chyd
ddyheu gydan gilydd am mai ymwneud r Deyrnas
dragwyddol ydym. Yr Eglwys yn y byd yw corff gweledig
Crist yr Atgyfodiad. Rydym yma rhwng dau ddathliad mawr
y Ffydd Gristnogol, rhwng Pasg a Phentecost, ffrwydriad
yr Atgyfodiad a chorwynt y Pentecost, tystiolaeth
ddiysgog or Frenhiniaeth dragwyddol ym mherson yr
Arglwydd Iesu Grist. Ac ar ei deyrnas ni bydd diwedd, y
Deyrnas dragwyddol. Dewch i ni oll ymrwymo iddi ac wrthi
er anrhydedd ir Brenin sydd ar yr orsedd.
Ein gobaith, fel erioed yw gorsedd y cyfamod
tragwyddol
pan syrth gorseddau ddaear
ir llwch yn chwalfa sarn,
bydd gorsedd dy gyfamod
yn fywyd ac yn farn.
Stephen Morgan, Ebrill 2007.
Yn
l i dudalen Y Goleuad