Iesu Grist yn Arglwydd
gan y Parchedig Huw Powell Davies, Yr Wyddgrug
Cyn gwneud y daith i Lanbedr Pont Steffan eleni, rhaid
cyfaddef nad oedd fy nisgwyliadau yn rhai uchel iawn.
Dim ond gobeithior gorau na fyddwn yn sl ar l bwytar
bwyd y tro hwn ac y byddai pawb yn cydymddwyn yn gytn
i gilydd. Ond yn wir, cefais fy siomi ar yr ochr orau
gydar trefniadau ar ddarpariaeth ynon hwylus ar ein
cyfer.
Roedd yna fwyd ir meddwl ar enaid yn ogystal r
corff. Yn wir roedd amrywiaeth y cyfarfodydd ar
adroddiadau a gawsom yn eang tu hwnt. Wrth gofrestrun
hunain fe gawsom lwyth ychwanegol o bapurau, ar ben y
rhaglen swmpus a ddaeth trwyr post, i bori ynddyn nhw
cyn y gwahanol adroddiadau, a phad cyfan a beiro i
sgwennu. Roedd hyn yn cadarnhau i mi nad yno ar ein
gwyliau oeddem ni, ond i weithio, ac l llawer o lafur
gweithwyr eraill ar bopeth oedd i ddigwydd yno.
Croesawu gwahoddedigion a ddigwyddodd gyntaf ar y
pnawn Llun. Gorchwyl digon ffurfiol ac ailadroddus i
raddau, ond fe wnaeth y llywydd y gwaith gydag anwyldeb
a chawsom synwyr o ehangder yr eglwys yn y gwledydd hyn.
Ac wrth ddod i groesawu cynrychiolwyr a oedd wedi troi i
mewn atom o Ogledd Ddwyrain yr India roedd gwres y
croeso iw deimlo eto gan ir llywydd ai wraig Ina gael
y fath groeso yno yn ystod y flwyddyn. Soniwyd llawer am
y cysylltiadau hynny a da oedd clywed y llywydd yn
datgan bod y berthynas rhyngom cyn gryfed heddiw ag y bu
erioed. Clywsom gan Maksal Hynniewta, sydd yn brifathro
ar goleg diwinyddol John Roberts yn Shillong, am y
diwygiad sydd wedi torri allan yno ac fel y maent yn
parhau i weddo dros Eglwys Bresbyteraidd Cymru, ar i
ninnau gael ein adfywio gan yr Ysbryd Gln. Bur Parch.
Vanlalchunga, llywydd Synod Mizoram o Eglwys
Bresbyteraidd yr India yn mynegi eto ei ddiolch ef ar
gynrychiolaeth oedd wedi dod drosodd ynglyn r prosiect
HIV/Aids, am yr Efengyl a bregethwyd ar y bryniau gan y
cenhadon o Gymru, ac am y parhad yn y bartneriaeth
rhyngom ar cymorth gydar prosiect arbennig hwn.
(Gellid dweud llawer mwy, ond hyderir y cawn adroddiad
llawn or datblygiadau ar angen sydd ganddynt yn yr
India inni i gyd yn fuan.) Nid ydynt byth yn blino ar
ddiolch inni; ond maer diolch wrth gwrs in Harglwydd
Iesu Grist: Ef syn codi ac yn anfon gweithwyr iw
gynhaeaf mawr. Yr oedd themar Gymanfa yn cael ei
datgan yn hyglyw or cychwyn, a hithaun amlwg or
cyflwyniadau ar gwaith mawr o genhadu y clywyd sn
amdano, bod Iesu Grist yn Arglwydd ar ei eglwys yn
fyd-eang.
Wrth gychwyn ar fusnes y Gymanfa yn nes ymlaen yn y
prynhawn a chlywed am y Byrddau newydd ar
Henaduriaethau newydd oedd i ddod yn weithredol yn fuan,
hefyd am lawlyfr trefn a rheolau newydd erbyn 2009; yr
oedd cael cadarnhau y penodiadau a wnaethpwyd er y
Gymanfa ddiwethaf yn ein hatgoffa mai dibynnu ar ein
gweithwyr an pobl y maer Arglwydd, ac nid ar ein
trefniadau. Bu penodi i bedwar swydd genhadol o dan y
Rhaglen Genhadol a phenodi gweithwyr gan Fwrdd y
Genhadaeth yn Noddfa Caernarfon a Glyn Ebwy a Llansannan
a chan y Bwrdd Addysg yn Nhrefeca ar Bala, (cafodd
cyfarwyddwr newydd ein gwaith plant ac ieuenctid; Parch.
