ENCIL GWEINIDOGION CYMRAEG
TREFECA, MEHEFIN 2007
Yn nhawelwch Trefeca, yn encil y gweinidogion Cymraeg,
eleni, gofynnodd Parch. Hywel Edwards gwestiwn inni ar y
dechrau. Pam dod ir Encil?
Cafwyd
llawer ateb, gwahoddiad i ddod, cael amser yng nghwmni
Duw, dod yn l ir canol, treiddio i adnabyddiaeth o
Dduw, dysgu darllen yr Ysgrythur mewn ffordd fresh,
pawb ai ateb personol, ac ateb efallai oedd yn wahanol
ir un a gafwyd ar y diwedd.
Criw
bach oeddym, ond criw gafodd fendith a boddhad o fod yng
nghwmni Duw drwyr Beibl. Seliwyd yr encil ar adnod o
Philipiaid pennod 3, adnod 10, Fy nd yw ei adnabod ef
a grym ei atgyfodiad, a chymdeithas ei ddioddefiadau
wrth gael fy nghydymffurfio ai farwolaeth ef. Annogwyd
ni i ddarllen y bennod, gan ei hail adrodd drosodd a
throsodd, ar ein pen ein hunain yn yr ardd, a theimlo
presenoldeb Duw.
Astudio
gwahanol ddarnau or ysgrythur a wnaed bob dydd, gan
ddilyn yr un patrwm, eu darllen yn uchel, gweddo, ac
yna dod yn l at ein gilydd i drafod.
Buom
yn Philipiaid, Llyfr Cyntaf Ioan, Salm 65 a Rhufeiniaid
7 a 8, a gweld rhywbeth gwahanol yn y darlleniadau, wrth
ir ysbryd ein harwain, teimlo fod Duw yn siarad trwy
rai or geiriau. Roedd yr awyrgylch yno yn ein codi i
dir uchel iawn ambell dro, a phawb yn falch o fod yno.
Nid encil in dysgu am air Duw oedd hwn, ond encil i
wrando ar Dduw yn siarad drwy ei air.
Roedd
y Parch. Hywel Edwards wedi paratoi yn ofalus ar ein
cyfer ac yn ein hannog i gyfarfod Duw o flaen ei orsedd,
drwy weddo a phrofi Theophonir Beibl, ac ymarfer
gweddor darlleniadau.
Moliannwyd
Duw yn y Salmau drwy fynd allan ir ardd, cerdded o
gwmpas ac adrodd darnau syn rhoi clod a mawl ir
Arglwydd cyn uched a phosibl. Profiad gwahanol oedd
gweld pawb yn mynd blith drafflith o gwmpas yr adeilad
yn yr ardd, yn gweiddir ysgrythyr ar dop ei lais. Nid
yn unig yr oedd Hywel yn ein harwain, ond roedd hefyd
yn bugeilio a chafodd aml i boen meddwl ei wyntyllu, ai
gyflwyno i Dduw yn ystod yr amser.
Cawsom
amser rhydd difyr, bwyd ardderchog, a chwmnaeth
gyfeillgar. Diweddglo arbennig oedd y cymun yn y capel
bach, ar rhannu profiadau. Allai ddim meddwl am le
gwell i fod am dridiau ym Mehefin nar encil, cofiwch
amdani a dowch i gael adnewyddiad llwyr.
Parch. Olwen E. Williams.
Pwyllgor Y Weinidogaeth Iachu
Ar fore hyfryd o fis Hydref, teithiodd 19 o bobl o Fn,
Powys, Lerpwl, Meirionydd, Dyffryn Clwyd a Sir y Fflint
i Eglwys Y Berthen, Licswm ger Treffynnon i Ysgol Undydd
Y Weinidogaeth Iachu. Wedi i ni dderbyn croeso cynnes a
phaned a baratowyd gan ddwy o chwiorydd yr eglwys
estynnwyd croeso gan lywydd ein pwyllgor Y Parchg D.
Rees Roberts, Llanuwchllyn cyn iddo yntau ein harwain ni
mewn defosiwn, gan roi pwyslais ar fod yn benodol yn ein
gweddau. Y Parchg Huw P. Davies, Yr Wyddgrug,
arweiniodd mewn Astudiaeth or Gair. Fe gynorthwyodd ni
i edrych ar nifer o hanesion or Testament Newydd ller
oedd Iesun iachur cleifion. Cyflwynodd nifer o
gwestiynau a wnaeth i ni ystyried ein dealltwriaeth
bersonol ni or Gair. Cwestiynau fel, Ydi afiechyd yn
ein gwneud nin ofnus, os na, beth sydd? Yn un or
hanesion mae disgyblion Iesu yn gofyn am Iesu Pwy ydi
hwn? gofynnodd Huw i ni ystyried y cwestiwn canlynol:
Pwy a dybia di yw Iesu? Cafwyd orig ddifyr ac
addysgiadol yn gwrando a rhannu n gilydd o dan ei
arweiniad. Wedi toriad i ginio a derbyn croeso dwy arall
o chwiorydd yr eglwys treuliwyd cyfnod mewn gweddi ac
eiriolaeth o dan arweiniad y llywydd. Daeth y diwrnod i
ben wrth Fwrdd y Cymun o dan arweiniad Gweinidog Eglwys
Y Berthen, Y Parchg Elfed ap Nefydd Roberts. Ar ddiwedd
y gwasanaeth arbennig hwn roedd dau o ddynion y Berthen
yn y gegin yn paratoi paned cyn i bawb droi yn l iw
cartrefleoedd. Yn sicr bydd profiadaur Ysgol Undydd hwn
yn aros ar gof bob un ohonom am amser hir. Diolch i Dduw
am Ei fendithion.
Menna Ll. Green (Ysgrifennydd)
Yn l i dudalen Y Goleuad