yng Ngregynnog
Cynhaliwyd yr Ysgol Haf eleni yn awyrgylch arbennig
Gregynog, er fod y tywydd yn siomedig cafodd y 70 ohonom
oedd yno amser hapus a bendithiol. Roedd rhai wynebau
newydd yno, a sawl un o ffyddloniaid yr Ysgol Haf wedi
methu bod yn bresennol gan fod y Gymanfa Gyffredinol yn
cael ei chynnal yr un wythnos.
Croesawyd pawb yno gan y Barchedig Ddr Nerys Tudor ac
yna cawsom ddarlith gan Esgob Stafford, y Gwir Barchedig
Gordon Mursell. Wrth iddo siafio y bore hwnnw tra yn
gwrando ar y newyddion ar y radio, clywodd rhywun yn sn
am anghyfiawnder yn y byd. Fod yna ddigon o arian ar
gael i wario ar arfau i fomio a lladd miliynau o bobl ar
draws gwledydd y byd, a dim ar gael i adeiladu
ffynhonnau ir bobl sydd heb ddwr gln iw yfed.
Cychwynnodd drwy sn am ffynhonnau sydd yn y Beibl.
Dywedodd fod delwedd or ffynnon wedi chwarae rhan
bwysig ym mywyd crefyddol Cristnogion dros yr oesoedd.
Gwnaeth i ni feddwl amdanon ni ein hunain fel
ffynhonnau, a ydym yn llawn o ddwr bywiol neu ydym yn
sefyll yn ein hunfan yn stagnatio?
Gydar hwyr fe gawsom gyflwyniad gan Marian Lloyd
Jones y Rhos am hanes y Weinidogaeth Iachu oi sefydlu
54 o flynyddoedd yr l hyd at heddiw. Ceir yr yr
Efegylau lawer o hanes Gweinidogaeth Crist syn cynnwys
llawer iawn am iachau a dyna oedd ei orchymyn iw
ddilynwyr oedd i wneud yr un peth. Ond sut medrwn ni fel
eglwysi wneud ein rhan i helpu eraill? Tri peth dylid
pwysleisio arnynt. 1. gweddo ar gwahaniaeth y mae
gweddi yn ei wneud; 2. gwrando mae iachd i gael trwy
roi ychydig on hamser i wrando cwyn y sawl syn
pryderu, yn galaru, yr unig neun wael, ac yn drydydd,
cariad Carwch eich gilydd oedd gorchymyn Crist i ni.
Bore Mawrth rhanwyd ni yn grwpiau, tri grwp Cymraeg a
thri Saesneg ir sesiwn gyntaf o Astudior Gair. Ein
myfyrdod tro hyn oedd yr Eseia 53, Y Gwas Dioddefus.
Adnodau sydd yn dangos Crist yr ufuddhau iw Dad ir
diwedd, y cwestiwn a godwyd oedd pa mor ufudd ydym ni
fel gweision i Grist?
Pnawn Mawrth cafwyd amser rhydd rhwng 1.00 a 4.00, lle
braf i ymlacio yw Gregynog ond gan fod y tywydd yn wlyb
ni chawsom fawr o amser i grwydro o gwmpas y gerddi, er
hynny mae digon iw weld o fewn yr adeilad, lluniau gan
arlunwyr enwog fel Durer, Rembrandt a Whistler, mae yno
hefyd ddigon o gadeiriau esmwyth i eistedd i sgwrsio i
rannu gofidiau a bwrwr baich.
Cyn swper cafwyd cylchoedd gweddi, Trebor Jones
Llansannan oedd yn arwain ein grwp ni. Cafwyd trafodaeth
ar ffynhonnau i ddechrau, ar ffyrdd y mae y dwr bywiol
yn dylanwadu ar ein bywydau ni. Yna cafwyd amser i
weddo dros gyfeillion sydd yrn gysylltiedig r
Weinidogaeth Iachu, y rhai syn wael o fewn ein
teuluoedd an hardaloedd.
Yna yr ail astudiaeth, ein myfyrdod tro hyn oedd
Merch Jairus ar Wraig a Gwaedlif arni.
Buddugoliaeth dros afiechyd a thros farwolaeth a gawn yr
yr adnodau hyn. Dau berson mewn angen, un yn wr pwysig
yn gweithio yn y synagog ar wraig yn neb o bwys, ond
yna gwelwn Crist yn helpu pob math o bobl mewn pob math
o argyfwng. Tri peth sydd yn sefyll allan yr yr adnodau
ffydd i beidio rhoi fyny, gobaith i edrych ymlaen a
chariad Duw yn gofalu amdanom.
Daeth dydd Mercher lawer rhy fuan, wedi gweddau,
brecwast yna cafwyd amser o fawl, Parch. Robert Parry
Wrecsam oedd yn cyfeilio eleni, cafwyd canu bendigedig
ar emynau hen a newydd.
Am 9.45 ceir cyfle i rannu profiadau, cyfle i rai
ddiolch am iachd, ac i eraill gyfle i rannu beth bynnag
fo ar eu calonnau.
Am 11.00 cafwyd gwasanaeth Bendithio dan ofal Euros
Jones Evans, darllenwyd o Luc 9, Y mab ar ysbryd aflan
arno. Yma gwelwn boen y tad ar mab, felly mae arnom
ninnau o bryd iw gilydd, bywyd wedi mynd yn drech na ni
anodd gweld y ffordd allan or twll yr ydym yr
ffeindio ein hunain yno. Ac ar yr adegau hynny mae Duw
yr gofalu fod yna bobl yna i ni yn ein cyfnodau o
argyfwg. Dywedodd, The Christian is the bearer of the
presence of God to other people. Rhaid felly gredu yr
addewid y Gair, dylair disgrifiad o Iesu Grist yn
iachu y bachgen ai roi yn l yn gyfan iw Dad fod yn
ddigon in cynnal ni.
I ddiweddu y tridiau arbennig hyn cawsom gwmni y
Parch. Dafydd Andrew Jones ar Parch. Ddr. Maksal
Hynniewta sydd yn bennaeth yn goleg diwinyddol John
Roberts yn Shillong, Gogledd Dwyrain India. Clywsom
ganddo am y diwygiad sydd wedi torri allan yno yn
ddiweddar ac eu bod hwy yn gweddo dros Eglwys
Bresbyteraidd Cymru ar i ninnau gael profi fel hwy
adfywiad yr Ysbryd Gln.
In harwain at fwrdd y cymun aeth y Parch. Dafydd
Andrew a ni i ben yr Wyddfa, ar hyd tri llwybr gwahanol
gyda thair golygfa wahanol o bob ochr ond y tri llwybr
yn arwain ir un lle. Darlun or Drindod, y Tad, y Mab
ar Ysbryd Gln, perthynas, partneriaeth a chariad yn
cysylltu y cyfan i gilydd. Beth yw ein rhan ni yn y
bartneriaeth tybed? Ein bod yn byw mewn cymuned Duw yn
adeiladu gydan gilydd fel y cawn ein hanfon allan ir
byd i weithio, i garu yn nerth Duw ac i weithredu yn ei
Air Ef.
Daethom yno yn sychedig ond fe gawsom ein harwain at
ffynnon i ddiolch am y dwr bywiol syn ein hadfywio ac
am fod gennym addewidion yn Iesu Grist o lle i ddod o
hyd ir dwr hwn.
Diolch i Marian Jones ar pwyllgor, y siaradwyr am yr
holl drefniadau ac i ffrindiau, hen a newydd am
gyfoethogir profiad unwaith eto.
Nerys Butler,
Cefnddwysarn, Bala.
Yn l i dudalen Y Goleuad