Oes, mae pethau anghyffredin yn digwydd ym Mhwllheli y
dyddiau yma. Anghyffredin iawn hefyd. Chwi gofiwch ein
bod wedi cael oedfa awyr agored fendithiol ar fin y
traeth ym mis Gorffennaf. Ni fu pall ar y sgwrsio ar
trafod wedi hynny. Do, fe gyffyrddwyd calon llawer un y
pnawn hwnnw.
A
dyma ni eto ar y Sul cyntaf o Fedi yn cael profiad
ysgubol arall. Nid yn yr awyr agored y tro yma, ond o
fewn muriau Capel y Drindod (Salem) a hynny ar y Sul
swyddogol cyntaf ir gweinidog, y Parch. Bryn Williams,
fod yn l oi wyliau.
Roedd
si ar ld fod bedyddio i fod y bore hwnnw. Bedyddio
saith! Dau fabi bach (Harri ac Aaron), un plentyn
oddeutu dwy oed (Lowri) a phedwar oedolyn, sef rhienir
plant. Roedd y ddwy fam (Victoria a Lorna) yn chwiorydd
ar ddau dad (Christopher ac Ian) yn gefndryd.
Yng
nghanol y sgwrsio diddan yn y cyfarfodydd paratoi ar
aelwyd Bryn, canfyddwyd nad oedd yr un or rhieni wediu
bedyddio er bod eu teuluoedd wedi bod chysylltiad
rhai o gapelir ofalaeth yn y gorffennol a bod y ddwy
fam wedi mynychu ysgol Sul pan yn blant. Profiad
amhrisiadwy, felly, oedd gweld awydd unfrydol gan y
pedwar i gael eu bedyddio run pryd u plant.
Nid
yw babi bach yn deall yr hyn syn digwydd pan roir dŵr
ar ei dalcen. Stori wahanol yw hi gydag oedolyn syn
sylweddoli bod rhywbeth arbennig iawn yn digwydd
rhywbeth syn gofyn am benderfyniad ac ymrwymiad or
galon.
Peintio
darlun gln ar ganfas bywyd fel petai. Y cam cyntaf yn
siwrner ffydd Gristnogol syn golygu dod yn eiddo i
Dduw, gan ymuno theyrnas a chymdeithas ddi-ffiniau
sydd ag iddi ddrws agored ld y pen i rai o bob oed, o
bob lliw, o bob gallu, y cryf ar gwan, y tlawd ar
cyfoethog. Fel y dywedodd Bryn ar ei bregeth, dyma gyfle
newydd, dyma fywyd newydd ac amser i wneud addunedau or
newydd.
Ni
ddylid anghofio wrth gwrs bod cyfrifoldeb arbennig gan y
gynulleidfa syn tystio ir bedyddio. Ac roedd
yna gynulleidfa niferus iawn. Roedd oddeutu trigain o
deulu heb sn am yr un nifer, a mwy, o aelodau. Tybed
faint ohonom fydd yn cofio ein dyletswydd i gynorthwyor
saith i dyfu yng ngwirioneddaur ffydd ac i ddod hwy i
adnabyddiaeth or Gwaredwr?
Wrth
gyfeirio at y digwyddiad yn ystod oedfar hwyr,
atgoffodd Bryn ni or adnod, Yr oedd holl wr Jwda,
gydau rhai bach, eu gwragedd au plant, yn sefyll o
flaen yr Arglwydd. (2 Cronicl 20, 13).
Sefyll
gerbron yr Arglwydd fel teulu a wnaethpwyd yn Salem y
bore yma hefyd. Oedd, roedd yn brofiad gwych cael bod yn
bresennol yn yr oedfa anghyffredin yma. Oedfa a oedd
iddi rhyw naws arbennig iawn. Pryd eto, tybed, y gwelwn
oedfa oi bath gyda dau deulu, nid yn unig yn cyflwynou
rhai bach i ofal Duw, ond hefyd yn ymgysegruu hunain
ger ei fron? Diolch am gael bod yno.
Glenys Jones
(ar gais y Parch. Bryn Williams).
 |
|
Harri Christopher Williams |
 |
|
Aaron Owen Parry a Lowri Mai Parry |
|
|
|
|
Yn l i dudalen Y Goleuad