www.ebcpcw.org.uk

 
 
 
 
  
 
 

 Hafan

 Y Swyddfa

 Y Cyfundeb

 Newyddion

 Canolfannau

 Dogfennau

 Cyhoeddiadau

 Ariannol

 Eiddo

 Dolenni

 

 

 

 

 

Ble ydw i?  Cyhoeddiadau

Y Goleuad Y Traethodydd Y Cylchgrawn Hanes The Treasury

 
Papur Wythnosol Eglwys Bresbyteraidd Cymru


Cyflwyno Mari Fflur Williams

 

[Ein Swyddog Cyfathrebu]

 

Pan anwyd hi dwin cofio gwirioni ar yr enw roddwyd iddi Mari Fflur a hyd heddiw, er mai Mari ydy hi ir rhan fwyaf o bobl, Mari Fflur ydy hi i mi! Dwin cofio Dewi, fy niweddar wr, yn ei bedyddio ac mae gen i fyrdd o atgofion amdani hi ai brawd, Iwan Rhys yn blant. Un atgof hyfryd ywr un am y teulu bach yn cyrraedd ein cartref ni un nos Sadwrn ar eu ffordd adref o briodas perthynas am fod Mari Fflur deirmlwydd oed, oedd wedi bod yn forwyn fach ym mhriodas ei modryb, eisiau dod i ddangos ei ffrog las grand inni ac yn bwysicach fyth, y cylch o flodau roedd hin ei gario!

  Un o blant Salem, Dolgellau ydy Mari Fflur felly, wedi tyfu a datblygu yn yr eglwys ai theulu or ddwy ochr wedi bod yn deyrngar a chefnogol i Achos Iesu Grist erioed. Mae ei thaid yn ddiacon gydag enwad yr Annibynnwyr yn Llanymawddwy. Roedd ei thaid arall yn flaenor ffyddlon ac yn arweinydd y Gn yn Salem ac mae ei thad, Dwyryd, hefyd yn flaenor gweithgar, yn is-ysgrifennydd yr Eglwys ac yn gyfrifol am wefan yr Eglwys, un or gwefannau cyntaf i ymddangos ymhlith eglwysin henwad ni.

  Nid rhai i gymryd addewidion yn ysgafn mo Dwyryd a Bethan Williams ac fe fuont yn driw i addewid y Bedydd i ddwyn Mari Fflur ac Iwan Rhys i fyny yn nysgeidiaeth yr Efengyl ac yng nghymdeithas yr Eglwys. Deuent fel teulun ffyddlon i addoli a bur plant yn hynod deyrngar ir Ysgol Sul ar Cwrdd Plant gydol y blynyddoedd, a Bethan, eu mham, hithau yn athrawes Ysgol Sul ac Arolygwr am flynyddoedd. Ac wedi tyfun bobl ifanc ni thorrwyd y cysylltiad, fel syn digwydd mor aml, ac maer ddau bob amser yn barod iawn i gymryd rhan yn y gwasanaethau. Ac maer ymdeimlad cynnes o berthyn i deulur eglwys yn bwysig iawn i Mari, mi wn.

  Byddai Mari Fflur wrth ei bodd yn cymryd rhan yng ngwasanaethaur plant ac yn y dramau Nadolig er yn ifanc iawn a gwnai hynny yn raenus bob amser. Meddai ar gf arbennig iawn oherwydd ar l yr ymarfer cyntaf prin y gwelech script ganddi! Fel y tyfai, hi fyddain cyfeilio ir plant yn eu gwasanaethau, ac er mai ifanc iawn oedd hi bryd hynny roedd yn feddiannol ar sensitifrwydd arbennig ac roedd ganddi rhyw empathi gydar datgeiniaid or cychwyn cyntaf. Aeth ymlaen i gyfeilio i Gr Aelwyd Llanuwchllyn a Chr Meibion Dolgellau. Bu ar daith ym Mhatagonia gyda Chr Aelwyd Llanuwchllyn lle cafodd gyfle i gyfarfod am y tro cyntaf nifer o aelodau oi theulu syn byw yn y Wladfa. Maen glarinetydd medrus hefyd ac yn aml mewn oedfaon arbennig caem ddatganiad ar y clarinet ganddi. Yn wir, pob bore Nadolig arferwn ofyn iddi chwarae fy hoff garol, ac er bod ei repertoire yn llawer ehangach, ac er ei bod, fe ddichon, wedi hen ddiflasu ar y darn arbennig hwnnw cydsynio gyda gwn wnai Mari. Ond pan aeth ir Coleg gadawodd y clarinet adre a bun hel llwch ym mhen drawr cwpwrdd am nifer o flynyddoedd. Fodd bynnag, roedd yn dweud wrthyf yn ddiweddar ei bod wedi ail afael ynddo, felly bydd gobaith ir gweinidog gael clywed datganiad or Cantique de Nol unwaith eto eleni yn Oedfa Borer Nadolig yn Salem!

  Cafodd Mari Fflur yrfa ddisglaer yn Ysgol y Gader, Dolgellau a Choleg Meirion/ Dwyfor gan ennill 11 gradd A* yn ei haroliadau TGAU a phedair A yn ei Lefel A. Fei derbyniwyd i Goleg yr Iesu, Rhydychen lle graddiodd gydag anrhydedd mewn Athroniaeth, Gwleidyddiaeth ac Economeg (PPE) cyn iddi symud i Brifysgol Caerdydd lle mae newydd gwblhau MSc ar Ddulliau Ymchwil yn y Gwyddorau Cymdeithasol. Yn amlwg ddigon, maen ferch ddisglaer a galluog dros ben. Ond, yn bwysicach na hynny, hwyrach, mae Mari Fflur hefyd yn ferch gwbl ddirodres a chyfeillgar, yn dawel hyderus ac yn ystyriol iawn o deimladau ac anghenion pobl eraill ai thraed yn solet ar y ddaear. Maen ferch gymdeithasol a chanddi ddiddordebau eang. Tra yn Rhydychen bun aelod gweithgar ac yn drysorydd Cymdeithas Dafydd ap Gwilym ac yn y pegwn arall yn gapten Tim Rygbi Merched Coleg yr Iesu! Maen un or bobl disgybledig yma syn hoffi rhedeg a chadwn heini. O! na bai ei gweinidog yn gallu dilyn ei hesiampl! Ac maen ymddiddorin fawr yn y Sn Roc Gymreig ar rhithfro Gymraeg.

  Roedd yn dweud wrthyf ei bod yn edrych ymlaen yn arw i sialens ei swydd newydd fel Swyddog Cyhoeddusrwydd cyntaf y Presbyteriaid. Rwyn hollol hyderus y bydd yn ymroi ir gwaith gyda brwdfrydedd, ffresni, egni a dychymyg ac rydan ni fel teulu Duw yn Salem yn falch iawn ohoni ac yn dymuno bendith Duw arni ai arweiniad iddi yn ei swydd newydd heriol. Cofiwch amdani yn eich gweddau a rhowch groeso iddi ich plith.

 

Y Barchedig Megan Williams, Dolgellau.

 

Yn l i dudalen Y Goleuad

 

English

 
Y GOLEUAD

Golygydd

Mr. John Gruffydd Jones
Swyddfa'r Goleuad
Gwasg Pantycelyn
Ln Ddewi
Caernarfon
LL55 1ER

Ffn

01286 672018

E-bost

cliciwch yma
 
 

Diweddarwyd y dudalen hon ar 23/10/2007