www.ebcpcw.org.uk

 
 
 
 
  
 
 

 Hafan

 Y Swyddfa

 Y Cyfundeb

 Newyddion

 Canolfannau

 Dogfennau

 Cyhoeddiadau

 Ariannol

 Eiddo

 Dolenni

 

 

 

 

 

Ble ydw i?  Cyhoeddiadau

Y Goleuad Y Traethodydd Y Cylchgrawn Hanes The Treasury

 
Papur Wythnosol Eglwys Bresbyteraidd Cymru


Cwrs Hyfforddi Ieuenctid (Souled Out)


Yng Ngholeg y Bala  Awst 17-24, 2007

 

Deled dy deyrnas oedd y thema ar gyfer Souled Out eleni, a daeth dros hanner cant o bobl ifanc o bob cefndir i Goleg y Bala i gyd-addoli, astudior Gair gydai gilydd, gweddo dros ei gilydd, i wrando tystiolaeth ac i brofi cymdeithas.

  Ar y Sadwrn cyntaf, cafwyd help Jonathan Thomas i edrych yn fanwl ar Deled dy deyrnas. Edrychodd i gychwyn ar sut maen rhaid i deyrnas Dduw ddod ymhob un ohonom, gan ddefnyddio bywyd Enoch fel canllaw, a rhannu wedyn weledigaeth radical ar sut y dawr deyrnas yng Nghymru drwy edrych ar yr Eglwys Fore.

  Fore Sul, cafwyd pregeth ar alwad Duw gan Gwyn Rhydderch, Cyfarwyddwr y Gwasanaeth Plant ac Ieuenctid, lle soniodd am dri math o weinidogaeth sylfaenol (teulu, ffrindiau), gwirfoddol (rhan fyw ym mywyd eglwys a chymdeithas), a gwaith Cristnogol cyflogedig. Yna, cawsom gyfle i brofi croeso ardderchog yn Llansannan amser i wylio ffilm, chwarae gemau, mynd am dro a chael bwyd cyn ymuno r bobl leol yng ngwasanaeth Digwyddiad, syn oedfa fisol ar gyfer ieuenctid hyn ac oedolion ifanc. Owain Edwards o Goleg y Bala oedd yn siarad, ac arweiniodd ni i edrych ar y Groes or newydd.

  Prif siaradwr yr wythnos oedd Andy Ollerton, sydd wedi bod yn gysylltiedig Souled Out or cychwyn. Ei destun eleni oedd Gras, ac roedd yn brofiad gwefreiddiol a herfeiddiol cael ei glywed yn agor y Gair ac yn rhannu ohono. Dechreuodd trwy edrych ar sut y gall Duw fod yn Dduw cyfiawnder a chariad ar yr un pryd. Aeth ymlaen yng nghwrs yr wythnos in herio ar sut mae gras ar waith yn ein bywydau o hyd, sut maen ein cynorthwyo i efengylu ac ati. Mae Andy wedii fendithio r ddawn i gymhwysor Ysgrythur yn glir, yn berthnasol a chydag argyhoeddiad.

  Yn ystod y nosweithiau, bu rhai on plith ein hunain yn trafod gwahanol destunau bod yn Souled Out dros Grist, a chenhadaeth mewn gwahanol ffurfiau er enghaifft. Cafwyd seminarau ar fyw bywyd i blesio Duw yn ein cenhedlaeth wyrgam ni.

  Roedd y gymdeithas yn felys iawn trwy gydol yr wythnos, ac roedd yn fraint cael gweddo dros ein gilydd a threulio amser yng nghwmni eraill sydd r un argyhoeddiadau a thrafferthion. Roedd digon o amser am hwyl a sgwrs, ac astudiaethau Beiblaidd a sesiynau mawl anffurfiol yn rhan naturiol or amser.

  I rai, bun wythnos lle bu Duw ar waith yn chwyldroi eu bywydau. I eraill, roedd yn gyfnod iw hysbrydoli wrth fynd yn l at fywyd pob dydd. I bawb, roedd yn amlwg fod gras yn rymus yn ein mysg.

  Gofynnodd un gweinidog yn y Gymanfa Gyffredinol Oes unrhywbeth mor brydferth gwaith gras? Cawsom oll ein hatgoffa or ateb yn ystod yr wythnos.

 

Guto Dafydd

 

Yn l i dudalen Y Goleuad

 

English

 
Y GOLEUAD

Golygydd

Mr. John Gruffydd Jones
Swyddfa'r Goleuad
Gwasg Pantycelyn
Ln Ddewi
Caernarfon
LL55 1ER

Ffn

01286 672018

E-bost

cliciwch yma
 
 

Diweddarwyd y dudalen hon ar 23/10/2007