Gwyn Rhydderch a Sian Edwards, cyd reolydd newydd yng
Ngholeg y Bala, eu croesawu gan y Gymanfa yn ystod
adroddiad y Bwrdd Addysg). Maen dda in gweithwyr wybod
bod yr eglwys yn gyfan yn eu cefnogi yn eu gwaith.
Yr oedd Ysgrifennydd Bwrdd y Genhadaeth; Parch. D.
Andrew Jones wedi llunio ei sylwadau in herio i feddwl
am y gwaith sydd gennym o gyhoeddi mai Iesu ywr
Arglwydd; yn yr eglwys leol, yn y byd ac ir dyfodol.
Ef fydd yn arwain y Bwrdd Bywyd a Thystiolaeth newydd a
ddaw i fod yn fuan hefyd. Soniodd am bron i 30ain o
feysydd a lleoliadau y mae Bwrdd y Genhadaeth yn
buddsoddi gweithwyr ynddyn nhw. Un casgliad ganddo oedd
bod tystiolaeth weladwy, gredadwy a Christ debyg yn
hanfodol. Soniodd am yr angen i gyflwynor gwaith hwn,
nid yn unig ir Gymanfa, ond ir Arglwydd fel holl
fywyd y Corff. Rhywbeth y gallwn ni i gyd fod yn ei
wneud yn ein gweddo personol ac fel eglwysi.
Gydar Gwasanaeth Cymun a Choffd yn cloi ein
cyfarfodydd ar gyfer dydd Llun, fe gawsom ein herio gan
y Parch. Jenny Garrard yn ei hanerchiad, i fod yn cofio
mai un corff ydym yng Nghrist fel enwad ac y dylem fod
yn rhoi heibio pob ymrafael rhwng gwahanol Sasiynau ac
yn cydweithio er tystio in Harglwydd.
Ar hwyr a fu, ar bore a fu, y dydd cyntaf.
Yn y tridiau oedd yn weddill fe gawsom ein harwain mewn
defosiwn o 7:30 y bore ymlaen, yn gyntaf gan
gynrychiolwyr y Cynulliad Ieuenctid mewn cyfarfod gweddi
agored, ac yna ar l brecwast gan gaplan y Gymanfa
eleni, Parch. Eifion A. Roberts an harweiniodd yn
ddyheuig mewn gair a gweddi ac emyn i fod yn ystyried
goblygiadau ein thema i bob un ohonom, gan gyhoeddi Iesu
yn Arglwydd ac yn Dduw ar y dydd Mawrth, yn Arglwydd y
gogoniant ar y bore Mercher, ac erbyn y pedwerydd dydd
(Iau) yn Arglwydd Pawb. Dichon ei fod yntaun teimlon
gartrefol ddigon gydag organydd un oi eglwysi, Gethin
Hughes, Llanelli yn ein harwain ar yr organ.
Yn adroddiad y Bwrdd Addysg fe welodd y cadeirydd:
Parch. Edward Kielty, olion cadarn or modd yr oedd Duw
yn arddel ei weithwyr. Fe fydd ein holl weithwyr erbyn y
flwyddyn nesaf yn dod o dan oruchwyliaeth a gofal un
bwrdd, a hyderwn bryd hynny y bydd yr un arddeliad iw
weld ar y gwaith. Clywyd am y dymuniad yn Nhrefeca i fod
yn datblygur adnoddau aa chreu canolfan dreftadaeth a
fyddain rhoi cartref newydd i greiriaur cyfundeb.
Wrth sn am ddatblygiadau yn y gwasanaeth plant ac
ieuenctid fe apeliodd y cyfarwyddwr arnom i gofio mai
ein gwasanaeth ni ydyw a gwahoddodd ni i swnian arnyn
nhw yno ac i geisio pob cymorth a chefnogaeth ir lleol.
Diolchwyd i Jean Roberts am ei ymroddiad ai gwaith
diflino wedi iddi fod yn ysgrifenyddes ac yn fwrsar yng
Ngholeg y Bala am 16 o flynyddoedd, ac fe dalwyd
teyrnged ir holl weithwyr a fun gwasanethur Arglwydd
drwyr Bwrdd hwn wrth ir Bwrdd ddarfod bod yn ei hawl
ei hun. Neges y llywydd i bob un ohonom, oedd bod yn
rhaid inni ddysgu gwario mwy o arian ar ein plant, h.y.
ar waith plant ac ieuenctid ac ysgolion Sul ein heglwysi
yn lleol ac yn genedlaethol a chyllidebu ar bob lefel ar
gyfer hynny.
