Y GYMDEITHASFA YN Y DE
Henaduriaeth Gogledd Myrddin, Tabernacl, Llanymddyfri
Mercher, 3 Hydref 2007
Maer croeso sydd yn eich aros yn y Tabernacl
Llanymddyfri ar gyfer Cymdeithasfar De heb ei ail. Yn
ei gyfrol Crwydro Sir Gr dyma fel y disgrifiodd Aneurin
Talfan Davies y dre:
Tre fach gysglyd, ond ar ddiwrnod marchnad, yw
Llanymddyfri,a saif ar lain gwastad o dir rhwng afonydd
Gwydderig a Brn ar y naill law a Thywi ar y llall,
gydar ddwy Eglwys, Llandingad a Llanfair-ar-y-bryn ar
ei ffiniau deheuol a gogleddol. Y mae pedair prif ffordd
yn canolbwyntio ar y dref, dwy or de, o gyfeiriad
Llandeilo a dwy or gogledd,y naill yn arwain o
Aberhonddu ar llall o Lanfair-ym-Muallt. Ymgasglodd y
dref o gwmpas sgwr bychan, hen-ffasiwn, wedii balmantu
a cherrig llyfnion or afon gerllaw. Y mae darn o
gastell Llanymddyfri yn sefyll o hyd, ac fei gwelwch ar
dwmpath ar gae y tu cefn i Westyr Castell. Y maen ein
hatgoffa am frwydraur gorffennol, ac fel Carreg Cennen
gerllaw y maen gastell Cymreig.
Tre Y Ficer Prichard a Williams Pantycelyn yw
Llanymddyfri ac er bod cartref y cyntaf wedi ei
ddymchwel ers blynyddoedd mae ffermdy Pantycelyn nepell
i ffwrdd i ochr ogleddol y dref. Yn Eglwys
Llanfair-ar-y-bryn cynhelir y Cyfarfod Blaenoriaid, ac
yno hefyd mae bedd Pantycelyn.
Wrth fynd i lawr yr heol fawr gwelwch gapel ac arnor
chwedl: Williams Pantycelyn Memorial Chapel, ac y maen
rhyfedd meddwl mai capel Saesneg y Methodistiaid
Calfinaidd yw capel coffar Per Ganiedydd.
Mae maes parcio mawr wrth Westyr Castell a taith fer
yw Capel Y Tabernacl i ffwrdd. Yng Ngwestyr Castell
darperir lluniaeth ymarferol y dydd tra bydd y lluniaeth
Ysbrydol yn cael ei ddosrannu yn y Tabernacl. Mae
aelodaur capel a chysylltiadau amlwg Gogledd Myrddin yn
edrych ymlaen ich croesawi i gyd ir Gymdeithasfa gan
ymmddiried y cyfan, yn llwyr, i ddwylor Arglwydd.
Mel Morgans.
Yn l i
dudalen Y Goleuad