Wrth ichi droedio drwy ddrws Coleg Trefeca a chael eich
croesawu gyda choflaid a chusan neu ysgwyd llaw gwresog
wedich taith, cewch ymdeimlad o dangnefedd di-ben-draw.
Profodd Elen Ogwen Jones oedd yno ar ran yr
ymddiriedolwyr hynny wrth inni ymgynnull. Waeth be foch
statws nach swydd, gwyddwch bod goddefgarwch a chariad
yn cartrefu yno does neb yn ddieithr am hir a chrir
cymuned glos cyn pen dim.
Cyrhaeddodd rai ohonom a deithiai or Gogledd a Glannaur Mersi
ar nos Sul y nawfed o Fedi gan ddod n pryd nos ein
hunain er mwyn dadflino a pharatoi Ystafell Defynnog
(syniad da er mwyn bod yn ffres ar gyfer y Sesiynaur
Pnawn Canlynol) Roedd diwyg y lle yn ddestlus iawn ar
waliau lliw briallu yn pefrion yr haul ar gerddi
trwsiadus yn ein gwahodd i fynd am dro yn nhes yr haf
bach Mihangel. Hyfryd oedd cael lle cyfforddus a gln i
roi pen i lawr, gyda chyfleusterau hwylus iawn ar gyfer
yr anabl. Doedd dim yn ormod o drafferth ir staff dan
law Mair Jones ag Alun Parry a pharatowyd prydau
gwahanol ar gyfer y rhai a ddioddefai glefyd siwgr, neu
alergedd i gynnyrch llaeth neu gluten neu a ddewisai
beidio a bwyta cig -dim rhyfedd y cawsant Safon Aur fel
Gwobr Glendid Bwyd gan Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru pan
yi archwiliwyd gan Gyngor Powys ym Mehefin 2007.
Deuair grwp o Arfon, Gwynedd, Dyffryn Clwyd a Dyffryn Conwy,
Gwent, Trefaldwyn, Powys, Wrecsam a Lerpwl a bu llawer
or aelodau yn gofalu am y Boreol ar Hwyrol Weddi, ar
fendith cyn bwyd a ches innau gyfle i wneud fy rhan wrth
gyfeilio ir emynau. Gan bod traean ohonom yn medru
Cymraeg roedd hin hyfryd cael dweud pader a gras, a
chanu fersiynau or emynau yn ein mamiaith gan ddod a
naws ddwyieithog ir encil.
Jean Davies a Peter Ashton oedd yn ein harwain ac er nad oedd
rheidrwydd ar neb i fynychu pob sesiwn, ni fethom yr un
gan y teimlem eu bod yn lleshad pur! Byddwch
chwithaun berffaith oedd y thema eleni a thrafodwyd
y gwahanol ystyron ir gair yn ein bywyd bob dydd, a
sylweddolwyd nad oedd rhai achlysuron yn berffaith gan
fod rhywun neu rywbeth ar goll! Dyna gyfrinach rhyfeddod
y Tri yn Un, yn gyflawn a pherffaith. Aethpwyd ymlaen i
drafod Icon Rwsiaidd or bymthegfed ganrif gan Rublev
oedd yn cyfleur Drindod drwy symbolau a chafwyd
trafodaeth ddifyr ar sut y defnyddiai rai gweinidogion
bethau cyffredin ir un perwyl meillionen,
Toblerone , balwn glir gyda thair fach y tu mewn neu
Jaffacake.
Rhwng sesiynau roeddem yn rhydd i grwydror gerddi ar ardd
lysiau a ildiodd lawer o brydau blasus eleni, diolch i
waith gwirfoddol gwr un or cynorthwywyr, neu ymweld r
Capel Bach.
Bu i Peter Ashton syn feddyg wedi ymddeol wahaniaethu rhwng
Iachau a Gwella gan ganolbwyntio ar yr ystyr bod
rhywbeth yn berffaith gan ei fod yn gweddu ir pwrpas
yi crwyd. Dangosodd lun or Croeshoeliad a beintiwyd
gan Matis Grunenhald sydd yn darlunio erchylltrar
weithred a dioddefaint Crist. Fei defnyddiwyd gan
Fynachod mewn ysbyty ller oedd y cleifion, drwy
uniaethu Christ yn cael lleshad a gobaith bod trydydd
dydd ar l pob Croes, a cheir iachd er nad oes gwellhad
yn bosibl.
Cofier bod methu maddau yn arwain at salwch corfforol a
meddyliol ac awgrymodd Margaret Quale, syn offeiriad
Anglicanaidd o Crosby, y gellid goresgyn hyn drwy
Fyfyrio. Paratdd hi ar Parch Kathie Bennett o Knotty
Ash nifer o fannau yn Ystafell Defynnog i arwain y
meddwl drwy ddefnyddior synhwyrau. Cawsai gweithred
syml megis ysgrifennu adnod neu bennill, clymu cortyn,
chwythu swigod, synfyfyrio ar ein llun mewn drych,
gafael mewn carreg lefn, cynnau cannwyll, gweld l
traed, darllen stori ,lliwio neu greu darlun effaith
gathartig. Roeddem yn rhydd i ddefnyddior lle fel y
mynnem.
Diweddwyd bob nos gyda myfyrdod oedd yn ein hymdawelu a rhoi
inni ymwybyddiaeth ddyfnach or thema. Cafwyd un
myfyrdod pwerus iawn drwy inni ddychmygun hunain yn
rhan o storir wraig a iachawyd or gwaedlyd, ac un
arall mwy gweledol gydag arddangosfa Hydrefol lenwain
ffroenau ag arogl dail crin a choed.
Bu defnyddior synhwyraun arf gre i ddatod clymur galon gudd,
ac er na welwyd neb wedi eu llorio gan yr Ysbryd neun
rhydd ou maglau fel y cred rhai syn digwydd yn y
Weinidogaeth Iachau, rhannwyd sawl cyfrinach,
gwnaethpwyd llawer cyfaddefiad, ymddihatrwyd oddiwrth
ofnau a symudodd sawl un ou man diogel am iddynt gael
clust i wrando. Gwyddent fod rhai yno i ymddiried
ynddynt a theimlent gariad Duw yn eu hamgylchynu.
Coron y cyfan oedd derbyn cymun ac eneiniad dan ddwylor Parchgn
Nerys Tudor a Margaret Quale, ac yn iach ni tua thre
wedin bendithio mewn encil oedd yn falm ir enaid. Pam
na ymunwch chi ni or 8fed ir 11eg o Fedi 2008? Mae
fenw i i lawr!
Nesta Davies, Abergele.
Yn l i dudalen Y Goleuad