gan y Parch. Nicholas Bee
Cynhaliwyd gwasanaeth arbennig i ddathlu Canmlwyddiant
Capel Moriah, Trefenter ar Awst 4ydd eleni. Hon ywr
eglwys Fethodistaidd Calfinaidd olaf a sefydlwyd yng
nghylch Aberystwyth (1887) ar capel olaf iw adeiladu
(1907).
Yr oedd yn ymdrech fawr i ardal fechan wledig a
gwasgarog i gasglu yn agos i 600 i godi capel newydd.
Cyfrannodd yr aelodau 237 a derbyn 147 drwy gasgliadau
pell ac agos, gan adael ryw 150 o ddyled. Ond erbyn ir
capel gael ei agor, roedd y ddyled wedi ei thalu.
Cyfeiriodd y Parch. Nicholas Bee, gweinidog presennol
y capel, at y gwahanol flaenoriaid a gweinidogion oedd
wedi rhoi ou gwasanaeth or dyddiau cynnar. Yn eu plith
y Parch. John Edwards a ddaeth i fugeilior ardal yn
1910, y Parch. D A Williams a gyrhaeddodd ar l yr Ail
Ryfel Byd, y Parch. Glyn Griffith a wasanaethodd yn y
chwedegau, ar Parch. Dilwyn O Jones, nad oedd yn gallu
bod yn bresennol, ond a ysgrifennodd lythyr yn sn am ei
brofiadau yn weinidog yma am ddeg mlynedd. Cafwyd
llythyr hefyd gan y Parch. Ddr Huw Sion Anwyl or Unol
Daleithiau a daeth y Parch. Ann Jenkins, a fun weinidog
yma yng nghanol y nawdegau in hannerch.
Cyfeiriwyd at rai or digwyddiadau bythgofiadwy yn
ystod y can mlynedd y cyngherddau a gynhaliwyd i
anrhydeddur milwyr a ddychwelodd or rhyfel, ar
dathliadau ar achlysur yr hanner canmlwyddiant, pryd
y cafodd y capel ei addurno. Cafwyd anerchiad pwrpasol
pryd hynny gan Mrs Catherine Jones, Pantlleinau, merch
Mr Rowland Ellis a agorodd y capel ar y dechrau.
Cyfeiriwyd at y gwahanol organyddion ac athrawon yr
Ysgol Sul, yn eu plith gwraig y Parch. D. A. Williams a
oedd heb ei hail yn dysgur plant ac yn eu hyfforddi ar
gyfer yr arholiadau.
Daeth llu ynghyd ir gwasanaeth a agorwyd gan Mr Alan
Evans. Fen harweiniwyd mewn defosiwn gan y Parch.
Nicholas Bee a aeth ymlaen i draddodi hanes yr achos.
Clywyd am atgofion Mrs Catherine Jones or noson y
torrodd y Diwygiad allan gan Mr Huw Jones, ei hwyr.
Cafwyd deuawd gan ddwy chwaer Hana a Nia Purslow.
Darllenwyd y llythyron gan Miss Dilys Davies a Mr John
Evans. Cyflwynwyd yr emynau gan Mrs Tegwen Evans, Rhodri
Jones, Miss Ann Evans, Mr Brinley Davies a Mr Bryn
Benjamin. Darllenwyd penillion a gyfansoddwyd gan Mrs
Alys Davies, Greenmeadow ar achlysur priodas ei merch
y briodas gyntaf gan Awen Llyr, ei gor-or-wyres.
Cyflwynwyd y Llywydd, Mrs Minnie Jones, Lluest gynt gan
Mrs Mair Hughes a derbyniodd Mrs Jones flodau fel arwydd
o werthfawrogiad o law Mrs Dilys Evans. Darllenodd Mrs
Megan Richards, Aberaeron benillion a gyfansoddwyd
ganddi yn unswydd ar gyfer y Canmlwyddiant. Hywel Evans
rannodd y taflenni a gwasanaethwyd wrth yr organ gan
Miss Dilys Davies ar Gweinidog ac ef hefyd roddodd y
diolchiadau a chyhoeddir fendith.
Mwynhawyd Te Croeso yn festrir capel a oedd wedi ei
baratoi gan ferched yr achos, pryd y torrwyd Cacen y
Dathlu gan Mrs Cato Howells.
Cynhaliwyd barbiciw gydar nos, pryd y daeth nifer
teilwng ynghyd i lawnt y capel. Diwrnod llwyddiannus
ydoedd wedi ei fendithio gyda thywydd teg.
Yn l i
dudalen Y Goleuad