Fe darodd y Cynulliad Ieuenctid a ddilynodd yr
adroddiad gydau cyflwyniad eu hunain, nodyn tebyg ir
llywydd yn ei anerchiad ymadawol ef wrth iddyn nhw
ddilyn y thema a ddewisiodd a dramadeiddio ymateb y
Cristnogion cynnar ir alwad arnyn nhw i gyhoeddi Cesar
yn Arglwydd. Edrychwyd ymlaen ir dyfodol gan gofio
geiriau John Stott: There is no greater incentive to
world mission than the Lordship of Christ. Fe gafwyd
tystiolaeth o weithrediad yr Arglwydd ym mywydaur
unigolion heddiw hefyd gyda Rhian a Guto yn rhoi eu
tystiolaeth gan gofio nad oes neb yn gallu dweud Iesu
ywr Arglwydd ond trwyr Ysbryd Gln. Gwelwyd olion
o fendith yr Arglwydd heddiw yn y ffilm i-cam a
baratowyd or cwrs hyfforddi ieuenctid yn y Bala. Ein
gweddi yw y bydd yr ieuenctid hyn yn cael eu defnyddion
helaeth gan yr Arglwydd er cyrraedd eu cenhedlaeth eu
hunain gydar efengyl.
Cyrraedd y genhedlaeth hon oedd prif destun darlithydd
y Ddarlith Davies, Parch. Robert Bebb, Caerdydd: Pob
Dull Posibl Mynd ir Afael r Oes Dechnolegol.
Cawsom ein hatgoffa mor drylwyr y mae dulliaur byd wedi
newid heddiw ac fe ddadansoddwyd y newidiadau hynny gam
wrth gam gan ofyn y cwestiwn: faint o newid a fu yn
nulliaur eglwys? Edrychwn ymlaen at fod r ddarlith
yma ai chyfeiriadaeth ar gael inni ar y w.
Mynd ir afael phynciau a newidiadaur oes hon oedd
y nodyn a darwyd yn adroddiad y Bwrdd Eglwys a
Chymdeithas hefyd. Clywyd am newidiadau yn nhrefniadau
caplaniaethau mewn ysbytai ac fel yr oedd pethaun
wahanol ym myd addysg ar l datganoli. Ond fe roddwyd
cryn sylw i ddogfen drafod y bwrdd ar ddyfodol ynni
niwclear. Yr alwad gyntaf arnom fel pobl yr Arglwydd yw
i fod yn ddarbodus oi roddion inni, a hynnyn cynnwys
ein defnydd o ynni. Roedd dwy safbwynt wahanol wedi eu
mynegi yn y ddogfen drafod gan yr Athro Glyn O. Phillips
a chan y Parch. Emlyn Richards, gydag ystyriaethau dwys
i bob un ohonom fynd ir afael hwy. Y Bwrdd hwn a fun
gyfrifol am drefnu darlith ar ein cyfer ar y dydd olaf
gan Dr. Hefin Jones ar Gynhesu Byd Eang. Bydd y ddarlith
hon ar gael inni ar y w ac i fod yn ysgogaeth in
heglwysi i fynd ir afael eto r materion hyn sydd yn
bygwth dyfodol ein planed, lle bydd amaeth dan
fygythiad; lefel y mr yn codi; prinder dwr a
ffoaduriaid amgylcheddol ar gynnydd. Beth fydd ein
hymateb ir rhain fel eglwysi?
Aeth y llywydd ati y noson honno yn ei araith
ymadawol i fynd ir afael n gwaith o ddatgan
Arglwyddiaeth Crist dros bopeth yn yr oes hon yn wyneb
anffyddiaeth rhonc sydd yn dechrau canfod ei lais ac yn
cael rhyddid i fynegi ei ragfarnau fel y mynn. Parhawn i
gyhoeddi, nid ein hunain ..., ond Iesu Grist yn
Arglwydd, a ninnau yn weision i chwi er mwyn Iesu (2
Cor.4:5), oedd ei anogaeth. Gwerthfawrogwyd cyfraniad
Cr Glannau Ystwyth yn fawr ar llywydd yn cynnal
llinnell fas gadarn fel y gellid dweud iddo ei wneud yn
ei waith cadarn arweiniol o lawer o weithgaredd yr
enwad dros y flwyddyn. Trosglwyddwyd yr awennau ir
Parch John Owen a gweddwyd bendith ar ei lywyddiaeth
yntau. A bu hwyr a bu bore, yr ail ddydd.
