www.ebcpcw.org.uk

 
 
 
 
  
 
 

 Hafan

 Y Swyddfa

 Y Cyfundeb

 Newyddion

 Canolfannau

 Dogfennau

 Cyhoeddiadau

 Ariannol

 Eiddo

 Dolenni

 

 

 

 

 

Ble ydw i?  Cyhoeddiadau

Y Goleuad Y Traethodydd Y Cylchgrawn Hanes The Treasury

 
Papur Wythnosol Eglwys Bresbyteraidd Cymru


Croeso i Fro Ddyfi
 

Capel Maengwyn yn Henaduriaeth Trefaldwyn Uchaf fydd cartref Sasiwn yr Hydref yn y Gogledd eleni. Edrychwn ymlaen am eich croesawu i Fro Ddyfi a mwynder Maldwyn ar ei orau ar ddydd Gwener, Hydref 19eg.

  Maer Achos ym Maengwyn wedi cychwyn er 1753. Bu iddo ddechreuad digon terfysglyd, a dweud y lleiaf. Gallwn eich sicrhau y bydd eich croeso yma yn llawer cynhesach nar un a gafodd y Methodistiaid cynnar yn y dref yma. Cafodd Howell Harris dderbyniad chwerw iawn yma, ynghyd rhai pregethwyr eraill a fentrodd yma yn y cyfnod hwnnw. Daeth Ioan Thomas o Raeadr Gwy yma, a chafodd erledigaeth dost, a mynegodd yn ddiweddarach Fod coelcerth uffern yn disgwyl pobl Machynlleth. Nid oes cofnod i Harris ddod i bregethu yn nes na Llanbrynmair ar l hynny, a phan fyddai pregethwyr ar eu teithiau or De ir Gogledd, nid aent yn agos i Cemmaes na Machynlleth, ond cyfeirio am Ddinas Mawddwy, nad oedd fawr gwell, a thros Fwlch yr Oerddrws i Ddolgellau.

  Bellach, mae pethau wedi newid, ar l byw am dros ddwy ganrif yn swn yr Efengyl. Mae cynnal Sasiwn yn hen draddodiad ym Machynlleth. Cynhaliwyd y Sasiwn gyntaf yma ym 1790. Cynhelid Sasiynau Bro Ddyfi bob Mis Awst yn y cyfnod 1810-1841, ac fel rheol ym Machynlleth yma.

  Cewch gyfle hefyd i ymweld thref sydd yn gyfoethog mewn hanes. O ddyddiaur Rhufeiniaid, y gwelir eu holion hyd heddiw mewn llwybrau a phontydd o gwmpas yr ardal. Ymlaen i gyfnod Owain Glyndwr oedd ai senedd yn Heol Maengwyn yma. Maer adeilad yno o hyd ac mewn cyflwr ardderchog. Yn yr adeilad yma y coronwyd Glyndwr yn Dywysog Cymru ym mhresenoldeb cynyrchiolwyr o Ffrainc, Spaen ar Alban, ac o dan fendith y Pab Avignon.

  Mae Machynlleth yn ganolfan ardal eang yn y Fro. Yn y datblygiad cymdeithasol, lle gwelwyd cau llawer o gapeli, ysgolion a siopau gwledig, cyrchir tuar dref, fel yr amlygir yn ffeiriau Dydd Mercher. Mae cynyrchiolaeth dda or wlad o gwmpas yn dod i addoli ar y Sul i Faengwyn neu ir Graig yr Anibynwyr. Maer ddwy eglwys yn cyd-addoli bellach.

  Hyderwn y bydd y tywydd yn ffafriol i chwi. Cewch gyfle i fwynhau y dyffryn ar ei orau. I ni, lawer ohonom, sydd wedi ein magu yn y Fro, hoffem i chwithau hefyd deimlo yr awyrgylch hyfryd sydd yn rhan ohoni. Profiad Iorwerth Cyfeiliog Peate yw profiad llawer ohonom,

 

Ac er mynych, fynych grwydro

Gelwi finnau, Ddyfin, l.

 

Neu fel y canodd rhyw fardd gwlad

 

Caraf eu mwyn aceri a melys

    Yw rhoi moliant iddi,

  Tra murmur difyr Dyfi

  Yn naws yn fy nghalon i.

 

Ar ran Henaduriaeth Trefaldwyn Uchaf a Maengwyn estynnwn groeso brwd i chwi ymweld ni, ac uwchlaw pob dim deisyfwn fendith yr Hollalluog ar ein holl weithrediadau.

M.J.M.

 

Yn l i dudalen Y Goleuad

 

English

 
Y GOLEUAD

Golygydd

Mr. John Gruffydd Jones
Swyddfa'r Goleuad
Gwasg Pantycelyn
Ln Ddewi
Caernarfon
LL55 1ER

Ffn

01286 672018

E-bost

cliciwch yma
 
 

Diweddarwyd y dudalen hon ar 23/10/2007