Coleg Trefeca Hydref 2007
Roedd tua deg ar hugain ohonom o gwmpas y byrddau yn
mwynhau clamp o swper blasus ac yn cael ein cofleidio
gan groeso cynnes ac awyrgylch gyfeillgar Trefeca. A
dyna ni, Penwythnos Cymorth Cristnogol 2007 wedi
dechrau. Fel arfer, roedd y llywydd, y Barch Judy Ford,
ar ysgrifennydd, y Barch Catrin Roberts, wedi gwneud
eu gwaith yn drylwyr ar penwythnos yn rhedeg mor
esmwyth or naill weithgarwch ir llall nes ei bod yn
anodd sylweddoli gymaint o waith oedd wedi bod o flaen
llaw.
Judy ddechreuodd y rhaglen ar y nos Wener. Aeth ni
gyda hi yn l i Sierra Leone. Gwelsom luniau o dlodi
enbyd y wlad roedd teithio ar y fath esgus o ffyrdd
yn amlwg yn brofiad na fydd Judy byth yn ei anghofio.
Ond ynghanol y lluniau o dlodi, yr hyn safodd allan yn
eglur oedd awydd y bobl i wella eu byd. Gwelsom a
chlywsom am lawer iawn or prosiectau fydd ein harian yn
mynd iw cynorthwyo. Mae llawer iawn or gwaith yn rhan
o waith yr Eglwys Fethodistaidd yno, a honnon amlwg
wedi canfod dan drueni dyn ei fri, ai dwylo
wrthin estyn iddo win ac olew Calfar. Roedd y
sesiwn yn ysgogiad ir rhai oedd heb wneud llawer o
ymdrech gydar apl hyd yma ac yn sbardun ir rhai oedd
wrthi i wneud mwy! Wedi epilog yng ngofal Catrin, aeth
nifer ohonom, yn groes ir arfer, ir gwelyn go handi!
Bore Sul, wedi sesiwn byr i adlewyrchu ar y
penwythnos, a phaned wrth gwrs, aethom i lawr ir Capel
Bach lle arweiniodd Catrin ni, gyda help Judy, at Fwrdd
yr Arglwydd, gan dynnu holl ddysgu a thrafod y
penwythnos at ei gilydd o flaen Duw.
A beth, meddwch chi a ddigwydd i Ddydd Sadwrn? Wel, am
ddiwrnod! Roedd popeth yn cydblethu i fod yn ddiwrnod
cyfan o ystyried Newid Tymheredd y Byd an cyfrifoldeb
ninnau ynglyn hyn. Llywydd y Gymanfa Gyffredinol, y
Parch John Owen, arweiniodd sesiwn gyntaf y bore. Roedd
hon yn gyfuniad o astudiaeth Feiblaidd ac addoliad.
Dechreuodd gyda Genesis ac olrhain dysgeidiaeth y Beibl
ar agwedd Duw tuag at y Greadigaeth trwyddo or dechrau
ir diwedd. A hynny heb lethu neb, ond ein calonogi an
gwefreiddio an hysgogi. Rydym yn ddiolchgar iawn iddo
am fod gyda ni dros Nos Wener, ac am baratoi mor
eithriadol ar ein cyfer, a hynny ar ganol blwyddyn
eithriadol o brysur iddo.
Paned wedyn, ac un o fisgedi arbennig Trefeca, i
adfywior ymennydd cyn sesiwn o wyddoniaeth a graffiau a
phethau tebyg. Ond ddychrynodd graffiau a siartiau Dr
John Morgan Caerdydd neb. Roedd ganddor gallu i egluro
pethau dyrys mewn ffordd mor ddiddorol a hawdd ei deall.
Gwelsom luniau a chawsom ffigyrau, yn dangos y newid
sydd wedi bod yn nhymheredd y byd dros filiynau a
miliynau o flynyddoedd. Ac yna sylwyd sut roedd y patrwm
yn newid ar newidiadaun carlamu ers y Chwyldro
Diwylliannol. Cawsom gip olwg ar ragamcaniadau gwahanol
ar gyfer y dyfodol. Gwelwyd sut byddai gwneud dim yn
mynd ni ar ein pennau i helyntion mawr, a sut effaith
gai wahanol doriadau ar allyriadau carbon. Daethom i
wybod am nwyon drwg eraill hefyd megis methane
(ac anifeiliaid drwg fel gwartheg!!) Pan for papurau yn
llawn siarad, a neb yn gwybod beth syn iawn, roedd hin
dda iawn cael eglurhad pwyllog, cytbwys gan wyddonydd
dawn cyfathrebu fel hyn, a hynny yn y Gymraeg (efo
cyfieithydd ar y pryd ar gyfer y di-Gymraeg.)
Roedd hin hen bryd cael cinio a phnawn i wagswmera,
cyn dod yn l am baned! (Lle fel yna ydy Trefeca).
Treuliwyd yr awr rhwng te bach a swper yng nghwmnir
Parch Dafydd Andrew Jones. Pan drefnwyd y rhaglen, ef
oedd Ysgrifennydd Bwrdd y Genhadaeth, ond erbyn hyn
maen Ysgrifennydd Bwrdd Bywyd a Thystiolaeth. A dyna
fun ceisio egluro i ni am awr, sef y drefn newydd. Ond
wrth wneud hynny fen hysgogodd ni hefyd gydai
weledigaeth o genhadaeth lawn yr eglwys, syn cynnwys
wrth gwrs gwaith Cymorth Cristnogol. Ond ar y siart (mwy
eto or rheini!) rhyw sbotyn digon bach o fewn Adran yr
Eglwys Fyd-eang, syn un o wyth adran y Bwrdd Bywyd a
Thystiolaeth ydy hwnnw. Nid wyf yn siwr pwy gafodd y
dasg anoddaf ai John yn egluro gwyddoniaeth i ni neu
Dafydd threfn newydd y Cyfundeb! Ond fe lwyddodd y
ddau yn eu tasg yn eithriadol.
Synnwch chi ddim i mi ddweud ei bod yn amser swper
mawr blasus unwaith eto, cyn i Anna Jane ein hysgwyd
allan on hagwedd cysurus bodlon at fywyd. Fe ategodd
hithau lawer or hyn ddywedodd John Morgan. Ond y tro
hyn nid fel ffeithiau gwyddoniaeth ddiddorol, ond fel
her i newid ein ffordd o fyw. Wrth i ni ddechrau eistedd
yn l i fwynhau ei chyflwyniad cawsom ein hysgwyd yn
bellach: holiadur i bawb. Roedd hwn yn profi ein
dealltwriaeth or sefyllfa. Wyddoch chi fod un trip mewn
awyren ar eich gwyliau yn allyrru gymaint o garbon
rhedeg y car am flwyddyn? Ond rhag ofn i ni ddechrau
ystyried ffeithiau fel yn fel ffeithiau diddorol daeth
ysgytwad gwaeth wrth gyrraedd y tri cwestiwn olaf. Ac
fech gadawaf gydar rhain. Beth allwch chi wneud yn
bersonol i leihau eich l-troed carbon? Beth allwch chi
ei wneud fel eglwys leol i leihau eich l-troed carbon?
Beth allwn ni wneud fel Cyfundeb i leihau ein l-troed
carbon? Peidiwch dweud Diddorol iawn gwnewch
rywbeth amdano.
Angharad Roberts, Trefor.
 |
|
Pawb ynghyd wedir Oedfa Gymun ar y bore Sul |
Yn l i dudalen Y Goleuad