Darlith a oedd yn edrych yn l ar oes aur y cylgronnau
Cymraeg a gawsom ar y dydd Mercher yn y ddarlith Hanes
gan Dr Huw Walters. Cawn bori ynddi eto yn y cylchgrawn
hanes gyda rhyfeddod at ddiwydrwydd y cyndadau ym maes y
cylchgrawn Cymraeg.
Adroddwyd am weithgaredd tri or byrddau yn ystod y
dydd: y Weinidogaeth ; Ariannol ac Eiddo; a Chyfathrebu.
Daeth Dr. Brynley Roberts nodyn cyfoes in
trafodaethau hanesyddol yn gynharach pan apeliodd eto
am gefnogaeth ir Traethodydd fel cylchgrawn pwysig yn
ei gyfraniad i fywyd Cymru heddiw: Pan beidiar
Traethodydd bod, fe fydd hi ar ben [arnom] os am
feddwl am y pynciau hyn yn y Gymraeg oedd ei sylw.
Cawsom glywed am drefniadaur Goleuad ar pedwar tudalen
a fydd yn chwilio am olygydd newydd yn fuan, o bosibl o
blith yr enwadau eraill, ac hefyd am y Cristion ar ei
newydd wedd mewn lliw llawn. Ymfalchiwn bod y wasg
enwadol yn dal ei thir yn ein plith. Fe fydd yr enwad yn
cael gwasanaeth Swyddog Cyhoeddusrwydd hefyd yn y man
gan fod y swydd newydd wedi ei hysbysebu eisoes.
Braf oedd clywed am hyfforddiant yn parhau wrth i
flaenor o Benrhyndeudraeth ddiolch am gael yr
hyfforddiant, y cyfle ar fraint o weinyddur
sacramentau oddi fewn iw henaduriaeth ef. Maer
cydweithio yn parhau rhwng yr enwadau ac yn datblygu yn
y maes hyfforddiant gyda holl sesiynau hyfforddiant y
Rhaglen Genhadol i fod ar gael ar ein cyfer yn fuan ar
ffurf CDd.
Wrth drafod sefyllfa ein harian an heiddo fe fuom yn
pasio i wario symiau mawr! Neu eu buddsoddi beth bynnag,
wrth inni symud pedwar miliwn o bunnoedd (o rywle) i
mewn ir gronfa bensiwn yn ddigon di lol. Bu trafod
hirach o lawer ar symud 70 o focsus yn llawn dogfennau
eiddor cyfundeb a oedd wedi eu cofrestru bellach efor
gofrestrfa dir yn Abertawe. Fe basiwyd ...yn y diwedd,
iw rhoi ir Llyfrgell Genedlaethol. Cawn weld a fydd
croeso iddynt yno gan eu bod eisiau lle creiriau eraill
y Cyfundeb. Ac ynglyn hynny, fe basiwyd i fod yn
datblygu adnoddau Trefeca ymhellach ac yn gwneud lle i
greiriau yno ar gost o 750,000 ar hyn o bryd. Rhoddwyd
wybod bod arian ar gael i drefnu hyfforddiant o fewn yr
henaduriaethau ac hefyd er mwyn helpu gyda gweinyddiad
yr henaduriaethau newydd; mater o gofynnwch, ac fe
gewch felly!
Mewn oedfa wedi swper fen hatgoffwyd ynghanol ein
digonedd am y rhai sydd yn gofyn heddiw gennym ni.
Arweiniwyd y gwasaneth dechreuol yn fywiog ac effeithiol
gan swyddogion Cymorth Cristnogol y Cyfundeb. Yna bu
pregethu grymus ar ddameg y Samariad trugarog gan Dr.
Daleep Mukharji, cyfarwyddwr Cymorth Cristnogol.
Diolchodd am ein cefnogaeth, ond fen cyffelybodd ir
ysgrifennydd hwnnw a ofynnair cwestiwn: Pwy yw fy
nghymydog? i Iesu. Maer byd i gyd yn gymdogion inni
bellach a ninnaun cael ein galw i fynd a gwneud yr un
modd r Samariad caredig. Yr ydym yn dystion i Efengyl
sydd yn gallu caru cymdogion a gwneud daioni i eraill.
Fe fydd tystio iddi ai gweithredu yn ein newid ninnau
hefyd meddai. Maer bregeth hon yn haeddu cael ei
chlywed eto ai gweld mewn print ynghanol ein blwyddyn o
ymgyrchun arbennig gyda Chymorth Cristnogol dros bobl
Sierra Leone.
Wedi dechraur dydd mewn gweddi fe ddaeth y dydd i ben
hefyd gyda gweddo a chanu yng nghapel y coleg yn
Llanbedr PS. Maer cyfarfodydd gweddi hyn yn y Gymanfa
yn gyfle inni glywed a chyflwyno gerbron Duw beth yw
deisyfiadau ein calon. Clywyd eiriol taer ar ran ein
pobl an heglwysi gyda mwy o syched, o bosibl, nag a
welwyd or blaen, am weld yr Arglwydd yn ymweld ni ac
yn adfer ein gwlad. Gofynnwyd ar i ysbryd o weddi barhau
yn ein plith ac i ymestyn ymhlith ein pobl wedi inni
fynd adref.
Soniwyd eisoes am y cyflwyniad a gawsom ar newid
hinsawdd ar y dydd Iau ar canlyniadau y bydd rhaid inni
eu wynebu yn sgil hynny. Yr ydym yn byw gyda
chanlyniadau ein ymyrraeth yn Irac, ac fe ddaethpwyd
datganiad ger ein bron ddydd Iau gan y Bwrdd Eglwys a
Chymdeithas a oedd yn rhoi mynegiant i rwystredigaeth
amryw gydar hyn syn digwydd yno.
Roedd synnwyr o symud ymlaen i gyfnod newydd yn ein
plith wrth inni ymadael. Diolchwyd eisoes ir holl rai a
fun gwasanaethur Bwrdd Addysg ac fe gododd ein
cynrychiolydd hynaf: Parch. Morgan Mainwaring ar ei
draed wrth i adroddiad Bwrdd y Genhadaeth gael ei chloi,
er mwyn rhoi ei ddiolch yntau a fu ei hun yn
ysgrifennydd y bwrdd hwn, wrth ddechrau cyfnod newydd yn
nhrefniadaur Cyfundeb.
Ar nodyn personol, fe soniais mai argraffiadau y
byddwn yn eu cyfleu yma (er fy mod yn sylwi imi adrodd
llawer gormod er eich lles), ond yr argraffiad olaf a
fydd yn aros gyda mi or Gymanfa eleni fydd y daith
adref, lle cafodd Parch Eirlys Gruffydd a minnau gwmni
Maksal Hynniewta o Shillong ar y ffordd ir Bala.
Ceisiodd wneud synnwyr gyda diolchgarwch or hyn oll yr
oedd o wedi bod yn dyst iddo yn y Gymanfa. Gwaredai nad
yw ein henwad bellach ond maint henaduriaeth gyffredin
ganddynt hwy yn yr India o ran aelodaeth, ar
henaduriaethau hynnyn cael eu sefydlu mewn meysydd
newydd yn gyson wrth ir eglwys dyfu. Yr oeddem yn
chwilio am fan geni John Roberts, sylfaenydd ei goleg yn
Shillong, ac wedi holi a stilio llawer ar y gefnffordd
rhwng y ddau Gorris, fe gawsom hyd i Gwyngyll a deall
mai yno roedd y fan. Rhyfeddodd Mak at y
darganfyddiad a mynnu tynnui lun ger y ty. Yr oedd
yntau fel ninnau yn rhyfeddu at yr hanes sydd gennym,
ond nid oedd am aros yn y fan honno, yr oedd gwaith mawr
yn galw a choleg newydd iw godi ac yr oedd gweledigaeth
amlwg ganddo ynglyn hynny. Dyheais ar ir Arglwydd roi
yr un weledigaeth i ninnau, a fendithiwyd yn helaeth
gyda hanes gogoneddus, er mwyn cyhoeddi Crist yn
Arglwydd heddiw yng Nghymru.
 |
|
Parch. Gwyn Rhydderch, Cyfarwyddwr newydd gwaith plant ac
ieuenctid a Mrs. Sian Edwards, Rheolwraig Coleg y Bala gydar
Parch. E. Kielty, Cadeirydd Bwrdd Addysg Gristnogol. |
Yn
l i dudalen Y Goleuad